Dyddiadau ffenestri mynegi diddordeb Ebrill 2021

Cynllun Crynodeb Ffenestr yn Cau

Digwyddiadau Cyswllt Ffermio

O ganlyniad i’r pandemig, mae Cyswllt Ffermio wedi penderfynu gohirio pob digwyddiad agored a digwyddiadau un i lawer am y tro. Mae wrthi’n cynnal nifer o weithgareddau’n ddigidol neu dros y ffôn lle bo modd.

Ceir mwy o wybodaeth yma:
https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy/beth-sydd-ymlaen

 

Trosglwyddo Hawliau PBS 2021

Gall ffermwyr erbyn hyn drosglwyddo eu Hawliau Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) drwy eu gwerthu, eu prydlesu, neu’u hetifeddu.

Rhaid i hyn gael ei gwblhau drwy RPW Ar-lein. Sylwer y gall gwerth yr hawliau a arddangosir yn eich cyfrif newid.

15 Mai 2021

Cynllun Gwaredu Plaladdwyr Cyfrinachol a Rhad ac Am Ddim 2021

Mae Dŵr Cymru unwaith eto’n rhedeg ei gynllun gwaredu plaladdwyr cyfrinachol a rhad ac am ddim yn 2021.

Mae’r cynllun yn rhan o’r prosiect PestSmart ac mae’n cynnig cyfle i ffermwyr, tyfwyr, ciperiaid, coedwigwyr a rheolwyr tir eraill i gael gwared ag unrhyw blaladdwyr a chwynladdwyr diangen sydd heb drwydded neu wedi darfod, yn ddiogel ac am ddim.

Cliciwch yma i gofrestru.

 31 Mai 2021
 Ffenestr   Hyfforddiant Cyswllt Ffermio

Bydd y ffenestr nesaf ar gyfer gwneud cais am gyllid hyfforddiant yn agor ar Ddydd Llun 3 Mai hyd at Ddydd Gwener 25 Mehefin 2021.

Dylai’r rhai sy’n cofrestru am y tro cyntaf yn ystod y ffenestr sgiliau uchod er mwyn gwneud cais am gwrs hyfforddiant wedi’i ariannu, neu rai sydd angen diweddaru manylion eu cyfrif, gysylltu â Cyswllt Ffermio cyn 17:00 ar Ddydd Llun 21 Mehefin 2021.

Ceir mwy o wybodaeth yma.


3 Mai - 25 Mehefin 2021

Ysgoloriaethau Ffermio Nuffield

Mae ceisiadau Ysgoloriaethau Ffermio Nuffield 2021 ar agor erbyn hyn.

Mae ymgeiswyr llwyddiannus yn tueddu i fod yn rhai sy’n gweithio ym myd ffermio, bwyd neu amaethyddiaeth ac maent yn derbyn bwrseriaeth sylweddol i ariannu teithiau i astudio eu dewis bynciau.

Mae gwybodaeth a manylion ymgeisio ar gael yma: https://www.nuffieldscholar.org/

31 Gorff 2021

FUW yn feirniadol o’r cyfnod ‘mynd yn hawdd’ ar fewnforion o’r UE

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) wedi disgrifio penderfyniad Llywodraeth y DU i ganiatáu i fewnforion o’r UE osgoi gwiriadau tan yr hydref fel ergyd i nifer o gynhyrchwyr y DU, a cham gwag yn nhermau sefyllfa negodi’r DU dros welliannau a fyddai’n helpu allforwyr y DU.

Tra bod gwiriadau trylwyr yn eu lle ar gyfer bwydydd a allforir o’r DU i’r UE ers 1af Ionawr 2021, y bwriad oedd cynnal gwiriadau tebyg ar gynnyrch bwyd a fewnforir o’r UE o 1af Ebrill, yn dilyn cyfnod pontio, i ganiatáu i fewnforwyr addasu i’r sefyllfa ar ôl i’r DU adael Marchnad Sengl yr UE.

Fodd bynnag, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ar 11eg Mawrth na fydd y gofynion rhaghysbysu ar gyfer cynnyrch sy’n dod o anifeiliaid, rhai mathau o sgil-gynnyrch anifeiliaid, a bwyd risg uchel nad yw’n dod o anifeiliaid yn dod i rym tan 1af Hydref 2021. Bydd gofynion tystysgrifau iechyd allforio ar gyfer cig a chynnyrch llaeth, a rhai mathau o sgil-gynnyrch anifeiliaid, yn dod i rym ar yr un dyddiad, ac mae nifer o ofynion eraill wedi’u gohirio tan 2022.

Ar hyn o bryd mae ffiniau’r DU yn gweithredu fel falfiau sy’n gwneud hi’n hynod o anodd a chostus allforio i’r UE yn sgil y gwaith papur a’r fiwrocratiaeth ar ffiniau’r UE, ac eto mae’n hynod o hawdd i’r rhai yn yr UE sy’n mewnforio cynnyrch i’r DU, am fod Llywodraeth y DU wedi hepgor yr angen am wiriadau tebyg ar ein ffiniau ni.

Cyfarfod bwrdd crwn gyda George Eustice AS yn gyfle i ofyn cwestiynau

Mynychodd Glyn Roberts, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) ac aelodau o’r staff gyfarfod bwrdd crwn gyda’r Gwir Anrhydeddus George Eustice AS, Ysgrifennydd Gwladol yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig San Steffan ar 18fed Mawrth 2021.

Yn ystod y cyfarfod, pwysleisiodd FUW yr angen am eglurder ynghylch y cyllid ar gyfer amaethyddiaeth yng Nghymru. Nid yw Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa o hyd i neilltuo cyllid ar gyfer amaethyddiaeth o 2023 ymlaen, gan greu ansicrwydd ynghylch parhad y taliadau BPS a’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd, ar ben y cwtogiad o £137 miliwn i gyllideb amaethyddol Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

Yn wir, mi ymrwymodd Llywodraeth y DU yn ei maniffesto i sicrhau'r un lefel o gyllid yn union ag y mae Cymru wedi’i dderbyn yn flaenorol gan yr UE i gefnogi amaethyddiaeth, gan addo na fyddai ‘yr un geiniog yn llai’. Mae angen sicrwydd ar y diwydiant am y gyllideb a phryd y bydd taliad aml-flwyddyn yn cael ei gynnig, yn hytrach na chyllideb flynyddol.

FUW wedi’i gythruddo gan hysbyseb PETA yn y Daily Post

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) wedi anfon llythyr o gŵyn at y Daily Post yn dilyn ymateb o du ei haelodau nas gwelwyd ei debyg o’r blaen i’r hysbyseb PETA diweddar a ymddangosodd yn rhifyn Dydd Mercher 24ain Mawrth o’r papur.

Mae aelodau FUW wedi mynegi dicter, rhwystredigaeth a siom bod papur sydd â chynulleidfa wledig ac amaethyddol gref wedi cyhoeddi hysbyseb sy’n annog ymddygiad anghyfrifol a pheryglus, fel y gwna’r hysbyseb PETA, sy’n gofyn i aelodau o’r cyhoedd roi gwybod os welant achosion o fuchod sâl ar ffermydd y DU.

Mae’r llythyr yn datgan bod annog y cyhoedd i dresmasu ar dir ffermio nid yn unig yn aflonyddu ar yr anifeiliaid, ond mae hefyd yn beryglus i’r sawl sy’n mynd yn agos at y da byw - yn enwedig am y bydd llawer o’r buchod â lloi yr adeg hon o’r flwyddyn.

Mae'n bosib iawn y bydd unigolion sy’n gweithredu o ganlyniad i’r hysbyseb hwn yn camddeall y sefyllfa, a gall camddealltwriaeth o’r fath wneud niwed i enw da’r diwydiant, os bydd y cyhoedd yn penderfynu rhannu fideos a lluniau allan o’u cyd-destun, yn seiliedig ar eu dealltwriaeth rannol o beth yw gofal cywir o anifeiliaid fferm.

I wneud iawn am hysbyseb mor amhriodol, mae FUW wedi gofyn am dudalen lawn i’r diwydiant ffermio, er mwyn rhoi sylw i’r broblem o dresmasu ar dir ffermio, a rhoi cyfle i’r diwydiant roi esboniadau cywir o faterion lles anifeiliaid, y tu hwnt i’r adran ffermio arferol.

Gwnaed y penderfyniad i beidio â rhoi cyhoeddusrwydd pellach i’r hysbyseb drwy ddatganiadau i’r wasg neu sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Gweminar FUW ‘Cŵn yn Poeni Da Byw – ydych chi’n ymwybodol o’ch hawliau?’ yn rhoi gobaith

Mae troseddau gwledig wedi dod yn broblem fawr i gymunedau ffermio a chefn gwlad Cymru, gyda mwy a mwy o adroddiadau am gŵn yn poeni da byw, a lladrata da byw a pheiriannau amaethyddol ar gynnydd.

Y mwyaf perthnasol o’r rhain i’r diwydiant amaeth yng Nghymru yw cŵn yn poeni ac yn ymosod ar dda byw. Mewn ymdrech i daclo ymosodiadau ar dda byw a chodi ymwybyddiaeth o’r problemau sy’n gysylltiedig â digwyddiadau o’r fath, lansiodd FUW ei ymgyrch ‘Eich Ci Chi, Eich Cyfrifoldeb Chi’ yn 2019, oedd yn cynnwys arwyddion rhybudd ar gatiau ffermydd, i ddarparu ffermwyr â ffordd ymarferol o atgoffa’r rhai sy’n cerdded eu cŵn yn ymyl da byw o’u cyfrifoldebau a’r peryglon posib.

O ystyried y cynnydd sylweddol yn y nifer o bobl a fu’n defnyddio hawliau tramwy cyhoeddus yng Nghymru yn ystod y pandemig, ac yn sgil hynny, y cynnydd yn nifer y cŵn sy’n cael eu cerdded yn ymyl da byw, cynhaliodd FUW weminar ar-lein yn dwyn y teitl ‘Cŵn yn Poeni Da Byw – ydych chi’n ymwybodol o’ch hawliau?’ gyda siaradwyr o Dîm Troseddau Gwledig Heddlu Gogledd Cymru a Heddlu Dyfed Powys, i daflu goleuni ar y cyfreithiau presennol mewn perthynas â chŵn yn ymosod ar dda byw.

Yn ôl Tîm Troseddau Gwledig Heddlu Gogledd Cymru, roedd 449 o achosion o gŵn yn poeni da byw rhwng 2013 a 2017, gyda 648 o anifeiliaid yn cael eu lladd a 376 yn cael eu hanafu, er bod 89 y cant o’r ymosodiadau hyn gan gŵn oedd wedi dianc o’u cartref.

Fodd bynnag, am nad yw’r Swyddfa Gartref yn gofyn bod lluoedd heddlu’n cofnodi ymosodiadau ar dda byw, ni wyddys beth yw maint yr effaith go iawn ar yr economi, cyflenwadau bwyd, cymunedau a busnesau ffermio.

Crynodeb o newyddion Mawrth 2021

i) Cytuno ar ailddosbarthiad yr ardoll cig coch

Bydd ailddosbarthiad ardollau cig coch yng Nghymru, Lloegr a’r Alban yn cael ei roi ar waith o 1af Ebrill 2021 er mwyn ystyried symudiadau da byw trawsffiniol.

Bydd y symudiad hwn yn caniatáu talu arian ardollau i fwrdd ardollau’r Wlad y mae’r anifail wedi treulio’r rhan fwyaf o’i oes ynddi, yn hytrach na ble cafodd ei ladd. Er y bydd hyn yn helpu Hybu Cig Cymru, y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (AHDB) a Quality Meat Scotland (QMS) i ganolbwyntio ar eu hymgyrchoedd marchnata unigol, bydd prosiectau ar y cyd er budd pob un o’r tair gwlad yn parhau.

ii) FUW yn croesawu rôl Cydgysylltydd Troseddau Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt Cymru gyfan

Mae cyhoeddiad Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths ynghylch bwriad Llywodraeth Cymru i sefydlu rôl benodedig Cydgysylltydd Troseddau Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt ar gyfer Cymru gyfan wedi’i groesawu gan Undeb Amaethwyr Cymru.

Yn ei chyhoeddiad, cytunodd y Gweinidog i ddarparu cyllid ar gyfer y rôl beilot 12 mis, ac mae wedi ysgrifennu at Brif Gwnstabliaid y 4 heddlu yng Nghymru a’r Comisiynwyr Heddlu a Throsedd yn gofyn am eu cydweithrediad a’u cefnogaeth i benodi Cydgysylltydd Troseddau Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt ar gyfer Cymru gyfan.

Rheoliadau Adnoddau Dŵr ‘NVZ’ – beth nesaf?

Serch yr ymdrech arwrol a wnaed gan y diwydiant ffermio i annog Aelodau’r Senedd i bleidleisio i ddiddymu Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) yn y Senedd ar 3ydd Mawrth 2021, cafodd y cynnig ei drechu o drwch blewyn, o 30 pleidlais i 27.

Felly, fel mae pethau’n sefyll ar hyn o bryd, bydd y rheoliadau’n dod yn rhan o’r gofynion trawsgydymffurfio dan Ofyniad Rheoli Statudol (SMR) 1 o Ebrill 2021.

  • Wythnos yn dechrau 22ain Mawrth 2021 – Taflen ffeithiau SMR1 ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru a neges yn cael ei hanfon i bob ffermwr drwy RPW Ar-lein. Mae’r daflen ffeithiau’n amlinellu’r rheoliadau sydd ar fin dod yn gyfraith o 1af Ebrill, a bydd yn cael ei diweddaru cyn y newidiadau yn 2023 a 2024.
  • Wythnos yn dechrau 22ain Mawrth 2021 – Canllawiau llawn ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru, gan gynnwys dau gwestiwn a ofynnir yn aml – bydd un o’r rheiny’n canolbwyntio ar ffermwyr tenant.
  • Cynhyrchir arweinlyfr maes o law i helpu ffermwyr i wneud y cyfrifiadau gofynnol, ac i roi arweiniad ar y cofnodion a fydd yn ofynnol o 1af Ionawr 2023.
  • 25ain Mawrth 2021 - bydd Cyswllt Ffermio’n lansio canllawiau fideo. Hefyd, bydd modiwlau e-ddysgu, digwyddiadau ar-lein a digwyddiadau wyneb yn wyneb (pan fydd cyfyngiadau Covid-19 yn caniatáu) yn cael eu lansio dros y misoedd nesaf.

Bydd yr amserlen, ynghyd â chrynodeb o’r rheoliadau ar gael yn rhifyn Ebrill Y Tir.

Ymddengys bod y frwydr hon wedi’i cholli ond nid yw’r rhyfel drosodd o bell ffordd. Mae FUW, ar ran ei aelodau, wedi ymrwymo i wneud ei orau i ddwyn y Llywodraeth nesaf yng Nghymru i gyfrif, i ddiddymu, neu o leiaf i newid trywydd y rheoliadau draconaidd, costus ac anghymesur hyn.

 

 

Y prif fanwerthwr Morrisons yn targedu ffermydd carbon sero-net Prydain

Mae’r prif fanwerthwr Morrisons wedi cyhoeddi cynlluniau i ddod yn archfarchnad gyntaf yn y DU i gael ei chyflenwi’n gyfan gwbl gan ffermwyr carbon sero-net Prydain erbyn 2030.

Fel cwsmer mwyaf ffermwyr Prydain, sy’n cefnogi tua 3,000 o gynhyrchwyr, mae Morrisons yn disgwyl cyrraedd y nod hwn 5 mlynedd o flaen gweddill y farchnad.

Bydd cynhyrchwyr dethol yn dechrau edrych ar strategaethau i leihau allyriadau carbon ar hyd y gadwyn gyflenwi, gan gynnwys magu bridiau gwahanol, cwtogi teithiau bwyd, ynni adnewyddadwy, adeiladau allyriadau isel, a lleihau defnydd o ddŵr a gwrtaith.

Byddant hefyd yn edrych ar wrthbwyso’r allyriadau carbon drwy blannu glaswelltir a meillion, adfer mawndiroedd a phlannu coed.

Er mwyn cyrraedd ei nod yn 2030, mae Morrisons yn bwriadu gwerthu ei holl wyau â statws carbon sero-net erbyn 2022, a gwneud yr un peth gyda chig eidion erbyn 2025.

HSBC y DU yn lansio cronfa £550m i gefnogi Busnesau Bach a Chanolig yng Nghymru

Mae HSBC y DU wedi lansio cronfa fenthyca gwerth £550m yn ddiweddar i helpu i gefnogi twf Busnesau Bach a Chanolig yng Nghymru.

Mae hon yn rhan o gronfa DU fwy o faint, gwerth £15bn, sy’n cynnwys potiau arian mwy, a glustnodwyd ar gyfer busnesau sy’n masnachu’n rhyngwladol (£2bn), y sector amaethyddol (£1.2bn) busnesau o fewn y sector technoleg (£500m) a busnesau masnachfraint (£500m).

Yn ôl ymchwil a wnaed gan HSBC, mae 62% o fusnesau’r DU yn bwriadu buddsoddi mwy dros y flwyddyn nesaf, er gwaetha’r pandemig Covid-19 presennol.

Mae’r gronfa’n anelu at helpu busnesau i fanteisio ar gyfleoedd newydd a chyrraedd nodau a fydd o gymorth i’r diwydiant amaeth yng Nghymru, o ystyried yr ansicrwydd ynghylch dyfodol taliadau cymorth, a rheoliadau costus.

Mae FUW yn croesawu’r ffaith bod HSBC yn cydnabod pwysigrwydd Busnesau Bach a Chanolig o fewn economi’r DU, ffaith sy’n dod yn fwy amlwg fyth yng nghyd-destun economi cefn gwlad Cymru.

Mae mwy o wybodaeth ar gael yma:
https://www.business.hsbc.uk/en-gb/gb/campaign/fund-for-smes

Cynhadledd Cymdeithas Gwyddor Anifeiliaid Prydain 2021

Bydd Cymdeithas Gwyddor Anifeiliaid Prydain (BSAS) yn cynnal cynhadledd rithwir dros 4 diwrnod, o 12fed i 15fed Ebrill 2021.

Yn dwyn y teitl ‘The Challenge of Change - The New Normal?’, bydd y gynhadledd yn cynnwys dadleuon a gweminarau ar heriau addasu i’r ‘normal’ newydd ar ôl Covid-19 a Brexit.

Bydd siaradwyr rhyngwladol blaenllaw yn rhannu’r datblygiadau ymchwil arloesol diweddaraf ym maes gwyddor anifeiliaid, amaethyddiaeth, polisi a masnach, addysg, a chyfnewid gwybodaeth.

Mae rhai o’r gweminarau allweddol RHAD AC AM DDIM yn cynnwys:

  • Newid hinsawdd a cholli bioamrywiaeth, 17.00 - 18.30 Dydd Mawrth 13eg Ebrill 2021
  • Datblygiadau yn y sector llaeth, 13.00 - 14.30 Dydd Mercher 14eg Ebrill 2021
  • Ffermydd cig eidion y dyfodol, 17.00 - 18.30 Dydd Mercher 14eg Ebrill

Mae gwybodaeth bellach ar gael yma: https://bsas.org.uk/conference

Mae tocynnau i’r gynhadledd gyfan a chyfle i gofrestru ar gyfer y gweminarau am ddim ar gael yma: https://bsas.org.uk/conference/booknow

 

Arolygon a holiaduron Mawrth 2021

i) Cwblhewch yr arolwg ar gysylltedd digidol

Mae Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliad y Merched (NFWI), gyda chymorth FUW, CFfI Cymru, NFU Cymru a CLA Cymru, wedi lansio arolwg sy’n anelu at gael darlun cyflawn o fynediad aelodau at y band eang a chysylltedd ffonau symudol.

Trwy gydol pandemig Covid-19, mae cysylltedd digidol wedi dod yn fwy a mwy pwysig am resymau gwaith a rhesymau personol.

Yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd gan Ofcom yn Rhagfyr 2020, mae 18,000 o gartrefi yng Nghymru heb fynediad i fand eang digonol, sef un sy’n darparu cyflymder lawrlwytho o 10Mb yr eiliad a chyflymder lanlwytho o 1MB yr eiliad.

Mae’r arolwg ar gael yma yn Saesneg a Cymraeg.

Mae’r arolwg yn un cwbl ddienw ac mae’n agored i unrhyw un 16 oed a throsodd tan 31ain Mawrth.

Os hoffech chi gael copi papur o’r arolwg, cysylltwch â Swyddfa NFWI-Cymru drwy Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. neu 029 2022 1712.

 

ii) ‘Yr Arolwg Ffermio Mawr’ – RABI i daflu goleuni ar y materion sy’n effeithio ar bobl sy’n ffermio

Ar 11 Ionawr 2021, lansiodd RABI y prosiect ymchwil mwyaf erioed ar draws Cymru a Lloegr yn ymwneud â llesiant pobl sy’n ffermio. Bydd yr arolwg eang ei gwmpas hwn yn ystyried y berthynas rhwng iechyd corfforol, lles meddyliol ac iechyd busnesau ffermio am y tro cyntaf.

Wrth i’r pwysau allanol gynyddu, bydd yr ymchwil hanfodol hwn yn darparu’r trosolwg mwyaf cynhwysfawr erioed o’r gymuned ffermio. Bydd yn nodi’r heriau penodol a wynebir gan genhedlaeth o bobl sy’n ffermio, ac yn amlygu sut mae’r rhain yn effeithio ar fywyd bob dydd.

Mae FUW yn cefnogi’r fenter bwysig hon ac yn annog pawb i gyfrannu at yr ymchwil er mwyn cyrraedd y targed o gasglu 26,000 o ymatebion i’r arolwg.

Nodau’r #BigFarmingSurvey (#ArolwgFfermioMawr)

  • Deall llesiant cenhedlaeth sy’n ffermio
  • Deall iechyd ein ffermwyr a’u busnesau
  • Ennill dealltwriaeth o bwysau ac effeithiau allanol
  • Llunio cymorth a gwasanaethau yn y dyfodol

Pwy all gymryd rhan: Ffermwyr, gweithwyr fferm, eu cymheiriaid, a phlant sy’n
oedolion
Pryd: 11 Ionawr - 31 Mawrth 2021
Ar-lein: http://ex.ac.uk/BigFarmingSurvey
Print: Gofynnwch am gopi printiedig gan Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

Neilltuwch 15 munud i gymryd rhan drwy ymateb i’r arolwg printiedig neu drwy lenwi ein ffurflen ar-lein yn Gymraeg neu Saesneg.

 

iii) Arolwg BeefQ o’r farn ar ansawdd bwyta cig eidion

Yn ystod dwy flynedd diwethaf y prosiect BeefQ mae’r gwaith wedi canolbwyntio ar bennu nodweddion y carcasau a gyflwynir i’w lladd yng Nghymru, a datblygu system o broffwydo ansawdd bwyta cig eidion, yn seiliedig ar system MSA Awstralia, ond wedi’i wirio gan ddefnyddio samplau cig eidion y DU a chynnal profion blasu ymhlith defnyddwyr.

Dangosodd gwaith y panel blasu defnyddwyr bod pobl yn fodlon talu dwbl am gynnyrch o’r ansawdd gorau, ac erbyn hyn mae gan y model proffwydo ansawdd bwyta cig eidion y potensial i arwain at ansawdd bwyta o safon warantedig, a mwy o hyder yng nghig eidion Cymru ymhlith defnyddwyr.

Nawr bod y gwaith hwn wedi’i gwblhau’n llwyddiannus, mae’r prosiect yn dechrau ar gyfnod newydd a hanfodol, sef ymgynghori â diwydiannau ffermio a bwyd Cymru a’r DU, i fesur yr awydd/angen am system proffwydo ansawdd bwyta cig eidion, ac i ystyried sut y gellid rhoi system o’r fath ar waith.

Felly hoffai tîm BeefQ annog unrhyw un sy’n gweithio o fewn y gadwyn cyflenwi cig (ffermwyr, lladd-dai, cigyddion, manwerthu), yn ogystal â’r sectorau arlwyo a lletygarwch, i gwblhau’r arolwg. Bydd yr ymatebion yn cyfrannu tuag ar argymhellion ar ddichonolrwydd y system, sut i’w gweithredu, a’r rhwystrau tybiedig rhag gwneud hynny.

I gymryd rhan yn yr arolwg ewch i http://www.beefq.wales/survey.html


iv) Holiadur ar ganfod heigiadau trogod mewn anifeiliaid cnoi cil a’r ffactorau risg cysylltiedig

Mae Ms Sheeza Iqbal, myfyrwraig Gradd Meistr ym Mhrifysgol Hartpury yn gwneud gwaith ymchwil ar ganfod heigiadau trogod mewn anifeiliaid cnoi cil a’r ffactorau risg cysylltiedig.

Bydd yr ymchwil yn cyfrannu at y wyddoniaeth o ran rheoli heigiadau trogod, ac yn codi ymwybyddiaeth o’r heintiau y gall trogod eu lledaenu.

Cedwir yr holl ymatebion yn ddienw.

Gellir cwblhau’r holiadur yma a gellir cysylltu â Ms Sheeza Iqbal ar Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. i gael gwybodaeth bellach.

Dyddiadau ffenestri mynegi diddordeb Mawrth 2021

Cynllun Crynodeb Ffenestr yn Cau

Digwyddiadau Cyswllt Ffermio

O ganlyniad i’r pandemig, mae Cyswllt Ffermio wedi penderfynu gohirio pob digwyddiad agored a digwyddiadau un i lawer am y tro. Mae wrthi’n cynnal nifer o weithgareddau’n ddigidol neu dros y ffôn lle bo modd.

Ceir mwy o wybodaeth yma:
https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy/beth-sydd-ymlaen

 


Grant Busnes i Ffermydd

Mae 8fed ffenestr mynegi diddordeb y Grant Busnes i Ffermydd ar agor erbyn hyn a bydd yn cau ar 9 Ebrill 2021. Bydd ffurflenni ar-lein ar gael i’w llenwi drwy RPW Ar-lein.

Ceir canllawiau pellach a rhestr o eitemau cymwys yma.

9 Ebrill 2021

Taliadau 2021 Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) 

Telir holl daliadau 2021 Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) mewn sterling.

Os ydy’r cais yn un cymwys a’r holl Ddogfennau Ategol angenrheidiol wedi’u derbyn, mae Llywodraeth Cymru’n bwriadu gwneud Rhagdaliad BPS o 15 Hydref 2021, o 70% o’r hyn a ragwelir yw gwerth hawliad BPS terfynol 2021.

Ni fydd angen gwneud cais ar wahân ar gyfer y rhagdaliad hwn.

Bydd taliadau BPS olaf 2021 yn dechrau o 15 Rhagfyr 2021.

 

Cynllun Gwaredu Plaladdwyr Cyfrinachol a Rhad ac Am Ddim 2021

Bydd Dŵr Cymru unwaith eto’n rhedeg ei gynllun gwaredu plaladdwyr cyfrinachol a rhad ac am ddim yn 2021. Bwriedir agor y broses gofrestru yn ystod Ebrill 2021, ond yn y cyfamser, i gael gwybod mwy a chofrestru ar gyfer diweddariadau cliciwch yma.

 

Trosglwyddo Hawliau PBS 2021

Gall ffermwyr erbyn hyn drosglwyddo eu Hawliau Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) drwy eu gwerthu, eu prydlesu, neu’u hetifeddu.

Rhaid i hyn gael ei gwblhau drwy RPW Ar-lein. Sylwer y gall gwerth yr hawliau a arddangosir yn eich cyfrif newid.

15 Mai 2021

Ysgoloriaethau Ffermio Nuffield

Mae ceisiadau Ysgoloriaethau Ffermio Nuffield 2021 ar agor erbyn hyn.

Mae ymgeiswyr llwyddiannus yn tueddu i fod yn rhai sy’n gweithio ym myd ffermio, bwyd neu amaethyddiaeth ac maent yn derbyn bwrseriaeth sylweddol i ariannu teithiau i astudio eu dewis bynciau.

Mae gwybodaeth a manylion ymgeisio ar gael yma: https://www.nuffieldscholar.org/

31 Gorff 2021

FUW yn annog Aelodau’r Senedd i bleidleisio yn erbyn Rheoliadau Ansawdd Dŵr Draconaidd

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) yn annog unrhyw un sydd am weld dull effeithiol, wedi’i dargedu, o wella ansawdd dŵr heb fygwth dyfodol busnesau fferm, i gysylltu â’u Haelod o’r Senedd lleol i’w annog i bleidleisio i ddiddymu’r Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) a osodwyd yn ddiweddar, ar 3ydd Mawrth.

Yn dilyn blynyddoedd o waith gan randdeiliaid fel rhan o Is-grŵp Llygredd Amaethyddol Fforwm Rheoli Tir Cymru, a chyflwyno adroddiad yn Ebrill 2018 yn amlinellu 45 o argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru, mi ddewison nhw, ar 27ain Ionawr, gopïo rheolau Parthau Perygl Nitradau 30 oed yr UE a’u hailbrandio’n Rheoliadau Adnoddau Dŵr.

Er gwaetha’r ffaith bod Cyfoeth Naturiol Cymru, sef prif gynghorydd Llywodraeth Cymru ar faterion sy’n gysylltiedig â’r amgylchedd a’i adnoddau naturiol, eisoes wedi rhybuddio Llywodraeth Cymru y gall y dull Parthau Perygl Nitradau (NVZ) arwain at “ganlyniad croes i’r bwriad”, sef gwaethygu ansawdd dŵr, a’i fod yn cefnogi’r 45 o argymhellion, bydd y rheoliadau newydd hyn yn gosod rheolau NVZ a draws Cymru gyfan.

I grynhoi, bydd hyn yn cynnwys cyfnodau cau ar gyfer gwasgaru gwrtaith a slyri, gwaith papur di-ddiwedd gyda’r cynlluniau rheoli maetholion, cynhyrchu mapiau risg, gan gynnwys cyfrifo’r slyri a gynhyrchir a faint o nitrogen sydd ynddo, yn ogystal â’r gofyniad i allu storio gwerth 5 mis o slyri yn ystod y cyfnod cau o 4 mis rhwng Hydref ac Ionawr.

Yr effeithiau ar fasnachu‘n parhau yn dilyn diwedd cyfnod pontio Brexit

Mae masnach UE cynnyrch bwyd a diod y DU yn parhau i gael ei effeithio yn dilyn diwedd Cyfnod Pontio Brexit.

Croesawyd y Cytundeb Masnach Rydd a arwyddwyd rhwng y DU a’r UE, gan osgoi tariffau o hyd at 50% ar rhai mathau o gynnyrch amaethyddol, er y disgwylid problemau cychwynnol o hyd o ran biwrocratiaeth a gwiriadau ychwanegol ar y ffiniau.

Fodd bynnag, ymddengys bod lorïau gyda llwythi nwyddau gwerth degau o filoedd o bunnau‘n dal i gael eu gwrthod mewn porthladdoedd oherwydd un camgymeriad ymhlith pentwr o waith papur, a bod amrywiadau yn y sylw i fanylder ar Dystysgrifau Iechyd Allforio, i enwi ond ychydig o enghreifftiau, yn destun trafod o hyd yn ystod cyfarfodydd â rhanddeiliaid yn y DU.

Mae’n bryder arbennig bod nifer o’r problemau cychwynnol hyn yn troi‘n broblemau hirdymor sydd angen sylw erbyn hyn, er gwaetha’r ffaith bod lefel y fasnach allforio oddeutu 20% i 50% o’i lefel arferol, ac nad oes fawr ddim allforio anifeiliaid byw oherwydd y prinder o safleoedd tollau ar y cyfandir.

Wrth i wiriadau ychwanegol ddod i rym ar y ffiniau ar allforion i’r UE ar 1af Ionawr 2021, dechreuodd yr UE ar gyfnod gras chwe mis ar gyfer cynnyrch yn cyrraedd y DU. Felly nid yw’r broses drafferthus o gwlbhau Tystysgrifau Iechyd Allforio’n debygol o fynd yn haws, yn gyflymach, neu’n well fyth, yn electronig, nes bod yr UE yn cydnabod pa mor anaddas i’r diben y mae’r system bresennol, ymhen pedwar mis.

Undebau Ffermio a CFfI Cymru’n mynegi pryderon am y Papur Gwyn ar Amaethyddiaeth

Mae FUW, NFU Cymru a CFfI Cymru wedi anfon llythyr ar y cyd at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, yn mynegi pryderon ynghylch cyfeiriad polisi amaethyddol Cymru yn y dyfodol, yn dilyn cyhoeddi Papur Gwyn Amaethyddiaeth (Cymru).

Mae’r llythyr yn galw ar y Gweinidog i ail-ystyried beth ddylai polisi’r dyfodol ei gynnig i Gymru, o ystyried nad oes fawr ddim wedi newid dros y tair proses ymgynghori ers 2018, a bod yna ddiffyg uchelgais o hyd mewn perthynas â dyfodol ffermio yng Nghymru.

Mae’n datgan hefyd “nid yw’r trywydd a gynigir i’w weld yn adlewyrchu natur unigryw ffermio yng Nghymru, sy’n seiliedig ar ffermydd teuluol sy’n cyflenwi ar gyfer ein economi, tirwedd, iaith a diwylliant. Yn hytrach, ac yn destun y pryder mwyaf, ymddengys ein bod yn rhoi polisi ar waith sy’n seiliedig ar ddiffiniad cul iawn o nwyddau cyhoeddus, sef meddylfryd polisi tebyg iawn i’r un a welsom yn deillio o fannau eraill, yn hytrach na pholisi ‘Gwnaed yng Nghymru‘."

Mae’r diwydiant yn cydnabod ac yn croesawu’r angen am newid, yn y gred mai’r prif gyfle yn sgil Brexit oedd datblygu polisi amaethyddol yng Nghymru ar gyfer Cymru, oedd yn canolbwyntio ar ei phobl, a’r tir a ddefnyddir i ffermio a chynhyrchu bwyd.

Defra’n ymateb i berthnasoedd cytundebol yn ymgynghoriad diwydiant llaeth y DU

Mae Defra wedi cyflwyno crynodeb o ymatebion i’r ymgynghoriad ar arferion cytundebu o fewn sector llaeth y DU, a gynhaliwyd rhwng Mehefin a Medi 2020, yn gofyn am farn proseswyr a chynhyrchwyr ar yr angen o bosib i ddiwygio contractau llaeth y DU.

Roedd ymateb Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) yn cynrychioli barn ei Bwyllgor Llaeth a Chynnyrch Llaeth, a chynhyrchwyr llaeth ar draws Cymru, ac mae’n dda nodi bod mwyafrif yr ymatebion a gafwyd gan gynhyrchwyr yn rhannu safbwyntiau tebyg, gan baentio darlun clir ar gyfer Defra a’r Llywodraethau datganoledig.

Mae’r ymatebion yn darparu tystiolaeth gref bod angen deddfwriaeth ar gyfer contractau llaeth, a bod angen llinell sylfaenol statudol i sicrhau bod yr holl gontractau‘n cyrraedd safon dderbyniol. Fel y cynigiwyd gan FUW, roedd mwyafrif yr ymatebwyr, gan gynnwys cynhyrchwyr a phroseswyr, yn cytuno y dylai’r ddeddfwriaeth fod yn hyblyg ac yn glir, a dylai’r partïon contractio allu cytuno ar fanylion megis cyfnodau rhybudd a meintiau, cyn belled â bod y safonau lleiaf yn cael eu bodloni a bod y manylion yn y contractau’n glir.

Crynodeb o newyddion Chwefror 2021

i) Cadeirydd newydd i Hybu Cig Cymru

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths wedi cyhoeddi’n ddiweddar mai Catherine Smith fydd yn cymryd yr awenau oddi wrth Kevin Roberts fel Cadeirydd Hybu Cig Cymru, o 1af Ebrill 2021.

Mae Catherine, sydd â gradd mewn Rheoli Bwyd a Defnyddwyr, yn ymgyghorydd busnes bwyd sydd â thros 20 mlynedd o brofiad yn y sector cig coch, a hi fydd y fenyw gyntaf i ymgymryd â rôl Cadeirydd HCC.

ii) Pryderon yn codi wrth i Defra gyflogi swyddog newydd i ganolbwyntio ar Dir Comin

Yn ddiweddar, mae’r Sefydliad Tir Comin wedi mynegi pryderon i Bwyllgor Dethol yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ynghylch y perygl posib na fydd Cominwyr yn Lloegr yn gallu cael mynediad at y Cynllun Rheoli Tir Amgylcheddol (ELMS) newydd tra bod taliadau uniongyrchol yn parhau i gael eu dirwyn i ben.

Ers hynny mae Defra wedi penodi swyddog newydd, heb unrhyw wybodaeth flaenorol, i ganolbwyntio ar y polisi ar gyfer Tir Comin, ond mae’r Sefydliad Tir Comin yn honni bod gan Defra “lefel uchel o uchelgais i gyflwyno’r cynllun ELM newydd ar gyfer tir comin yn Lloegr, ond lefel isel o baratoad ar gyfer gwneud hynny”, ac felly mae wedi cynnig darparu hyfforddiant i staff Defra, o ystyried cymhlethdod Tir Comin.

iii) Talwyr lefi’n pleideisio yn erbyn AHDB yn y sector garddwriaethol

O’r 1,400 o dalwyr lefi garddwriaethol yn Lloegr sy’n talu am AHDB yn y sector garddwriaethol, pleidleisiodd 61%, mewn pleidlais a gynhaliwyd ar 15fed Chwefror, yn erbyn parhau’r lefi statudol.

Er bod y bleidlais yn cynnwys cwestiwn ie neu na syml ar gyfer yr hyn sy’n fater cymhleth mewn perthynas â gwerth y lefi, maint y fferm, a’r math o gnwd, mi fydd Gweinidogion Defra a’r gweinyddwyr datganoledig – nad ydynt yn gaeth i ganlyniadau’r bleidlais – yn mynd ati nawr i archwilio’r canlyniadau hyn yn fwy manwl cyn gwneud penderfyniad terfynol.

Her #Rhedeg1000 yn llwyddiant i elusennau iechyd meddwl yng nghefn gwlad

Yn ystod Ionawr 2021, galwodd her #Rhedeg1000 ar bobl o Gymru, Lloegr, Iwerddon a’r Alban i ymuno yn y ras yn eu gwlad eu hunain, a rhedeg 1,000 o filltiroedd ar gyfer elusen.

Sefydlwyd y fenter yn 2020 i gydfynd â’r Wythnos Iechyd Meddwl ym Myd Amaeth (#AgMentalHealthWeek), gyda’r ffi ymuno o £20 gan bob cyfranogwr yn mynd i bum elusen iechyd meddwl yng nghefn gwlad: The Farming Community, Embrace Farm, The Do More Agriculture Foundation, RSABI a Sefydliad DPJ.

Rhedodd cyfanswm o 1,200 o gyfranogwyr 64,785 o filltiroedd a chodi £45,438 ar gyfer y pum elusen, a chyfrannodd tîm grŵp FUW Ltd 1,156 o filltiroedd at y cyfanswm terfynol.

Dan arweiniad sylfaenydd Sefydliad DPJ Emma Picton-Jones, Cymru oedd y wlad gyntaf i gyrraedd y garreg filltir o 1,000 o filltiroedd, gan redeg y pellter hiraf yn gyfan gwbl, a denu’r nifer uchaf o gyfranogwyr, sef 567 o redwyr, gan godi cyfanswm o £12,700.

Cyfrifydd KPI Cyflym AHDB ar gael i ffermwyr llaeth

Mae AHDB wedi lansio Cyfrifydd KPI (Dangosyddion Perfformiad Allweddol) Cyflym i helpu ffermwyr llaeth i feincnodi eu ffigurau perfformiad yn erbyn ffermydd eraill. Mae deall sut mae eich busnes fferm yn perfformio yn hanfodol i wneud penderfyniadau ynghylch gwella perfformiad a gosod targedau ar gyfer y dyfodol.

Gall y cyfrifydd gymharu data hyd at 9 o ddangosyddion perfformiad allweddol i wella cynhyrchedd a phroffidioldeb yn erbyn y 5% uchaf, 25% uchaf neu ffermydd canolig, er mwyn nodi meysydd i’w gwella.

Mae’r cyfrifydd, ynghyd â chanllawiau, adnoddau perthnasol ac astudiaethau achos ar gael yma: https://kpiexpress.ahdb.org.uk/Home/Index

Birch Farm Plastics i ddechrau gwasanaeth casglu o Wanwyn 2021

Mae Birch Farm Plastics wedi cyhoeddi cynlluniau i ddechrau gwasanaeth casglu plastig o ffermydd o Wanwyn 2021.

Gyda phrosiect newydd sy’n cael ei arwain gan gynhyrchwyr a gweithgynhyrchwyr, y gobaith yw y bydd y gwasanaeth casglu newydd yn golygu bod llawer mwy o ddeunydd plastig amaethyddol yn mynd i’w ailgylchu yn hytrach nag i safleoedd tirlenwi, a fydd o gymorth i bob ffermwr sy’n debygol o fod yn talu cyfraniad eco am ddeunydd lapio silwair yn barod.

Mae’r cyfraniad yn mynd i gynllun casglu cenedlaethol y DU, sef Agriculture Plastics Environment (APE) fel cymhorthdal ar gyfer costau ailgylchu gwastraff plastig, gyda’r nod o gadw’r costau mor isel â phosib.

Er mwyn ymyrryd, a mynd i’r afael â’r meintiau mawr o ddeunydd plastig ar ffermydd, nod Birch Farm Plastics yw rhoi blaenoriaeth i, a chynyddu nifer y mannau casglu lle gellir casglu oddi wrth grŵp o ffermydd gyda’i gilydd.

Darperir mwy o fanylion a chostau maes o law, ond gall ffermwyr fynegi diddordeb yn y cynllun casglu plastig a fydd yn dechrau yn y Gwanwyn drwy gysylltu â Birch Farm Plastics ar Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. neu 01792 869776.

Defra’n cynnal cyfres o weminarau ar fewnforio cynnyrch sy’n dod o anifeiliaid

Yn Ebrill 2021, mi fydd set bellach o newidiadau’n dod i rym ar fewnforio cynnyrch sy’n dod o anifeiliaid (POAO) i’w fwyta gan bobl, fel y’u hamlinellir yng Nghynllun Gweithredu’r Ffin. Mae’r newidiadau hyn yn effeithio ar fewnforio bwyd a diod sy’n cynnwys cynnyrch anifeiliaid.

Cofrestrwch isod i fynychu gweminar:

Mewnforio Cynnyrch sy’n Dod o Anifeiliaid (POAO) o’r Undeb Ewropeaidd i Brydain
22/02/2021 14:00-15:00 - Cofrestrwch yma

Mewnforio Cynnyrch sy’n Dod o Anifeiliaid (POAO) o’r Undeb Ewropeaidd i Brydain – gyda ffocws ar gynnyrch cyfansawdd
01/03/2021 14:00-15:00 - Cofrestrwch yma

Mewnforio Cynnyrch sy’n Dod o Anifeiliaid (POAO) o’r Undeb Ewropeaidd i Brydain
08/03/2021 14:00-15:00 - Cofrestrwch yma

Mewnforio Cynnyrch sy’n Dod o Anifeiliaid (POAO) o’r Undeb Ewropeaidd i Brydain- gyda ffocws ar gynnyrch cyfansawdd
15/03/2021 14:00- 15:00 - Cofrestrwch yma

Mewnforio Cynnyrch sy’n Dod o Anifeiliaid (POAO) o’r Undeb Ewropeaidd i Brydain – gyda ffocws ar Bysgod a Chynnyrch Pysgod
22/03/2021 14:00-15:00 - Cofrestrwch yma
Mewnforio Cynnyrch sy’n Dod o Anifeiliaid (POAO) o’r Undeb Ewropeaidd i Brydain
29/03/2021 14:00-15:00 - Cofrestrwch yma

Arolygon a holiaduron Chwefror 2021

 

 i) Prosiect ymchwil Prifysgol Aberystwyth ar drosglwyddiad Neospora caninum drwy faw cŵn

Mae neosborosis yn glefyd difrifol a achosir gan y parasit protosoaidd Neospora caninum, clefyd heintus sy’n un o achosion mwyaf cyffredin erthyliad ymhlith gwartheg ledled y byd. Profwyd bod cŵn domestig yn gyfranwyr allweddol i epidemioleg Neosborosis, am eu bod yn gollwng oocystau yn eu baw, sy’n hanfodol i ledaenu’r clefyd.

Mae prosiect ar droed gan Brifysgol Aberystwyth sy’n archwilio heintiad N. caninum. Fel rhan o’r ymchwil hwn bydd maint yr oocystau N. caninum mewn baw cŵn yn cael ei archwilio ar lwybrau cyhoeddus ar draws Cymru. Maent yn chwilio am ffermydd sy’n barod i gymryd rhan yn y prosiect hwn, a allai helpu i nodi’r rhanbarthau sy’n wynebu’r perygl mwyaf o ran y clefyd, ac am ffermydd gwartheg sydd â llwybr troed yn rhedeg ochr yn ochr neu drwy’r fferm, ac sydd â hanes o broblemau gyda baw cŵn. Mae ganddynt ddiddordeb mewn ffermydd sydd â hanes o Neosborosis, yn ogystal â rhai sydd ddim yn ystyried Neosborosis yn broblem. Maent hefyd am gynnal arolwg o gŵn fferm ar ffermydd penodol.

Bydd yr ymchwil hwn yn rhoi cyfle i Brifysgol Aberystwyth i wella dealltwriaeth o glefyd sy’n achosi colledion economaidd enfawr i ffermwyr. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan ac am gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â: Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.; bydd unrhyw wybodaeth a roir gennych yn ystod y prosiect hwn yn cael ei thrin yn gwbl gyfrinachol a bydd yr holl data’n cael ei grynhoi fel na fydd modd adnabod ffermydd unigol.

 

ii) ‘Yr Arolwg Ffermio Mawr’ – RABI i daflu goleuni ar y materion sy’n effeithio ar bobl sy’n ffermio

Ar 11 Ionawr 2021, lansiodd RABI y prosiect ymchwil mwyaf erioed ar draws Cymru a Lloegr yn ymwneud â llesiant pobl sy’n ffermio. Bydd yr arolwg eang ei gwmpas hwn yn ystyried y berthynas rhwng iechyd corfforol, lles meddyliol ac iechyd busnesau ffermio am y tro cyntaf.

Wrth i’r pwysau allanol gynyddu, bydd yr ymchwil hanfodol hwn yn darparu’r trosolwg mwyaf cynhwysfawr erioed o’r gymuned ffermio. Bydd yn nodi’r heriau penodol a wynebir gan genhedlaeth o bobl sy’n ffermio, ac yn amlygu sut mae’r rhain yn effeithio ar fywyd bob dydd.

Mae FUW yn cefnogi’r fenter bwysig hon ac yn annog pawb i gyfrannu at yr ymchwil er mwyn cyrraedd y targed o gasglu 26,000 o ymatebion i’r arolwg.

Nodau’r #BigFarmingSurvey (#ArolwgFfermioMawr)

  • Deall llesiant cenhedlaeth sy’n ffermio
  • Deall iechyd ein ffermwyr a’u busnesau
  • Ennill dealltwriaeth o bwysau ac effeithiau allanol
  • Llunio cymorth a gwasanaethau yn y dyfodol

Pwy all gymryd rhan: Ffermwyr, gweithwyr fferm, eu cymheiriaid, a phlant sy’n
oedolion
Pryd: 11 Ionawr - 31 Mawrth 2021
Ar-lein: http://ex.ac.uk/BigFarmingSurvey
Print: Gofynnwch am gopi printiedig gan Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

Neilltuwch 15 munud i gymryd rhan drwy ymateb i’r arolwg printiedig neu drwy lenwi ein ffurflen ar-lein yn Gymraeg neu Saesneg.



iii) Ymchwil ar effeithiau economaidd-gymdeithasol disodli’r PAC

Mae Ms Cari Owen yn fyfyriwr Economeg Busnes trydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac mae’n gwneud ymchwil ar effeithiau economaidd-gymdeithasol tybiedig disodli’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC) ar gymunedau gwledig yng Nghymru.

Mae’r arolwg wedi’i anelu at ffermwyr sy’n byw yng Nghymru ac sydd wedi derbyn cymorthdaliadau drwy’r PAC yn y gorffennol, ac ni ddylai gymryd mwy na 10 munud i’w gwblhau.

Mae’r arolwg ar gael yma. Cysylltwch â Cari ar Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.


iv) Arolwg BeefQ o’r farn ar ansawdd bwyta cig eidion

Yn ystod dwy flynedd diwethaf y prosiect BeefQ mae’r gwaith wedi canolbwyntio ar bennu nodweddion y carcasau a gyflwynir i’w lladd yng Nghymru, a datblygu system o broffwydo ansawdd bwyta cig eidion, yn seiliedig ar system MSA Awstralia, ond wedi’i wirio gan ddefnyddio samplau cig eidion y DU a chynnal profion blasu ymhlith defnyddwyr.

Dangosodd gwaith y panel blasu defnyddwyr bod pobl yn fodlon talu dwbl am gynnyrch o’r ansawdd gorau, ac erbyn hyn mae gan y model proffwydo ansawdd bwyta cig eidion y potensial i arwain at ansawdd bwyta o safon warantedig, a mwy o hyder yng nghig eidion Cymru ymhlith defnyddwyr.

Nawr bod y gwaith hwn wedi’i gwblhau’n llwyddiannus, mae’r prosiect yn dechrau ar gyfnod newydd a hanfodol, sef ymgynghori â diwydiannau ffermio a bwyd Cymru a’r DU, i fesur yr awydd/angen am system proffwydo ansawdd bwyta cig eidion, ac i ystyried sut y gellid rhoi system o’r fath ar waith.

Felly hoffai tîm BeefQ annog unrhyw un sy’n gweithio o fewn y gadwyn cyflenwi cig (ffermwyr, lladd-dai, cigyddion, manwerthu), yn ogystal â’r sectorau arlwyo a lletygarwch, i gwblhau’r arolwg. Bydd yr ymatebion yn cyfrannu tuag ar argymhellion ar ddichonolrwydd y system, sut i’w gweithredu, a’r rhwystrau tybiedig rhag gwneud hynny.

I gymryd rhan yn yr arolwg ewch i http://www.beefq.wales/survey.html

v) Prifysgol Caerdydd yn ymchwilio i gadwyni cyflenwi bwyd

Mae Prosiect Cydweithredol Ymchwil Bwyd (FORC) Prifysgol Caerdydd a’i bartneriaid wedi cynllunio arolwg ac arf mapio, i hyrwyddo gwell dealltwriaeth o’r bobl, sefydliadau a phartneriaethau ar draws Cymru sy’n gweithio tuag at system fwyd gynaliadwy a theg, yn ogystal â thynnu sylw at weithgareddau sydd wedi’u cysylltu’n dda, ac unrhyw fylchau all fodoli (yn ddaearyddol, yn nhermau polisi, ac mewn perthynas ag adnoddau).

Bydd canlyniadau’r arolwg hwn yn bwydo’n awtomatig i Adnodd Rhwydwaith Bwyd Cymru, sef arf ar-lein y gellir ei gyrchu’n uniongyrchol. Bydd data’r arolwg yn cael ei arddangos yno; mae arf Adnodd Rhwydwaith Bwyd Cymru yn adnodd agored y gall unrhyw un ei ddefnyddio i’w cynorthwyo i adeiladu system fwyd gynaliadwy a theg.

Po fwyaf y cyfranogiad, y mwyaf defnyddiol fydd yr arf. Hefyd, defnyddir yr wybodaeth a rennir yn yr arolwg i helpu i siapio gweithgareddau partneriaeth a chydweithio pellach o fewn cymuned rhanddeiliaid system fwyd Cymru.

Mae’r arolwg ar gael yma:
https://socsi.qualtrics.com/jfe/form/SV_dmQQOoptgdRn0Hj

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch ag Angela ar: Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

Dyddiadau ffenestri mynegi diddordeb Chwefror 2021

Cynllun Crynodeb Ffenestr yn Cau

Ffenestr ceisiadau  hyfforddiant Cyswllt Ffermio

Mae’r ffenestr gais bresennol am gyllid ar gyfer cyrsiau hyfforddiant byr yn cau ar Ddydd Gwener 26 Chwefror 2021.

Cyn gwneud cais am hyfforddiant, rhaid ichi: i) fod wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio, ii) fynd ar wefan Busnes Cymru (BOSS) drwy Sign On Cymru ar: https://businesswales.gov.wales/boss/cy iii) lenwi Cynllun Datblygiad Personol.


Dylai’r rhai sy’n cofrestru am y tro cyntaf yn ystod y ffenestr sgiliau uchod i wneud cais am gwrs hyfforddiant wedi’i ariannu, neu rai sydd angen diweddaru eu manylion cyfrif gysylltu â Cyswllt Ffermio cyn 5pm ar Ddydd Llun 22 Chwefror 2021

Ceir mwy o wybodaeth yma

Gellir storio a diweddaru cofnodion holl gyrsiau hyfforddiant Cyswllt Ffermio drwy’r Storfa Sgiliau.

26 Chwefror 2021

Digwyddiadau Cyswllt Ffermio

O ganlyniad i’r pandemig, mae Cyswllt Ffermio wedi penderfynu gohirio pob digwyddiad agored a digwyddiadau un i lawer am y tro. Mae wrthi’n cynnal nifer o weithgareddau’n ddigidol neu dros y ffôn lle bo modd.

Ceir mwy o wybodaeth yma:
https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy/beth-sydd-ymlaen

 

Grant Cynhychu Cynaliadwy

Mae ffenestr mynegi diddordeb y Grant Cynhyrchu Cynaliadwy presennol ar agor erbyn hyn

Mae’r rhai sydd eisoes wedi derbyn arian Grant Cynhyrchu Cynaliadwy yn gymwys i wneud cais am y grant £50,000 llawn.

Gellir gwneud cais am gyllid i ymestyn storfa slyri bresennol.

Bydd angen i’r rhai sy’n gwneud Mynegiant o Ddiddordeb llwyddiannus gyflwyno cais llawn o fewn 12 wythnos, a bydd angen cwblhau’r gwaith a’r cais erbyn 30 Mehefin 2023.

Mae gwybodaeth a chanllawiau pellach ar gael yma:
https://llyw.cymru/grant-cynhyrchu-cynaliadwy-ffenestr-7?_ga=2.151914425.1624394682.1613738729-1359518786.1609845826

12 Mawrth 2021


Grant Busnes i Ffermydd

Bydd ffenestr mynegi diddordeb y Grant Busnes i Ffermydd nesaf yn agor ar 1 Mawrth ac yn cau ar 9 Ebrill 2021.

Bydd canllawiau pellach a rhestr o eitemau cymwys ar gael yma cyn 1 Mawrth.

1 Mawrth – 9 Ebrill 2021

Cynllun Gwaredu Plaladdwyr Cyfrinachol a Rhad ac Am Ddim 2021

Bydd Dŵr Cymru unwaith eto’n rhedeg ei gynllun gwaredu plaladdwyr cyfrinachol a rhad ac am ddim yn 2021. Bwriedir agor y broses gofrestru yn ystod Ebrill 2021, ond yn y cyfamser, i gael gwybod mwy a chofrestru ar gyfer diweddariadau cliciwch yma.

 

Trosglwyddo Hawliau PBS 2021

Gall ffermwyr erbyn hyn drosglwyddo eu Hawliau Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) drwy eu gwerthu, eu prydlesu, neu’u hetifeddu.

Rhaid i hyn gael ei gwblhau drwy RPW Ar-lein. Sylwer y gall gwerth yr hawliau a arddangosir yn eich cyfrif newid.

15 Mai 2021

Ysgoloriaethau Ffermio Nuffield

Mae ceisiadau Ysgoloriaethau Ffermio Nuffield 2021 ar agor erbyn hyn.

Mae ymgeiswyr llwyddiannus yn tueddu i fod yn rhai sy’n gweithio ym myd ffermio, bwyd neu amaethyddiaeth ac maent yn derbyn bwrseriaeth sylweddol i ariannu teithiau i astudio eu dewis bynciau.

Mae gwybodaeth a manylion ymgeisio ar gael yma: https://www.nuffieldscholar.org/

31 Gorff 2021

Rheoliadau adnoddau dŵr (rheoli llygredd amaethyddol) (Cymru) 2021

Ar 27 Ionawr, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynlluniau i gyflwyno Rheoliadau adnoddau dŵr (rheoli llygredd amaethyddol) (Cymru) 2021 er mwyn lleihau digwyddiadau llygredd amaethyddol.

Trafodwyd y rheoliadau hyn ers nifer o flynyddoedd ac maent yn cyfateb i gyflwyno NVZ dros Gymru gyfan, gyda'r amcangyfrif o gost i’r diwydiant amaeth wedi'i fesur yn y cannoedd o filiynau.

Mae Aelod y Senedd Llyr Gruffydd wedi cyflwyno dadl yn y Senedd yn cynnig dirymu'r rheoliadau.

Os mae nhw’n cael eu pasio gan y Senedd, bydd y rheoliadau yn cael eu cyflwyno fesul cam dros y tair blynedd nesaf gan ddechrau o 1 Ebrill 2021.

Bydd manylion llawn a safbwynt FUW yn cael eu hanfon at bob aelod FUW fel neges annibynnol yn ystod yr wythnosau nesaf, ond wrth reswm mae’r undeb yn gwrthwynebu’r ddeddf.

 

Ochenaid o ryddhad wrth inni osgoi Brexit heb gytundeb

Rhoddodd ffermwyr, cynhyrchwyr bwyd, a bron pob diwydiant arall mae’n siŵr, ochenaid o ryddhad pan gytunwyd yn y pen draw ar Gytundeb Masnach Rydd rhwng y DU a’r UE ar 24ain Rhagfyr 2020.

Yn sgil y cytundeb, cafodd y DU ei rhestru fel Trydedd Wlad gan yr UE, sef y cadarnhad hir-ddisgwyliedig oedd yn hanfodol er mwyn gallu dal ati i allforio bwyd o Gymru i’r UE.

Yn dilyn y cyhoeddiad, dywedodd Llywodraeth Cymru “na chafodd unrhyw ran ystyrlon o ran datblygu’r strategaeth negodi” a bydd y cytundeb yn golygu “llai o swyddi, cyflogau is, llai o allforio” a “mwy o fân-reolau i fusnesau.”

Ergyd arall yn erbyn safonau bwyd

Mae Aelodau Senedd San Steffan wedi pleidleisio unwaith eto yn erbyn gwelliannau a wnaed i Fil Masnach y DU gan Dŷ’r Arglwyddi, a fyddai wedi caniatáu archwiliadau mwy manwl i warchod safonau bwyd domestig.

Cafodd gwelliant yn gofyn am bleidlais derfynol o blaid neu yn erbyn unrhyw gytundebau masnach amaethyddol yn y dyfodol ei drechu o 353 pleidlais i 277 yn Nhŷ’r Cyffredin. Nawr bydd yn dychwelyd i Dŷ’r Arglwyddi yn Chwefror er mwyn i’r broses seneddol a elwir yn ‘ping pong’ barhau.

Pleidleisiodd yr Aelodau Seneddol hefyd yn erbyn gwelliant a fyddai wedi ychwanegu iechyd cyhoeddus at restr gyfrifoldebau’r Comisiwn Masnach ac Amaeth.

FUW yn croesawu’r cyhoeddiad i ddiogelu cyllideb Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS)

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi croesawu’r cyhoeddiad a wnaed gan y Gweinidog Lesley Griffiths ar 21ain Rhagfyr 2020, sef bod yr uchafswm taliadau uniongyrchol wedi’i osod ar £238 miliwn, er mwyn darparu’r un lefel o daliadau i ffermwyr yn 2021 â’r llynedd.

O ystyried cyhoeddiad Llywodraeth y DU ar 25ain Tachwedd 2020, y byddai dyraniad blwyddyn ariannol 2021-2022 Cymru ar gyfer amaethyddiaeth a datblygu gwledig yn £242 miliwn, sef £137 miliwn yn llai na’r hyn a addawyd o ystyried y trosglwyddo o golofn i golofn, mae’n dda nodi bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi blaenoriaeth i daliadau uniongyrchol i ffermwyr, i ddarparu sefydlogrwydd sydd ei wir angen dan amgylchiadau mor anodd.

FUW yn ymateb i adroddiadau’r Pwyllgor Newid Hinsawdd

Mae Undeb Amaethwyr Cymru’n cydnabod pa mor bwysig yw hi fod pob un sector - gan gynnwys amaethyddiaeth - yn chwarae ei ran i daclo’r newid yn yr hinsawdd. Fodd bynnag, roedd hi’n frawychus darllen yr argymhellion diweddaraf a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru ar gyfer gostwng allyriadau Cymru rhwng nawr a 2050 gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd.

Dan ofynion Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, mae’r Pwyllgor wedi cynhyrchu dau adroddiad yn ddiweddar, sef Adroddiad Cynghori: Y llwybr tuag at Gymru Sero Net, ac Adroddiad Cynnydd: lleihau allyriadau yng Nghymru, gan ddarparu Gweinidogion â chyngor ar dargedau hinsawdd Cymru.

Crynodeb o newyddion Ionawr 2021

i) Dyfarnu contract treialon maes brechiad TB gwartheg

Mae’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) wedi dyfarnu’r contract i gynnal treialon maes y brechlyn TB CattleBCG a phrawf croen DIVA (Gwahaniaethu Rhwng Anifeiliaid wedi’u Brechu ac Anifeiliaid wedi’u Heintio) i Eville & Jones.

Cynhelir y treialon maes ar ran Defra, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban, gan ddefnyddio gwerth 20 mlynedd o ymchwil i frechlynnau a diagnosis TB.

Mae gwybodaeth bellach ar gael ar yr Hwb TB.

ii) Defra’n caniatáu defnydd brys o blaladdwyr neonicotinoid

Yn ddiweddar mae Defra wedi caniatáu awdurdodiad brys ar gyfer defnydd cyfyngedig o neonicotinoid thiamethoxam yn 2021, i reoli lefelau bygythiol o’r feirws melyn mewn cnydau betys siwgr.

Mae 10 gwlad arall wedi caniatáu’r un awdurdodiad serch bod yr UE wedi gwahardd plaladdwyr neonicotinoid yn gyfan gwbl bron yn 2018. Bydd y defnydd o’r cemegyn yn cael ei reoli’r llym fodd bynnag, i leihau unrhyw risg i bryfed peillio - sy’n flaenoriaeth gan Lywodraeth y DU.

iii) Aldi i wario £3.5 biliwn ychwanegol ar gynnyrch Prydeinig

Mae Aldi wedi datgelu cynlluniau i wario £3.5 biliwn ychwanegol ar fwyd a diod Prydeinig, gan gynnwys cig ffres, llaeth ac wyau, dros y pum mlynedd nesaf, gan ychwanegu at y gwariant o £8 biliwn ar gynnyrch amaethyddol Prydeinig yn 2019.

Maent hefyd wedi ymestyn eu telerau talu uniongyrchol ar gyfer cyflenwyr bach tan ddiwedd 2021, oherwydd y Pandemig Covid-19 presennol, gan olygu bod dros 1,000 o fusnesau (gyda throsiant blynyddol o lai nag £1 filiwn) yn derbyn taliadau cyflymach

Y diweddaraf am yr effaith ar fasnachu ar ôl i gyfnod pontio Brexit ddod i ben

Penderfynodd nifer fawr, os nad y rhan fwyaf o allforwyr, beidio ag allforio neu allforio cyn lleied a phosib yn ystod wythnos gyntaf Ionawr. Roedd yna, serch hynny, amryw o broblemau sylweddol i’r rhan fwyaf, os nad pob un o’r sectorau bwyd, er bod y meintiau’n isel iawn.

Mae manylion ac enghreifftiau pellach fel a ganlyn:

Cymorth rhithwir i lenwi’r Ffurflen Gais Sengl yn 2021

Mae bron i flwyddyn wedi mynd heibio ers i FUW gymryd y cam digynsail o gau’r holl swyddfeydd sirol.

Un ffocws arbennig, o ystyried yr adeg o’r flwyddyn, fu sicrhau bod yr FUW yn gallu dal ati i helpu aelodau i lenwi a chyflwyno’u ffurflenni SAF/IACS. Bob blwyddyn mae FUW yn cynorthwyo aelodau gyda hawliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) gwerth dros £60 miliwn, a miliynau ychwanegol ar ffurf hawliadau Glastir, gan ddarparu help amhrisiadwy yn aml i’r rhai sydd heb fynediad i’r gwasanaethau rhyngrwyd sydd eu hangen i lenwi’r ffurflenni.

Oherwydd y sefyllfa barhaus gyda Covid-19, bydd y miloedd lawer o aelodau sydd angen help FUW i lenwi eu ffurflenni SAF 2021 yn cael cynnig ‘apwyntiadau rhithwir’. Bydd yr wybodaeth sydd ar y ffurflenni’n cael ei chroeswirio yn ystod galwad ffôn, ac os na fydd gan yr aelodau fynediad at wasanaethau ar-lein, bydd staff FUW yn cyflwyno’r ffurflenni ar eu rhan.

Fodd bynnag, mae cymorth ‘rhithwir’ o’r fath yn cynyddu’r risg o gamgymeriadau, felly dylai aelodau gysylltu â’u swyddfa leol ar unwaith os bu unrhyw newidiadau sylweddol i’r fferm ers y llynedd; mae’r rhain yn cynnwys newid ffiniau, tir newydd, newid o ran partneriaid busnes, archwiliadau ers y llynedd ac unrhyw newidiadau o ran defnydd o’r tir. Dylai aelodau hefyd ddarllen eu negeseuon RPW ar-lein am unrhyw newidiadau mapio neu archwiliadau tir, oherwydd gall y rhain gael effaith fawr ar gwblhau’r SAF.

Trwy adael i’r Staff Sirol wybod, gallant baratoi mapiau a chasglu gwybodaeth yn barod ar gyfer eich apwyntiad SAF o fis Mawrth ymlaen.

Os oes gennych chi unrhyw bryderon, cysylltwch â’ch swyddfa sirol leol, a fydd yn gallu ateb eich cwestiynau.

Unedau Magu/Pesgi Cymeradwy a Gwerthiannau Penodol TB o fewn ardaloedd TB uchel yng Nghymru

Mae Unedau Pesgi Cymeradwy (AFUau) wedi’u cymeradwyo’n unol â chyfyngiadau bioddiogelwch a TB llym, a rhaid iddynt fod yn unedau dan do sydd wedi’u lleoli mewn ardaloedd TB uchel, gyda thrwyddedau cymeradwy i symud gwartheg ar, ac oddi ar y daliad.

Hyd at ddiwedd 2020, dim ond anfon gwartheg yn uniongyrchol i’w lladd y gallai Unedau Pesgi Cymeradwy ei wneud. Fodd bynnag, ers 1af Ionawr 2021, gellir symud anifeiliaid unigol i AFU arall gyda’r drwydded gywir.

Bydd Unedau Magu Cymeradwy yng Nghymru hefyd yn cael prynu lloi o ddaliadau gyda chyfyngiadau TB lluosog, neu ddaliadau gyda Statws heb TB Swyddogol (OTF), i’w pesgi ac yna’u gwerthu i AFU arall i orffen eu pesgi.

Yn Nhachwedd 2020, cynhaliwyd Marchnad Oren beilot ac o ganlyniad, bydd marchnadoedd eraill o fewn ardaloedd TB uchel yng Nghymru’n gallu gwneud cais am ganiatâd i gynnal Marchnad Oren, a bydd y polisi diwygiedig yn cael ei adolygu mewn 12 mis.

Dim ond gwartheg o ddaliadau gyda chyfyngiadau TB (nid AFUau) all gael mynediad i Farchnad Oren, gyda thrwydded gan APHA ar gyfer y symud. Gall yr anifeiliaid hyn fynd i AFU yng Nghymru neu Loegr yn unig, neu gael eu hanfon yn uniongyrchol i’w lladd, ac ni chânt ddychwelyd i’w daliad cartref ar ôl eu gwerthu.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno’r newidiadau hyn ar ôl cydweithio â chynrychiolwyr y diwydiant a’r Undebau Ffermio, mewn ymateb i’r newid polisi sy’n sicrhau bod lloi a enir i’r diwydiant llaeth yn cael eu magu nes eu bod yn wyth wythnos oed.

Gellir cysylltu ag APHA ar 0300 3038268 neu Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

Marchnadoedd da byw i ail-fabwysiadu polisi ‘gollwng a gadael’ oherwydd peryglon Covid-19

O ystyried graddfa’r sefyllfa Covid-19 bresennol, mae Llywodraethau datganoledig y DU wedi cytuno bod marchnadoedd da byw yn chwarae rôl allweddol yn y gadwyn fwyd, ac felly maent wedi datgan y dylent aros ar agor.

Fodd bynnag, mae canllawiau’r Gymdeithas Arwerthwyr Da Byw’n datgan y dylai marchnadoedd da byw yng Nghymru a Lloegr weithredu polisi ‘gollwng a gadael‘ nes derbyn hysbysiad pellach, i ganiatáu iddyn nhw ddal ati i weithredu’n ddiogel a lleihau’r risg.

Rhaid hefyd cadw pellter cymdeithasol o 2 fetr unwaith eto, fel y gwnaed ym Mawrth 2020. Ni chaniateir i bobl ddod at ei gilydd, a bydd cyfleusterau arlwyo’n darparu gwasanaeth cludfwyd yn unig.

Bydd gwerthiant anifeiliaid sy’n barod i’w lladd, anifeiliaid i’w difa, anifeiliaid stôr ac anifeiliaid magu’n parhau, ond dylai gwerthiant peiriannau, porthiant, ac arwerthiannau fferm ddigwydd ar-lein lle bo modd.

Dylai prynwyr a gwerthwyr gysylltu â’u harwerthwr lleol i gael y mesurau a’r gofynion ar gyfer marchnadoedd da byw unigol.

Mân newidiadau i reolau Trawsgydymffurfio 2021

Bydd y rhan fwyaf o’r rheolau Trawsgydymffurfio’n parhau i fod yn berthnasol fel yn 2020, ond mae’r isod wedi’u diweddaru i adlewyrchu newidiadau o ran gofynion, arfer da, ac eglurder.

SMR 8: adnabod defaid a geifr. Mae’r ddolen i Adnabod Defaid a Geifr: Canllaw i Geidwaid 2018 wedi’i diweddaru.

SMR 10: cyfyngiadau ar ddefnyddio cynhyrchion amddiffyn planhigion (PPP). Ceir eglurhad ar y diffiniad o PPP. Mae’r adran ar Arfer Da wedi’i diweddaru. Mae hyn yn cynnwys cymwysterau, offer gwasgaru, ac amodau’r tywydd. Ceir hefyd ddolenni ychwanegol at ganllawiau. Mae’r rhain yn ymwneud ag archwilio offer a chofnodi triniaethau.

SMR 11: safonau lles i amddiffyn lloi. Ceir eglurhad o’r gofynion mewn perthynas â chlymu, meintiau llociau, a bwydo lloi. Eglurir beth yw Arfer Da mewn perthynas â bwydo llaeth o fuchod gyda TB.

SMR 12: safonau lles i amddiffyn moch. Ceir eglurhad o’r gofynion mewn perthynas â lletya, clymu a thocio cynffonau.

SMR 13: safonau lles i amddiffyn anifeiliaid a gedwir at ddibenion ffermio. Wedi’u diweddaru i egluro beth a ystyrir fel arfer da.

GAEC 6: diogelu pridd a deunydd organig. Eglurhad ar ofynion sgrinio AEA. Nawr yn cynnwys prosiectau ailstrwythuro ar bob tirddaliad gwledig, gan gynnwys Tir Comin.

GAEC 7: nodweddion y dirwedd. Eglurhad ar y gofyniad i ddiogelu pob pwll, i atal rhag draenio pwll neu’i lenwi’n rhannol. Diffiniad o Nodweddion y Dirwedd wedi’i ymestyn i gynnwys Glaswelltir Parhaol Amgylcheddol-Sensitif.

Am fwy o wybodaeth ewch i: https://llyw.cymru/trawsgydymffurfio-2021?_ga=2.198253871.1055257756.1611577521-1359518786.1609845826

Gofynion clefyd y crafu a gwaharddiadau symud newydd ar allforio defaid o Brydain i Ogledd Iwerddon

Fel rhan o Brotocol Gogledd Iwerddon, mae Gogledd Iwerddon yn dal i fod dan reoliadau iechyd anifeiliaid Ewropeaidd ac felly mae defaid a allforir o Brydain – sy’n ‘drydedd wlad’ erbyn hyn (h.y. ddim yn y Farchnad Sengl) – i Ogledd Iwerddon yn gorfod cydymffurfio â rheolau newydd.

I leihau’r perygl o glefydau, mae’r rheolau newydd hyn yn cynnwys cadw anifeiliaid ar yr un daliad am 40 diwrnod cyn eu symud, a gofynion ychwanegol o ran clefyd y crafu.

Rhaid i ddefaid byw a allforir i Ogledd Iwerddon ar gyfer bridio a chynhyrchu (pesgi) a’u plasm cenhedlu (semen, ofa, embryonau) gwrdd â’r gofynion newydd ar gyfer clefyd y crafu drwy fod yr anifeiliaid naill ai:

  • Yn dod o ddaliadau sy’n bodloni’r diffiniad cyfreithiol o ‘risg rheoledig’ o ran clefyd y crafu. Yn ymarferol, yn y DU mae hynny’n golygu bod yn rhaid iddynt fod yn rhan o Gynllun Monitro Clefyd y Crafu, sy’n cael ei redeg gan Goleg Gwledig Yr Alban (SRUC), a hynny ers tair blynedd o leiaf.
    Neu,
  • Bod ganddynt brawf geneteg sy’n dangos bod ganddynt ymwrthedd i’r clefyd a’u bod yn dod o ddaliad sydd heb fod dan unrhyw gyfyngiadau BSE na chlefyd y crafu dros y ddwy flynedd diwethaf.

Ceir mwy o wybodaeth am aelodaeth Cynllun Monitro Clefyd y Crafu yma.


Rhaid i’r rheiny sy’n cwrdd â’r gofynion uchod hefyd ddilyn yr un gofynion ardystio ychwanegol o ran clefydau endemig ar gyfer masnachu o Brydain i’r UE, wrth allforio i Ogledd Iwerddon.

Ehangu Hufenfa De Arfon dros gyfnod o dair blynedd

Mae Hufenfa De Arfon wedi cyhoeddi buddsoddiad gwerth £14.4 miliwn i gynyddu cynhyrchiant caws o 50% a chreu 30 o swyddi ychwanegol dros y tair blynedd nesaf.

Rhagwelir y bydd y buddsoddiad - sy’n cynnwys grant o £5 miliwn gan Gynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd Llywodraeth Cymru – yn cynyddu’r galw am laeth Cymreig, o 130 miliwn i dros 200 miliwn o litrau’r flwyddyn.

Mae’r cyhoeddiad yn dod ar ôl y cam buddsoddi cyntaf gwerth £11.5 miliwn yn 2016 i ehangu’r gwerthiant caws a’r cyfleusterau pecynnu.

Bydd yr arian ychwanegol hwn yn cael ei ddefnyddio i greu cyfleusterau newydd ar gyfer derbyn llaeth, cynhyrchu caws, a llinellau pecynnu a phrosesu maidd, yn ogystal â gwella perfformiad mewn perthynas â’r amgylchedd ac ynni.

Sefydlwyd y cwmni llaeth cydweithredol hwn 80 mlynedd yn ôl ac ar hyn o bryd mae ganddo 134 o aelodau ar draws Gogledd a Chanolbarth Cymru.

Canlyniadau positif i’r prawf Clefyd Johne newydd

Mae Prifysgol y Frenhines ym Melffast wedi datblygu prawf Clefyd Johne newydd, sy’n debygol o fod yn ddull cyflymach a mwy sensitif o ganfod y cyfrwng heintus sy’n achosi’r clefyd.

Yn bwysig, gall y prawf newydd ganfod cyfryngau heintus byw y clefyd yn hytrach na’r gwrthgyrff sy’n brwydro yn eu herbyn yn unig, fel y gwna’r prawf llaeth ELISA a ddefnyddir ar hyn o bryd.

Mae’r canlyniadau’n dangos bod y prawf newydd wedi llwyddo i ganfod mwy o anifeiliaid heintus drwy gynnal brofion llaeth ymhlith gwartheg godro, rhywbeth y gellir ei wneud hefyd gyda charthion a gwaed da byw eraill.

Gobeithir y bydd y prawf newydd hwn yn darparu platfform ar gyfer canlyniadau cywirach a chyflymach, fel bod milfeddygon a ffermwyr yn gallu gwneud penderfyniadau mwy cywir i reoli clefyd Johne o fewn buchesi.

Bydd y prawf newydd hwn yn cael ei ddefnyddio ar ffermydd yn ystod y cam datblygu nesaf.

Cynhadledd Ffermio Cymru rithwir yn 2021

Mae Cyswllt Ffermio’n cynnal Cynhadledd Ffermio Cymru rhwng 1af a 5ed Chwefror ar ffurf rithwir.

Dywedir y bydd y gyfres o gyflwyniadau ar-lein 20 munud yn ysgogiad i bawb yn y diwydiant ffermio, ar lefel bersonol ac ar lefel busnes ar ddechrau 2021, er gwaethaf effeithiau Brexit yn ddiweddar.

Bydd y siaradwyr yn cynnwys Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths ac Ollie Ollerton, cyn-aelod o’r lluoedd arbennig.

Bydd angen i bob unigolyn gofrestru, ac yna gallant ymuno ar unrhyw adeg rhwng y 1af a’r 5ed o Chwefror ar eu ffôn, tabled neu gyfrifiadur. Ewch i wefan Cyswllt Ffermio ar https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy i gofrestru a chael dolen mynediad at holl sesiynau’r gynhadledd.

Neu, ffoniwch Ganolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio ar 08456 000813

Cynhadledd rithwir Menter Moch Cymru

Gwahoddir ffermwyr moch ar draws Cymru i fynychu cynhadledd rithwir Menter Moch Cymru, i gael mynediad am ddim at gyngor arbenigol Ddydd Mercher 27ain Ionawr 2021.

Bydd y gynhadledd undydd hon yn cynnwys cyfres o weminarau a gynhelir gan arbenigwyr ym maes rheoli cenfaint, cynhyrchu cig, marchnata a mwy, yn ogystal â sesiynau un i un ar bynciau penodol.

Mae’r agenda’n cynnwys pynciau megis dylanwad Brexit ar y farchnad gartref, effaith Clwy Affricanaidd y Moch, a Covid-19, a bydd rhai panelwyr yn cynnal teithiau rhithwir o amgylch y fferm i arddangos eu systemau.

Am fwy o wybodaeth ac i archebu ymlaen llaw, ewch i https://menterabusnes.cymru/mentermochcymru/ neu galwch 07494 478652.

Arolygon a holiaduron Ionawr 2021

i) Arolwg ar y Ddeddfwriaeth Isafswm Cyflog Amaethyddol yng Nghymru

Mae’r Panel Annibynnol Adborth Amaethyddiaeth yn cynghori Gweinidogion Cymru ar yr isafswm cyflog amaethyddol a thelerau ac amodau cyflogaeth gweithwyr yn y sectorau amaeth, garddwriaeth a choedwigaeth.

Mae’r Isafswm Cyflog Amaethyddol yn ei bumed flwyddyn ac mae’n bwysig sicrhau ei fod yn parhau i gwrdd ag anghenion diwydiant sy’n esblygu. Felly, comisiynodd Llywodraeth Cymru ADAS i gynnal arolwg ar gyflogaeth amaethyddol yng Nghymru.

Mae eich barn a’ch profiadau fel cyflogwr a gweithiwr yn bwysig i ddylanwadu ar waith y Panel Cynghori ac ar ddatblygiad polisïau Llywodraeth Cymru.

Gallwch gwblhau’r arolwg ar-lein drwy’r ddolen yma.

Neu dilynwch y ddolen i drefnu apwyntiad a chwblhau cyfweliad dros y ffôn gydag ADAS. Bydd yr arolwg yn cau ar y 31ain o Ionawr 2021.

Bydd yr wybodaeth a roddwch yn cael ei thrin yn gyfrinachol. Ni fydd unrhyw wybodaeth bersonol yn cael ei rhannu efo Llywodraeth Cymru nac unrhyw barti arall. Caiff data cyfanredol ei roi i Lywodraeth Cymru a’r Panel Adborth Amaethyddiaeth i ddylanwadu ar eu gwaith.

 

ii) Prosiect ymchwil Prifysgol Aberystwyth ar drosglwyddiad Neospora caninum drwy faw cŵn.

Mae neosborosis yn glefyd difrifol a achosir gan y parasit protosoaidd Neospora caninum, clefyd heintus sy’n un o achosion mwyaf cyffredin erthyliad ymhlith gwartheg ledled y byd. Profwyd bod cŵn domestig yn gyfranwyr allweddol i epidemioleg Neosborosis, am eu bod yn gollwng oocystau yn eu baw, sy’n hanfodol i ledaenu’r clefyd.

Mae prosiect ar droed gan Brifysgol Aberystwyth sy’n archwilio heintiad N. caninum. Fel rhan o’r ymchwil hwn bydd maint yr oocystau N. caninum mewn baw cŵn yn cael ei archwilio ar lwybrau cyhoeddus ar draws Cymru. Maent yn chwilio am ffermydd sy’n barod i gymryd rhan yn y prosiect hwn, a allai helpu i nodi’r rhanbarthau sy’n wynebu’r perygl mwyaf o ran y clefyd, ac am ffermydd gwartheg sydd â llwybr troed yn rhedeg ochr yn ochr neu drwy’r fferm, ac sydd â hanes o broblemau gyda baw cŵn. Mae ganddynt ddiddordeb mewn ffermydd sydd â hanes o Neosborosis, yn ogystal â rhai sydd ddim yn ystyried Neosborosis yn broblem. Maent hefyd am gynnal arolwg o gŵn fferm ar ffermydd penodol.

Bydd yr ymchwil hwn yn rhoi cyfle i Brifysgol Aberystwyth i wella dealltwriaeth o glefyd sy’n achosi colledion economaidd enfawr i ffermwyr. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan ac am gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â: Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.; bydd unrhyw wybodaeth a roir gennych yn ystod y prosiect hwn yn cael ei thrin yn gwbl gyfrinachol a bydd yr holl data’n cael ei grynhoi fel na fydd modd adnabod ffermydd unigol.

 

iii) ‘Yr Arolwg Ffermio Mawr’ – RABI i daflu goleuni ar y materion sy’n effeithio ar bobl sy’n ffermio

Ar 11 Ionawr 2021, lansiodd RABI y prosiect ymchwil mwyaf erioed ar draws Cymru a Lloegr yn ymwneud â llesiant pobl sy’n ffermio. Bydd yr arolwg eang ei gwmpas hwn yn ystyried y berthynas rhwng iechyd corfforol, lles meddyliol ac iechyd busnesau ffermio am y tro cyntaf.

Wrth i’r pwysau allanol gynyddu, bydd yr ymchwil hanfodol hwn yn darparu’r trosolwg mwyaf cynhwysfawr erioed o’r gymuned ffermio. Bydd yn nodi’r heriau penodol a wynebir gan genhedlaeth o bobl sy’n ffermio, ac yn amlygu sut mae’r rhain yn effeithio ar fywyd bob dydd.

Mae FUW yn cefnogi’r fenter bwysig hon ac yn annog pawb i gyfrannu at yr ymchwil er mwyn cyrraedd y targed o gasglu 26,000 o ymatebion i’r arolwg.

Nodau’r #BigFarmingSurvey (#ArolwgFfermioMawr)

  • Deall llesiant cenhedlaeth sy’n ffermio
  • Deall iechyd ein ffermwyr a’u busnesau
  • Ennill dealltwriaeth o bwysau ac effeithiau allanol
  • Llunio cymorth a gwasanaethau yn y dyfodol

Pwy all gymryd rhan: Ffermwyr, gweithwyr fferm, eu cymheiriaid, a phlant sy’n
oedolion
Pryd: 11 Ionawr - 31 Mawrth 2021
Ar-lein: http://ex.ac.uk/BigFarmingSurvey
Print: Gofynnwch am gopi printiedig gan Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

Neilltuwch 15 munud i gymryd rhan drwy ymateb i’r arolwg printiedig neu drwy lenwi ein ffurflen ar-lein yn Gymraeg neu Saesneg.


iv) Arolwg BeefQ o’r farn ar ansawdd bwyta cig eidion

Mae prosiect ansawdd bwyta cig eidion BeefQ yn dechrau ar ei gyfnod ymgynghori, a bydd yn lansio arolwg ar 25ain Ionawr, i gael gwell dealltwriaeth o farn bresennol y diwydiant cig eidion ehangach ar ansawdd bwyta cig eidion, a’r awydd i droi o’r dulliau presennol o werthuso cig eidion i un sy’n seiliedig ar broffwydo’r ansawdd bwyta, sut y gellir gwneud hynny’n ymarferol, a’r rhwystrau rhag gwneud hynny.

I gyd-fynd â’r arolwg, bydd BeefQ yn cynnal dwy weminar ar wahân:

  • Dydd Llun 25ain Ionawr am 7.30pm ar gyfer diwydiant bwyd cig eidion Cymru (ID ZOOM y Weminar – 983 0239 8129/Cod Cyfrin y Weminar 342227)
  • Dydd Mercher 27ain Ionawr am 7.30pm ar gyfer diwydiant ffermio cig eidion Cymru (ID ZOOM y Weminar – 994 4263 4872/Cod Cyfrin y Weminar 782052)

Bydd y gweminarau’n gyfle i ddysgu am waith BeefQ hyd yma, i ystyried effeithiau a heriau rhoi system proffwydo ansawdd bwyta cig eidion ar waith, ac yna sesiwn holi ac ateb.

Bydd yr arolwg ar-lein yn fyw ar wefan BeefQ hyd ddiwedd Mawrth 2021: http://www.beefq.wales/index.html


v) Gwarchod y Gylfinir yng Nghymru – cyfle i ddweud eich dweud

Mae’r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Helwriaeth a Bywyd Gwyllt (GWCT) wedi cynnal arolwg i gasglu barn ar bwysigrwydd gwarchod y Gylfinir yng Nghymru.

Credir bod poblogaeth y Gylfinir wedi gostwng erbyn hyn i oddeutu 400 o barau, ac mi allai ddiflannu fel poblogaeth fagu yng Nghymru erbyn 2033.

Defnyddir yr ymatebion i’r arolwg i ddangos i Lywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru sut mae unigolion yn credu y dylid rheoli a gwarchod y Gylfinir.

Mae’r arolwg ar gael yma ac mae’n cau ar 12fed Chwefror.


vi) Cyfle i ddweud eich dweud yn Arolwg BVD Cenedlaethol 2021

Mae’r chweched Arolwg BVD Cenedlaethol yn fyw erbyn hyn. Ers iddo ddechrau, mae cynlluniau gwaredu BVD wedi’u cyflwyno ym mhob rhan o’r DU ac mae profion a gwyliadwriaeth wedi gwella.

Mae’r arolwg yn casglu gwybodaeth ledled y DU ac ar draws pob system ffermio, i ddarparu darlun o’r hyn mae ceidwaid gwartheg yn ei wneud ar y fferm i reoli a gwaredu BVD.

Mae Cymru’n parhau i wneud cynnydd da gyda’r rhaglen Gwaredu BVD, a disgwylir ymgynghoriad ar ddeddfwriaeth yn y dyfodol agos.

Mae’r arolwg ar gael yma: https://mailchi.mp/boehringer-ingelheim/bvd-survey-2021

Mae’r arolwg yn cau ar 31ain Ionawr a bydd 10 cyfranogwr yn cael eu dewis i ennill watsh glyfar Garmin Forerunner 45.


vii) Cyfle i gyfrannu at ymchwil ar Glefyd Affricanaidd y Moch

Mae Ms Jade Tubb, myfyriwr BSc sy’n astudio microbioleg ym Mhrifysgol Wolverhampton, wedi cynhyrchu ffeithlun i godi ymwybyddiaeth o Glefyd Affricanaidd y Moch ymhlith ffermwyr moch, ac mae hi wrthi’n gwneud ymchwil i werthuso pa mor effeithiol yw’r ffeithlun ar gyfer cyfleu’r wybodaeth hon.

Gofynnir i ffermwyr moch gwblhau holiadur byr i roi eu hadborth. Cedwir yr holl ymatebion yn gyfrinachol.

I gael gopi o'r ffeithlun, mwy gwybodaeth bellach ac i ymateb i’r holiadur, cysylltwch â Jade Tubb ar Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

Dyddiadau ffenestri mynegi diddordeb Ionawr 2021

Cynllun Crynodeb Ffenestr yn Cau

Stocrestr Flynyddol Defaid a Geifr 2021

Rhaid i geidwaid defaid a geifr yng Nghymru gyflwyno eu strocrestr flynyddol erbyn 1af Chwefror i osgoi cosbau posib.

Gellir cyflwyno’r ffurflen drwy un ai logio mewn i wefan EIDCymru (www.eidcymru.org), neu drwy ddychwelyd y ffurflen bapur yn y post.

Os oes angen unrhyw help arnoch, cysylltwch â llinell gymorth gwasanaeth EIDCymru ar 01970 636959, ebostiwch Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld., neu eich swyddfa FUW sirol leol.

1 Chwefror 2021

Grantiau Bach Glastir: Carbon

Mae Grantiau Bach Glastir: Carbon yn rhaglen o waith cyfalaf sydd ar gael i fusnesau ffermio i gynnal prosiectau sy’n helpu i ddal a storio carbon.

Bydd prosiect yn cynnwys:
Y prif waith cyfalaf sy’n mynd i’r afael ag amcanion y thema (h.y. plannu gwrych newydd);
Y gwaith cyfalaf ategol a fydd yn caniatáu cynnal y prif waith cyfalaf (h.y. codi ffensys pyst a weiar)

Ceir gwybodaeth bellach a chanllawiau yma: https://llyw.cymru/grantiau-bach-glastir-carbon-canllawiau?_ga=2.19600824.1055257756.1611577521-1359518786.1609845826
Ac yma: https://llyw.cymru/glastir?_ga=2.198734383.1055257756.1611577521-1359518786.1609845826

19 Chwefror 2021

Ffenestr ceisiadau  hyfforddiant Cyswllt Ffermio

Mae’r ffenestr gais bresennol am gyllid ar gyfer cyrsiau hyfforddiant byr yn cau ar Ddydd Gwener 26 Chwefror 2021.

Cyn gwneud cais am hyfforddiant, rhaid ichi: i) fod wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio, ii) fynd ar wefan Busnes Cymru (BOSS) drwy Sign On Cymru ar: https://businesswales.gov.wales/boss/cy iii) lenwi Cynllun Datblygiad Personol.


Dylai’r rhai sy’n cofrestru am y tro cyntaf yn ystod y ffenestr sgiliau uchod i wneud cais am gwrs hyfforddiant wedi’i ariannu, neu rai sydd angen diweddaru eu manylion cyfrif gysylltu â Cyswllt Ffermio cyn 5pm ar Ddydd Llun 22 Chwefror 2021

Ceir mwy o wybodaeth yma

Gellir storio a diweddaru cofnodion holl gyrsiau hyfforddiant Cyswllt Ffermio drwy’r Storfa Sgiliau.

26 Chwefror 2021

Digwyddiadau Cyswllt Ffermio

O ganlyniad i’r pandemig, mae Cyswllt Ffermio wedi penderfynu gohirio pob digwyddiad agored a digwyddiadau un i lawer am y tro. Mae wrthi’n cynnal nifer o weithgareddau’n ddigidol neu dros y ffôn lle bo modd.

Ceir mwy o wybodaeth yma:
https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy/beth-sydd-ymlaen

 

Grant Cynhychu Cynaliadwy

Mae ffenestr mynegi diddordeb nesaf y Grant Cynhyrchu Cynaliadwy’n agor ar 1af Chwefror ac yn cau ar 12fed Mawrth 2021.

Bydd gwybodaeth bellach a chanllawiau ar gael yma cyn 1af Chwefror: https://llyw.cymru/grant-cynhyrchu-cynaliadwy?_ga=2.124391562.1055257756.1611577521-1359518786.1609845826

1 Chwefror - 12 Mawrth 2021

Trosglwyddo Hawliau PBS 2021

Gall ffermwyr erbyn hyn drosglwyddo eu Hawliau Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) drwy eu gwerthu, eu prydlesu, neu’u hetifeddu.

Rhaid i hyn gael ei gwblhau drwy RPW Ar-lein. Sylwer y gall gwerth yr hawliau a arddangosir yn eich cyfrif newid.

15 Mai 2021

Ysgoloriaethau Ffermio Nuffield

Mae ceisiadau Ysgoloriaethau Ffermio Nuffield 2021 ar agor erbyn hyn.

Mae ymgeiswyr llwyddiannus yn tueddu i fod yn rhai sy’n gweithio ym myd ffermio, bwyd neu amaethyddiaeth ac maent yn derbyn bwrseriaeth sylweddol i ariannu teithiau i astudio eu dewis bynciau.

Mae gwybodaeth a manylion ymgeisio ar gael yma: https://www.nuffieldscholar.org/

31 Gorff 2021

Newidiadau i’r Cynllun Cyfradd Safonol Amaethyddol o 1af Ionawr

Isod ceir darlun cyffredinol o’r newidiadau i’r Cynllun Cyfradd Safonol Amaethyddol sy’n dod i rym ar 1af Ionawr 2021 gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi:

Beth yw’r Cynllun Cyfradd Safonol Amaethyddol (AFRS)?
Mae’r AFRS yn opsiwn arall i gofrestriad TAW ar gyfer busnesau sy’n ymgymryd â gweithgareddau amaethyddol dynodedig. Ei fwriad yw cynnig opsiwn arall i osgoi baich TAW o fewn busnesau ffermio bach.

Os byddwch chi’n cofrestru fel ffermwr cyfradd safonol, does dim rhaid ichi roi cyfrif am TAW na chyflwyno ffurflenni blynyddol ac felly ni allwch adhawlio unrhyw dreth. Ond mi allwch chi godi tâl a chadw ychwanegiad cyfradd safonol (FRA) o 4% pan fyddwch chi’n gwerthu nwyddau a/neu wasanaethau i gwsmeriaid sydd wedi cofrestru at ddibenion TAW.

Newidiadau i’r Cynllun Cyfradd Safonol Amaethyddol
Mae meini prawf cymhwyso ar gyfer ymuno a gadael ar sail trosiant yn cael eu cyflwyno i’r AFRS o 1af Ionawr 2021.

Unwaith bod y newidiadau ar waith, gall busnesau ymuno â’r AFRS os yw eu trosiant blynyddol ar gyfer gweithgaredd ffermio yn is na £150,000, a pharhau ar y cynllun nes bod eu trosiant blynyddol ar gyfer gweithgaredd ffermio yn uwch na £230,000.

Rheolau newydd allforio da byw o Brydain i’r UE a Gogledd Iwerddon o 1 Ionawr 2021

O 1 Ionawr 2021 bydd y DU wedi gadael yr UE, ac yn dibynnu ar ganlyniadau’r trafodaethau presennol, mae’r DU yn debygol o fod yn masnachu ar delerau trydydd gwlad. Mae hyn yn golygu y bydd yna reolau newydd ar gyfer anifeiliaid byw sy’n mynd mewn i’r UE.

O 1 Ionawr 2021 bydd angen defnyddio’r cod gwlad ISO dwy lythyren ‘GB’ i nodi da byw sy’n cael eu hallforio i aelod-wladwriaethau’r UE. Bydd hyn yn golygu bod angen gwneud cais am dag ychwanegol sy’n cynnwys y cod GB a rhif ID unigol yr anifail cyn allforio.

Fel opsiwn arall ar gyfer anifeiliaid newydd-anedig sydd heb fanylion adnabod eto, neu ŵyn gyda thagiau lladd, gellid defnyddio tagiau DU gydag ôl-ddodiad GB. Mae’r rhain yn dagiau sydd â rhif y DU, rhif unigol yr anifail, a GB wedi’u printio arnynt.

Ceir manylion pellach am y tagiau yma.

Y diweddaraf am Dagiau Adnabod Electronig (EID) ar gyfer Gwartheg

Er gwaethaf nifer o drafodaethau ar gyflwyno dulliau adnabod electronig (EID) ar gyfer gwartheg yn gynharach eleni, mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau’n ddiweddar y bydd hynny’n cael ei gyflwyno’n hwyrach na’r disgwyl, ac ni fydd tagiau EID ar gyfer gwartheg ar gael ar y farchnad tan o leiaf 2022.

Mae FUW yn dal i gymryd rhan mewn trafodaethau ar y cynigion mewn perthynas ag adnabod, cofrestru a rhoi gwybod am symudiadau, cyn ymgynghoriad Llywodraeth Cymru a ddisgwylir yn haf 2021.

Mae Llywodraeth Cymru’n argymell bod ceidwaid gwartheg yn archebu digon o dagiau confensiynol ar gyfer lloi y disgwylir iddynt gael eu geni yn 2021 yn unig.

Cyhoeddir diweddariadau pellach tua diwedd 2021 o ran yr amseru a graddfeydd amser pendant, sy’n dibynnu ar yr ymateb i’r ymgynghoriad.

Diweddariad BCMS ar ddiwygio pasbortau gwartheg

Mae Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain (BCMS) wedi cyhoeddi bod modd postio newidiadau i basbortau gwartheg unwaith eto erbyn hyn.

Oherwydd pandemig Covid-19, roedd BCSM wedi gofyn i geidwaid gwartheg anfon newidiadau i basbortau dros e-bost, i leihau’r angen i deithio.

Os yn bosibl, ac os ydy’r cyfyngiadau’n caniatáu, mae BCMS yn gofyn erbyn hyn bod ceidwaid gwartheg yn dychwelyd i’r broses bostio wreiddiol:

Heddlu Dyfed Powys yn rhybuddio am ymosodiadau twyll targedig

Mae Heddlu Dyfed Powys yn cynghori’r gymuned ffermio i fod yn wyliadwrus iawn ynghylch galwadau, negeseuon testun neu e-byst amheus gan fod twyll sy’n targedu’r sector amaethyddol yn benodol wedi’i nodi.

Mae gwybodaeth am yTaliadau Fferm Sengl ar gael yn gyhoeddus, gan olygu bod troseddwyr yn gallu targedu pobl yn uniongyrchol, gan wneud hi’n haws iddyn nhw eu hargyhoeddi.

Bydd y negeseuon ffug fel arfer yn honni bod twyll wedi’i ganfod yng nghyfrif banc y ffermwr a bod angen gweithredu ar unwaith i ddiogelu’r cyfrif.

Yna, mae’r unigolyn yn cael ei berswadio i ddatgelu gwybodaeth bersonol neu ariannol, neu hyd yn oed i drosglwyddo arian yn uniongyrchol i ‘gyfrif diogel’ honedig.

Gyda rhai grantiau’n werth miloedd o bunnoedd, mae twyllwyr yn y gorffennol wedi dwyn symiau sylweddol oddi wrth ffermwyr.

Swyddfa FUW Ynys Môn yn cynnal gweminar i drafod Clefyd Coed Ynn

Cynhaliodd Swyddfa FUW Ynys Môn weminar ‘agored i bob aelod’ ar 19 Tachwedd i drafod Clefyd Coed Ynn, oedd yn cynnwys cyflwyniad gan Jacob Milner, Cydlynydd Clefyd Coed Ynn Cyngor Sir Ynys Môn.

Disgwylir y bydd Clefyd Coed Ynn yn effeithio ar/lladd dros 90% o goed Ynn y DU. I roi hynny yn ei gyd-destun, lladdodd Clefyd Llwyfen yr Isalmaen yn ystod y 90au tua 80 biliwn o goed Llwyfen tra gallai Clefyd Coed Ynn heintio 2 biliwn o goed Ynn.

Bydd hyn yn effeithio ar aelodau FUW a phob ffermwr ar draws y DU, oherwydd cyfrifoldeb y tirfeddiannwr yw torri coed sy’n marw/peryglus sydd ar hawliau tramwy cyhoeddus, ac sydd felly’n risg i’r cyhoedd. Mae hyn hefyd yn cynnwys llwybrau troed cyhoeddus.

Gall y Cyngor, dan Ddeddf Priffyrdd 1980, gyflwyno hysbysiad 154, sy’n rhoi ffenestr o 1 mis i’r tirfeddiannwr i gwblhau’r gwaith. Os bydd hyn yn digwydd, fe’ch cynghorir i ymateb ar unwaith, hyd yn oed os nad oes modd cael y gwaith wedi’i wneud o fewn y mis. Rhaid rhoi ystyriaeth i’r ffaith bod contractwyr yn debygol o fod yn brysur iawn gyda gwaith clefyd coed ynn, ac na fydd ganddynt amser i gyflawni’r gwaith. Os na fydd yn clywed yn ôl gan y tirfeddiannwr, mae gan y Cyngor yr hawl i gwblhau’r gwaith ac yna anfon anfoneb.

Nodyn atgoffa caredig gan Iechyd Da

Er gwaetha’r cynnydd yn y nifer o achosion o Covid-19 yng Nghymru, mae Iechyd Da yn pwysleisio i’w cleientiaid eu bod wedi ymrwymo o hyd i gyflenwi’r gwasanaethau milfeddygol a ddarperir i’r gymuned ffermio.

Felly, maent wedi atgoffa eu milfeddygfeydd o bwysigrwydd cadw’r gymuned ffermio a nhw’u hunain yn ddiogel drwy gymryd yr holl ragofalon perthnasol pan maent ar ffermydd. Maent felly’n gofyn yn barchus i’w cleientiaid amaethyddol i gymryd yr holl fesurau angenrheidiol hefyd, a chadw pellter cymdeithasol o 2 fetr yn ystod ymweliadau pan fo’n ymarferol bosib. Fel arfer byddai eu milfeddygon yn croesawu unrhyw luniaeth a gynigir, ond dan yr amgylchiadau presennol, plîs peidiwch â digio os ydyn nhw’n gorfod gwrthod.

Newidiadau i gynhyrchwyr organig Cymdeithas y Pridd o 1af Ionawr

Mae Cymdeithas y Pridd wedi paratoi tudalen o ganllawiau cyn y cyflwynir newidiadau sylweddol ar gyfer ffermwyr, tyfwyr, gweithgynhyrchwyr a masnachwyr organig sy’n allforio i’r UE ar 1af Ionawr.

Allforio i’r UE a Gogledd Iwerddon o 1af Ionawr 2021

Mae’n edrych yn debyg y bydd y drefn ar gyfer derbyn cynnyrch organig o Brydain i’r UE yn seiledig ar gymeradwyaeth unigol ardystwyr DU dan reoliad EC1235/2008 y Comisiwn Ewropeaidd – sydd gan holl ardystwyr y DU ar hyn o bryd.

Bydd angen i bob gweithredwr ar hyd cadwyn gyflenwi’r DU gael ei ardystio gan ardystiwr sy’n meddu ar gymeradwyaeth y cynnyrch perthnasol ar hyn o bryd. Mae cymeradwyaeth ardystiad Cymdeithas y Pridd yn berthnasol hyd at ddiwedd 2023.

Bydd disgwyl i’r DU weithio’n unol â rheoliad organig presennol yr UE, sef EC834/2007 am gyfnod o dair blynedd o leiaf o 1af Ionawr 2021, er gwaetha’r ffaith bod yr UE yn symud i reoliad organig newydd yn 2022.

Gweminarau i aelodau FUW yn unig ar gael i’w hail-wylio

Mae FUW wedi cynnal nifer o seminarau rhithwir a gweminarau yn ystod 2020 yn sgil y pandemig, gan gynnwys Cynhadledd Iechyd Meddwl Cymru Gyfan, a gweminar Defnydd Tir, Cadwraeth a Gwaredu Diwylliannol.

Gall aelodau ail-wylio’r recordiadau hyn ar wefan FUW.

I gael canllaw cam wrth gam ar fewngofnodi i’r wefan Aelodau er mwyn gwylio’r gweminarau hyn cliciwch yma.