Mae prosiect newydd sy’n ymchwilio i fathau newydd o bys yn gobeithio y bydd yn lleihau dibyniaeth y DU ar soia sydd wedi’i fewnforio.
Mae’r prosiect gwerth £1 miliwn yn cael ei redeg gan yr arbenigwyr a bridwyr hadau glaswellt a phorthiant, Germinal, ar y cyd ag IBERS ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae’r rhaglen wedi’i hariannu’n rhannol gan FIP (Farming Innovation Pathway) DEFRA drwy Innovate UK, sy’n rhan o UK Research & Innovation.
Bydd rhan o’r ymchwil yn cynnwys datblygu mathau di-flas o bys fel bod modd defnyddio protein pys mewn bwyd ar gyfer pobl, i gymryd lle soia. Mewnforiwyd dros 3 miliwn o dunelli o Soia yn 2022 i’w ddefnyddio mewn bwydydd ar gyfer anifeiliaid a phobl.