Mae teulu ffermio o Dde Cymru wedi pwysleisio’r angen i barhau i gydweithio â Llywodraeth Cymru yn sgil colli rhai cyfleoedd mawr ym Mil Amaethyddiaeth (Cymru).
Yn ystod ymweliad â’u fferm gan yr Aelod Seneddol Ceidwadol, Joel James, pwysleisiodd y teulu Jones bod yn rhaid i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, sy’n dal i gael ei ddatblygu ar hyn o bryd, wneud iawn am ddiffygion y Bil, os ydy ffermydd teuluol cynaliadwy, ffyniannus am fod yn realiti i genedlaethau’r dyfodol yng Nghymru.
Mae Lynne Jones a’i deulu’n rhedeg fferm Fforch. Maent yn cadw 300 o ddefaid mynydd Cymreig Morgannwg, a 65 o fuchod bridio. Dechreuodd y teulu gadw gwartheg yr ucheldir i ymdopi â natur garw’r mynydd-dir, wedi’u croesi â gwartheg Byrgorn a gwartheg Salers. Erbyn hyn maent wedi symud ymlaen i’w croesi â theirw Charolais ac Aberdeen Angus.
Mae’r teulu’n ffermio 500 acer sy’n berchen iddyn nhw a 500 acer o dir rhent a ddefnyddir i bori’r anifeiliaid. Mi arallgyfeiriodd y tri phlentyn ychydig flynyddoedd yn ôl a lansio bragdy bach llwyddiannus, sef Cwm Rhondda Ales, cyn mynd ymlaen i agor Cwm Farm Shop.
Ffermydd teuluol yw asgwrn cefn y gymuned, yn ogystal â’r economi wledig yng Nghymru.
I wneud eu fferm yn hyfyw a chynaliadwy maent wedi arallgyfeirio gyda phŵer gwynt a’r siop fferm. Heb y rhain, mi fyddai’r plant wedi gorfod gadael y gymuned i chwilio am waith mewn man arall. Mae’n hanfodol bod y diwydiant yn cael cymorth i gadw’r genhedlaeth nesaf ar ffermydd ac yng Nghymru.
Heb arallgyfeirio, fydden nhw ddim dal wrthi’n ffermio heddiw. Maent yn credu eu bod yn ffodus i fod mewn sefyllfa i wneud hynny, am fod yna nifer o aelodau teuluol all ysgwyddo’r baich rhyngddyn nhw.
Roedd UAC yn falch bod y Senedd yn ddiweddar wedi pleidleisio i gynnwys cynllun cymorth amlflwydd ym Mil Amaethyddiaeth (Cymru), a fydd yn darparu gwybodaeth am y ffordd y mae Gweinidogion Cymru’n bwriadu darparu cymorth ariannol.
Mae hyn wedi bod yn ofyniad allweddol gan UAC ac mae’n ddarpariaeth sy’n bodoli o fewn Bil Amaethyddiaeth y DU. Mae cynnwys y gwelliant hwn yn gosod ffermwyr Cymru ar yr un lefel â rhai Lloegr, ac yn rhoi peth eglurder i ffermwyr wrth iddyn nhw gynllunio dyfodol eu busnesau.
Fodd bynnag, mae UAC hefyd yn glir, o ran cyllid ar gyfer amaethyddiaeth, y gall y Cynllun Ffermio Cynaliadwy gyflawni ar faterion allweddol, megis darparu taliad llinell sylfaen i bob ffermwr sy’n cyflawni Gweithredoedd Sylfaenol, a fyddai’n darparu sefydlogrwydd mawr ei angen.
Dywedodd swyddogion yr undeb wrth yr Aelod Seneddol hefyd fod yna bryderon mawr ynghylch yr elfen creu 10% o goetir sydd wedi’i chynnwys yng nghynnig y cynllun.
Nid oes modd i bob ffermwr gyflawni’r targed hwnnw, ac fel y cyfryw mi fyddai’n atal rhai ffermydd rhag bod yn rhan o’r cynllun. Mi fyddai hynny’n niweidiol i’r nodau a’r targedau cyffredinol o ran yr amgylchedd a bioamrywiaeth.
Cafodd swyddogion yr undeb drafodaeth bellach â Joel James am y Rheoliadau Adnoddau Dŵr a chaffael yn lleol.