Elusen anifeiliaid anwes y Groes Las yn cyflwyno cwrs newydd ar gyfer perchnogion cŵn anghyfrifol

Mae cwrs newydd wedi’i sefydlu sef  ‘Cwrs Perchnogaeth Gyfrifol ar Gŵn’ (RDOC), sy’n gwrs ar-lein i addysgu perchnogion cŵn ar sut i leihau achosion o ymosodiadau gan gŵn ar dda byw.  Mae wedi ei groesawu gan Ysgrifennydd y Cabinet, ac mae ar gael erbyn hyn i heddluoedd ledled Cymru ar gyfer perchnogion cŵn sydd wedi ymosod ar dda byw.

Dyddiadau ffenestri datgan diddordeb Medi 2024

Dyddiadau ffenestri datgan diddordeb Medi 2024

UAC yn cymeradwyo argymhelliad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg ar bolisi amaethyddol

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi cymeradwyo’n llwyr argymhelliad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg ar bolisi amaethyddol yn ei adroddiad ‘Grymuso cymunedau, cryfhau’r Gymraeg’ a gyhoeddwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf.

UAC yn croesawu sefydlu Bwrdd Rhaglen dileu TB Gwartheg

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi croesawu’r cyhoeddiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies, fod Bwrdd Rhaglen Dileu TB Gwartheg bellach wedi ei sefydlu.

Mae’r newyddion yn cwblhau’r strwythur llywodraethu newydd yn dilyn ffurfio’r Grŵp Cynghori Technegol ar TB mewn Gwartheg yn gynharach eleni.

Croesawu’r bwriad i dalu am gynnal a chadw SoDdGA drwy’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Yn dilyn trydydd cyfarfod o’r Bwrdd Crwn Gweinidogol a gynhaliwyd (23 Gorffennaf) yn Sioe Frenhinol Cymru, mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau’r bwriad i dalu am gynnal a chadw Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) fel rhan o’r taliad sylfaenol cyffredinol drwy’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS).

Sut allwn ni ddiogelu’n cyflenwad bwyd yng Nghymru? UAC sy’n gofyn ac yn ymchwilio i'r cwestiwn

Mae ymchwil gan UAC i ddiogelwch cyflenwad bwyd Cymru yn dangos bod dibyniaeth y DU ar fwyd o wledydd eraill wedi dyblu bron ers canol yr 1980au.

Mae 40 y cant o fwyd y DU yn cael ei fewnforio bellach, o’i gymharu â thua 22 y cant yng nghanol y 1980au. Mae’n destun pryder bod tua 20 y cant yn dod yn uniongyrchol o wledydd sy’n cael   eu heffeithio fwyaf gan y newid yn yr hinsawdd.

Dyna gefndir seminar Undeb Amaethwyr Cymru ar Faes y Sioe Frenhinol

Crynodeb o Newyddion Awst 2024

UAC yn cydnabod milfeddyg a safodd ysgwydd yn ysgwydd gyda ffermwyr yn ystod protestiadau

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi cydnabod Rhys Beynon-Thomas am ei wasanaethau i amaethyddiaeth yn Sioe Frenhinol Cymru.

Mae Rhys Beynon-Thomas yn filfeddyg profiadol a ddychwelodd i Gymru yn 2014 i weithio fel milfeddyg yn arbenigo mewn anifeiliaid fferm yn Sir Gaerfyrddin, ochr yn ochr â ffermio’n rhan amser ar fferm y teulu yn yr Hendy, Abertawe. Mae bellach yn gyfarwyddwr gyda Milfeddygon Prostock.

Prosiect peilot cig eidion HCC yn ehangu i Wynedd ac Ynys Môn

Mae prosiect peilot newydd sy’n anelu at helpu cynhyrchwyr cig eidion i arbed arian wrthi’n chwilio am ffermwyr addas o Wynedd ac Ynys Môn i gymryd rhan.  

Bydd y prosiect - Datgarboneiddio Cig Eidion Cymru PGI - yn ystyried  effaith pesgi gwartheg o fewn cyfnod magu byrrach ar elw economaidd busnes, yn ogystal â’i effaith bositif ar yr  allyriadau nwyon tŷ gwydr a gynhyrchir.

Canllaw Cyngor Mynydda Prydain ar gyfer perchnogion tir

Mae llawer o berchnogion a deiliaid tir yn hapus i ganiatáu mynediad ar gyfer dringo creigiau, ond mae eraill yn gyndyn oherwydd pryderon a chamddealltwriaeth ynghylch atebolrwydd cyfreithiol.

I fynd i’r afael â’r pryderon hyn mae Cyngor Mynydda Prydain (BMC) wedi cyhoeddi taflen ar gyfer perchnogion a deiliaid tir lle ceir clogwyni, creigiau, chwareli neu gerrig brig sy’n addas ar gyfer dringo creigiau.

Cadarnhau Data Cynllun Ffermio Cynaliadwy 2024

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ymarfer cadarnhau data fel rhan o’r Cam Paratoi ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS).

Nod yr ymarfer cadarnhau data yw diweddaru systemau mapio RPW gyda’r ardaloedd cynefin  a’r gorchudd coed cywir ar ffermydd, cyn i’r SFS gael ei ddylunio’n derfynol a’i gyflwyno yn 2026.

Pam y gall ymchwilio i’r holl erthyliadau a marw-enedigaethau warchod buches y dyfodol

I helpu i sicrhau bod ffermwyr yn rhoi gwybod am bob erthyliad fel rhan o’u trefn loia, mae’r grŵp Iechyd a Lles Anifeiliaid Cnoi Cil  (RH&W) wedi lansio taflen a hwb ar-lein yn cynnwys Cwestiynau a Ofynnir yn Aml, i helpu i leihau’r rhwystrau rhag rhoi gwybod am erthyliadau a chyflwyno samplau erthylu i’w harchwilio.

Cofrestriad Gorfodol Dofednod ac Adar Caeth Eraill

O 1 Hydref 2024 mi fydd yn ofyniad cyfreithiol ar bob ceidwad adar yng Nghymru (ar wahân i geidwaid adar anwes heb unrhyw fynediad i’r awyr agored) i gofrestru fel ceidwad adar/dofednod ar Gofrestr Dofednod Prydain.

Bydd y newid hwn yn caniatáu i Lywodraeth Cymru gyfathrebu â phob ceidwad adar yng Nghymru os digwydd bod yna achosion o glefyd adar

Dyddiadau ffenestri datgan diddordeb Awst 2024

Dyddiadau ffenestri datgan diddordeb Awst 2024

Llywio Drwy Dirwedd Wleidyddol Sy’n Newid yn Gyson: UAC yn nodi ei blaenoriaethau yn y Sioe Fawr

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi nodi ei phrif ofynion o Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru er gwaethaf yr heriau o geisio ymdopi â sefyllfa  wleidyddol sy’n newid yn gyson.

Mae safiad yr Undeb yn parhau’n gadarn a diflino o fewn arena wleidyddol sy’n newid o hyd.

Mae ffermio yng Nghymru ar groesffordd bwysig a fydd yn pennu dyfodol y diwydiant am ddegawdau i ddod. Er bod y trywydd yn dibynnu i raddau helaeth ar ddatblygu polisïau amaethyddol datganoledig yma yng Nghymru, ni ddylid anghofio y bydd y penderfyniadau a wneir gan Lywodraeth newydd y DU yn pennu, i bob pwrpas, y cyllid sydd ar gael i Lywodraeth Cymru i gefnogi amaethyddiaeth a datblygu gwledig.

UAC yn croesawu parhad cynlluniau cymorth ac ymarfer cadarnhau data 2025

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi croesawu’r ddarpariaeth o gynlluniau cymorth i helpu i bontio’r bwlch nes bod y Cynllun Ffermio Cynaliadwy’n cael ei roi ar waith, yn ogystal â pharhad mawr ei angen Cynllun y Taliad Sylfaenol, fel y bu’r Undeb yn lobïo amdano, i roi sefydlogrwydd i ffermydd teuluol yng Nghymru.

Bydd Cynllun Cynefin Cymru unwaith eto ar agor ar gyfer ceisiadau gan ffermwyr sydd ag ardaloedd wedi’u nodi fel cynefin ar eu tir.  Gellir ymestyn cytundebau Tir Comin Cynllun Cynefin Cymru, mae darpariaethau Cyswllt Ffermio wedi’u hymestyn, a bydd y Taliadau Cymorth Organig yn parhau yn 2025

Rhaid i Lywodraeth Cymru barhau i wrando ar ffermwyr Cymru wrth i’r ymateb i ymgynghoriad y Cynllun Ffermio Cynaliadwy gael ei gyhoeddi, medd UAC

Rhaid i Lywodraeth Cymru barhau i wrando ar ffermwyr Cymru wrth i’r crynodeb o ymatebion i ymgynghoriad diweddaraf y Cynllunio Ffermio Cynaliadwy (SFS) gael ei gyhoeddi. Mae llais y diwydiant wedi bod yn uchel ac yn glir, a hyd yn hyn, mae wedi bod yn broses heriol i bawb dan sylw.

Nid yw’n syndod bod y farn gyffredin o du’r nifer enfawr o 12,000 o ffermwyr a sefydliadau a ymatebodd i’r ymgynghoriad yn galw am newidiadau sylweddol i gynigion y cynllun.

UAC yn anfon neges glir i Lywodraeth Lafur newydd y DU bod angen cyllid blynyddol teg i amaethyddiaeth yng Nghymru

Bydd Undeb Amaethwyr Cymru’n mynd ati’n ddi-oed i anfon neges glir i Lywodraeth Lafur newydd y DU yn San Steffan bod angen setliad ariannol blynyddol teg ar Gymru o £450 miliwn o gyllid etifeddol PAC yr UE, i gefnogi cynhyrchiant, yr economi wledig, a’r gwaith a wna ffermwyr dros yr amgylchedd.

UAC yn croesawu’r ddeddfwriaeth BVD newydd sydd i’w chyflwyno ar 1 Gorffennaf, ond yn dweud bod cymorth y llywodraeth yn hanfodol i’w llwyddiant

Serch y rhwystredigaeth am yr oedi cyn cyflwyno deddfwriaeth Dolur Rhydd Feirysol Buchol (BVD) yng Nghymru, bydd Gorchymyn BVD Cymru 2024, y bu disgwyl hir amdani, yn cael ei chyflwyno o 1 Gorffennaf 2024.

Crynodeb o Newyddion Gorffennaf 2024

Ffermio’n parhau i fod yn un o’r galwedigaethau mwyaf peryglus

Mae’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch wedi cadarnhau bod 27 o bobl wedi marw ar ffermydd dros y flwyddyn ddiwethaf.  Gydag wyth digwyddiad ychwanegol yng Ngogledd Iwerddon, mae cyfanswm y marwolaethau a gofnodwyd ar gyfer 2023 a 2024 yn 35, hyd yn hyn.

Gwasanaeth Profi Tymheredd Bêls AM DDIM ar gael gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Yn ystod y cyfnod o dywydd sych a gafwyd nôl ym Mehefin manteisiodd nifer o bobl ar y cyfle i wneud y mwyaf o’r tywydd da a thorri gwair yn gynnar.  Er bod y tymheredd yn ffafriol, ni chafodd pob ardal ddiwrnodau o haul uniongyrchol, gan olygu bod y glaswellt a dorrwyd yn cael ei sychu mwy gan y cynhesrwydd a’r gwynt.

Perygl o drosglwyddiad y Tafod Glas mewn siroedd risg uchel

Mae’r Grŵp Iechyd a Lles Anifeiliaid Cnoi Cil wedi cyhoeddi diweddariad ar y risg mewn perthynas â chlefyd y Tafod Glas.  Yn sgil y tywydd cynhesach yn ddiweddar, gyda’r tymheredd dyddiol cyfartalog yn uwch na 12°C yn gyson, mae yna bosibilrwydd bellach o drosglwyddo feirws y Tafod Glas (BTV) mewn siroedd risg uchel.

Cyflwyno Deddfwriaeth Dolur Rhydd Feirysol Buchol (BVD) newydd ar 1 Gorffennaf

Ar 1 Gorffennaf 2024 cyflwynwyd Gorchymyn Dolur Rhydd Feirysol Buchol (BVD) 2024 i waredu buchesi yng Nghymru o BVD.

Mae BVD yn feirws heintus mewn gwartheg sy’n achosi amryw o broblemau iechyd megis:

Newidiadau i’r Stocrestr Defaid

Bydd y ffordd mae'r stocrestr yn cael ei chynnal yng Nghymru yn newid.   Er mwyn sicrhau bod y stocrestr flynyddol yn gyson â holl wledydd eraill y DU, y dyddiad ar gyfer stocrestr yng Nghymru fydd 1 Rhagfyr bellach, ond ni fydd yr wybodaeth sydd ei hangen yn newid. 

Mae dau newid arwyddocaol:

Cadarnhau Data Cynllun Ffermio Cynaliadwy 2024

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ymarfer cadarnhau data, fel rhan o’r Cam Paratoi ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS).

Nod yr ymarfer cadarnhau data yw diweddaru systemau mapio RPW gyda’r ardaloedd cynefin  a’r gorchudd coed cywir ar ffermydd, cyn i’r SFS gael ei ddylunio’n derfynol a’i gyflwyno yn 2026.

Dyddiadau Ffenestri Datgan Diddordeb Gorffennaf 2024

Dyddiadau Ffenestri Datgan Diddordeb Gorffennaf 2024

UAC yn galw ar Lywodraeth nesaf y DU i sicrhau tegwch rhwng cynhyrchwyr y DU a’r UE

Ar ôl i’r DU adael yr Undeb  Ewropeaidd (UE) yn swyddogol, mi roedd yna, ar y dechrau, awydd gwleidyddol yn San Steffan i arwyddo cytundebau masnach rydd brysiog a datgelu ‘buddiannau’ ein trefniadau masnachu ar ôl Brexit.

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi lleisio pryderon clir am y cytundebau masnach rydd gydag Awstralia a Seland Newydd, yn enwedig am nad yw cytundeb Awstralia o fawr o werth i economi’r DU yn ei gyfanrwydd. 

Ffermio yng Nghymru ar groesffordd bwysig

Wrth inni nesáu at yr Etholiad Cyffredinol, mae UAC, ar y cyd ag NFU Cymru a CFfI Cymru, wedi trefnu 15 o hystingau ledled Cymru i ddarparu’n haelodau â chyfle i holi eu hymgeiswyr lleol ar ffermio a materion gwledig yng Nghymru.

Mae ffermio yng Nghymru wedi cyrraedd croesffordd bwysig a fydd yn pennu ei ddyfodol am ddegawdau i ddod.

Undeb Amaethwyr Cymru yn cyhoeddi Pennaeth Polisi newydd

Mae Undeb Amaethwyr Cymru’n falch iawn o gyhoeddi bod Gareth Parry wedi ei benodi yn Bennaeth Polisi, a hynny ychydig ddyddiau’n unig cyn ei briodas.

Roedd dathliad dwbl i Gareth, brodor o Lanfarian ger Aberystwyth, wrth iddo ef a Catrin, Rheolwr Swyddfa pencadlys Undeb Amaethwyr Cymru, briodi yn ddiweddar. Maent eisoes wedi ymgartrefu ar fferm odro, bîff a defaid y teulu yn Llanafan, Ceredigion.

Cyhoeddiad Hufenfa Mona’n pwysleisio’r angen am gymorth, medd UAC

Mae Hufenfa Mona wedi cyhoeddi dyfodol ansicr i’w cyflenwyr llaeth, ar ôl methu â sicrhau cyllid gan randdeiliaid, ac maent wedi dweud wrth eu cyflenwyr y bydd cwmni prosesu llaeth arall yn prosesu llaeth dros dro.

Mae’r cyfleuster yn cael ei bweru gan ynni adnewyddadwy ac mae ganddo’r potensial i gynhyrchu 30,000 tunnell o gaws cyfandirol y flwyddyn.  Mae ymrwymiad Hufenfa Mona i ostwng ôl troed carbon y broses o gynhyrchu caws yn golygu mai nhw oedd y cyntaf yn y DU i ddefnyddio lorïau trydan i gasglu llaeth.

Crynodeb o newyddion Mehefin 2024

Tir ffermio organig yn cynyddu yn yr UE

Roedd y tir a ddefnyddir i greu cynnyrch amaethyddol organig yn cyfrif am 10.5% o holl dir ffermio’r UE yn 2022, sef cynnydd o 79% mewn tir ffermio organig rhwng 2012 a 2022.

Ffrainc sydd ar y blaen, gyda’r nifer uchaf o hectarau organig o blith gwledydd yr UE, sef 2.9 miliwn yn 2022, a oedd yn cyfrif am 17% o gyfanswm y bloc, ac yna Sbaen (2.7 miliwn hectar), Yr Eidal (2.3 miliwn) a’r Almaen (1.6 miliwn).  Roedd llai na 5% o dir Iwerddon, Bwlgaria a Malta yn cael ei ffermio’n organig yn 2022.

Canllawiau Llywodraeth Cymru ar ofynion profion TB Gwartheg cyn ac ar ôl symud

Mae’r canllawiau diweddaraf wedi’u cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru ynghylch y newidiadau i’r gofynion o ran profion TB Gwartheg cyn ac ar ôl symud a gyflwynwyd ar 1 Chwefror 2024.

Mae angen i bob anifail sy'n symud o ddaliad heb gyfyngiadau yng Nghymru fod wedi cael canlyniad clir i brawf cyn symud (PrMT) o fewn y 60 diwrnod cyn symud. Mae hyn oni bai bod yr anifail o dan 42 diwrnod oed, neu os yw'r symud yn esempt.

Deddf Lles Anifeiliaid (Allforion Da Byw) 2024

Mae cyfraith newydd wedi’i phasio ar allforio anifeiliaid byw o Brydain Fawr.

O 22 Gorffennaf 2024, mae’n drosedd allforio da byw a cheffylau i’w lladd a’u pesgi o Brydain Fawr.  Mae Deddf Lles Anifeiliaid (Allforion Da Byw) 2024 yn gwahardd allforio gwartheg, defaid, moch, geifr a cheffylau i’w pesgi a’u lladd o Brydain Fawr.

Deddfwriaeth BVD newydd o 1 Gorffennaf 2024

Mae deddfwriaeth newydd yn cael ei chyflwyno yng Nghymru yr haf hwn i ddileu BVD. Mae dolur rhydd feirysol buchol (BVD) yn glefyd feirysol sy'n effeithio ar wartheg. Gall arwain at erthylu, anffrwythlondeb, a lloi sydd wedi'u hanffurfio – a gall beryglu iechyd a lles y fuches, yn enwedig y stoc ifanc.

Gwasanaeth cynghori wedi’i ariannu ar gael gan Cyswllt Ffermio

Mae Cyswllt Ffermio yn cynnig cyngor arbenigol i wella perfformiad busnes a thechnegol.

Mae'r Gwasanaeth Cynghori yn darparu cyngor arbenigol annibynnol, cyfrinachol ac wedi’i deilwra ar gyfer Ffermwyr Cymru

Nodyn Atgoffa – gofynion cofrestru gorfodol ar gyfer ceidwaid adar

Cafodd mesurau newydd yn gofyn bod ceidwaid adar yn cofrestru eu hadar yn swyddogol, beth bynnag yw maint eu haid, eu cyhoeddi ar 19 Mawrth 2024. 

Ar hyn o bryd, dim ond ceidwaid gyda mwy na 50 o adar sy’n gorfod cofrestru eu haid.  Bydd y newidiadau a gyhoeddwyd yn gwneud hi’n orfodol i geidwaid, beth bynnag yw maint eu haid, i gofrestru eu hadar yn swyddogol cyn y dyddiad cau, sef 1 Hydref yng Nghymru

Dyddiadau ffenestri datgan diddordeb Mehefin 2024

Dyddiadau ffenestri datgan diddordeb Mehefin 2024

UAC yn croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru am y newid i’r mesurau difa gwartheg TB ar y fferm

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi croesawu’r newyddion bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies, yn derbyn yn llawn yr argymhellion a gyflwynwyd iddo gan y Grŵp Cynghori Technegol newydd  ar gyfres o fesurau a fydd yn darparu hyblygrwydd mewn perthynas â difa gwartheg gyda TB ar y fferm.

Cyhoeddiad Llywodraeth Cymru am ymestyn Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) yn newyddion da i’r diwydiant ffermio, medd UAC

Mae UAC wedi croesawu’r newyddion bod Llywodraeth Cymru am barhau gyda Chynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) i gefnogi ffermwyr Cymru ochr yn ochr â chyfnod paratoi’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) ar gyfer 2025.

Bwrdd Crwn Gweinidogol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy’n cael ei groesawu, ond rhaid iddo sicrhau newidiadau ystyrlon, medd UAC

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi croesawu cyhoeddiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig yn amlinellu ei gynlluniau i greu Bwrdd Crwn Gweinidogol, a fydd yn ystyried y dystiolaeth, ac yn arwain y gwaith o ddatblygu Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) diwygiedig.

UAC yn croesawu cymorth grant seilwaith storio slyri hirddisgwyliedig

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi croesawu’r cyhoeddiad a wnaed ar 29 Ebrill gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies AS, y bydd dau gynllun cymorth ar gyfer buddsoddi ar ffermydd yn agor yn fuan, gyda dyraniad cyllideb o £20 miliwn.

Rheoliadau Ymrwymiadau Masnachu Teg (Llaeth) Cymru 2024 ar fin dod i rym

Mae DEFRA wedi cyhoeddi bod Rheoliadau Ymrwymiadau Masnachu Teg (Llaeth) Cymru 2024 wedi’u gosod, a disgwylir y bydd y rheoliadau newydd yn dechrau ar 9fed Gorffennaf 2024 ar gyfer pob contract prynu llaeth newydd.  Ar yr un pryd bydd y cyfnod pontio o ran sicrhau bod contractau presennol yn cydymffurfio yn dod i ben ar 9fed Gorffennaf 2025.

Crynodeb o newyddion Mai 2024

Pryderon ynghylch prinder milfeddygon yn y DU

Mae pwyllgor Yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig y DU wedi ysgrifennu at ysgrifennydd DEFRA yn dweud bod y prinder milfeddygon domestig wedi gwaethygu ers yr 11.5% o ddiffyg a amcangyfrifwyd yn 2018.

Cyhoeddi dau grant seilwaith fferm newydd

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi dau grant seilwaith fferm newydd gwerth £20 miliwn.  Y ddau gynllun i gynorthwyo ffermwyr i fodloni Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 yw’r Cynllun Buddsoddi Mewn Rheoli Maethynnau a’r Cynllun Grantiau Bach – Gorchuddio Iardiau.

Cyswllt Ffermio’n lansio modiwlau newydd i baratoi ffermwyr ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS)

Yn ddiweddar,  mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o fodiwlau ar-lein yn seiliedig ar arferion sy’n cynnal cynhyrchiant ac iechyd tir amaeth a da byw mewn ffordd gynaliadwy, i helpu ffermwyr Cymru wrth iddynt drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS).

Y diweddaraf am Feirws y Tafod Glas (BTV)

Mae’r Grŵp Iechyd a Lles Anifeiliaid Cnoi Cil wedi darparu’r wybodaeth BTV ddiweddaraf (20fed Mai).  Maent yn cynghori y dylai ffermwyr a’r diwydiant barhau i fod yn wyliadwrus ac yn ofalus, a defnyddio tactegau sy’n seiliedig ar dystiolaeth er mwyn gweithredu i liniaru effaith y straen diweddaraf, sef BTV-3.

RPW yn cyhoeddi diweddariad 2024 o’r canllaw ‘Pan ddaw’r archwilydd’

Mae Taliadau Gwledig Cymru wedi cyhoeddi diweddariad o’r canllaw ‘Pan ddaw’r archwilydd’ ar gyfer ffermwyr sy’n paratoi ar gyfer archwiliad.

Mae archwiliadau’n cymryd lle ar ganran o ffermydd bob blwyddyn i sicrhau bod ffermwyr yn cydymffurfio â rheolau a rheoliadau gofynnol sy’n amod ar gyfer derbyn cymorth ariannol, neu o ganlyniad i gadw da byw.

Hybu Cig Cymru yn chwilio am ffermwyr cig eidion o Geredigion a Sir Gaerfyrddin ar gyfer prosiect peilot

Mae Hybu Cig Cymru (HCC) wedi cyhoeddi prosiect peilot newydd, sy’n anelu at hybu proffidioldeb a chynaliadwyedd y sector cig eidion yng Nghymru.

Bydd y prosiect – Datgarboneiddio Cig Eidion Cymru PGI  - yn gwerthuso effaith pesgi gwartheg o fewn cyfnod magu byrrach ar elw economaidd ac allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr.

Dosbarthu citiau DNA Cŵn i helpu i leihau ymosodiadau ar dda byw

Mae prosiect ymchwil fforensig newydd sy’n cael ei redeg gan Brifysgol John Moores Lerpwl yn gweithio gyda’r heddlu, milfeddygon a ffermwyr i wella’r broses o gasglu DNA cŵn sy’n troseddu oddi ar dda byw sydd wedi dioddef ymosodiad. 

Dyddiadau ffenestri datgan diddordeb Mai 2024

Dyddiadau ffenestri datgan diddordeb Mai 2024

UAC yn cyflwyno opsiynau eraill yn hytrach na difa ar y fferm i’r Grŵp Cynghori Technegol newydd ar TB Gwartheg

Yn dilyn cyhoeddiad yr wythnos diwethaf (15 Ebrill), cwrddodd y Grŵp Cynghori Technegol hirddisgwyliedig ar BT Gwartheg  am y tro cyntaf, gyda’r Athro G Hewinson, Cadair Sêr Cymru yng Nghanolfan Rhagoriaeth TB Cymru, yn arwain y grŵp.