UAC yn cyflwyno opsiynau eraill yn hytrach na difa ar y fferm i’r Grŵp Cynghori Technegol newydd ar TB Gwartheg

Yn dilyn cyhoeddiad yr wythnos diwethaf (15 Ebrill), cwrddodd y Grŵp Cynghori Technegol hirddisgwyliedig ar BT Gwartheg  am y tro cyntaf, gyda’r Athro G Hewinson, Cadair Sêr Cymru yng Nghanolfan Rhagoriaeth TB Cymru, yn arwain y grŵp.

Mae’r deg aelod a benodwyd gan y cyhoedd yn cynnig cyfoeth o wybodaeth, gan gynnwys y gwyddorau cymdeithasol, epidemioleg a meddygaeth filfeddygol.  Fodd bynnag, mae cwestiynau wedi codi ynghylch absenoldeb cynrychiolwyr o blith ffermwyr ar y grŵp.

Roedd UAC yn croesawu’r cyfle i gyflwyno opsiynau eraill i’r grŵp eu hystyried a fyddai’n lleihau nifer y gwartheg a gaiff eu difa ar ffermydd yn dilyn achosion o TB gwartheg, gan ddarparu cymorth mewn amgylchiadau lle na ellir osgoi difa ar y fferm.

Yn ystod y tair blynedd rhwng 2020 a 2023, cafodd 2,337 o wartheg eu difa ar ffermydd, sef 8 y cant o’r cyfanswm a gafodd eu difa oherwydd TB Gwartheg yng Nghymru yn ystod y cyfnod hwnnw.

Roedd mwyafrif yr achosion hyn o ddifa ar y fferm o ganlyniad i anifeiliaid yn cael prawf TB positif yn ystod y cyfnod cadw o’r gadwyn fwyd am resymau meddyginiaethol, neu pan oeddent yn agos at loia, neu o fewn yr wythnos gyntaf o loia, ac felly ddim mewn cyflwr addas i’w cludo yn ôl y rheoliadau cludo anifeiliaid.

Roedd rhai o’r opsiynau a gyflwynwyd gan UAC yn cynnwys darparu mwy o hyblygrwydd er mwyn gallu trefnu profion arferol i osgoi cyfnodau lloia mewn bloc, a lleihau’r risg o orfod difa ar y fferm yn ystod y cyfnod cadw o’r gadwyn fwyd am resymau meddyginiaethol.

Fodd bynnag, mae’r angen i drafod y pwnc o leddfu erchyllterau difa ar y fferm i’w weld yn trin y symptom yn hytrach na mynd i’r afael â gwraidd y problem, sef methiant difrifol y rhaglen gwaredu TB aneffeithiol a fu ar waith yng Nghymru ers tro byd,.

Fel y cyfryw, ac er bod UAC yn croesawu’r ffaith bod gan Gymru Grŵp Cynghori Technegol a grëwyd yn unswydd i ddarparu cyngor arbenigol ar waredu TB Gwartheg, ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd caniatáu i’r grŵp hwn fod yn wleidyddol annibynnol, a nodi ac archwilio dull gwbl holistig o gael gwared â’r clefyd.