Archebu eich apwyntiad SAF 2024

Mae’r amser o’r flwyddyn wedi cyrraedd unwaith eto wrth i ni ddechrau meddwl am y Ffurflenni Cais Sengl (SAF). Mae’r cyfnod ymgeisio yn agor ar Fawrth 4ydd ac mae UAC yn atgoffa ei haelodau bod ein staff sirol yma i helpu ac yn barod i ysgwyddo’r baich o lenwi’r ffurflen.

Mae UAC yn darparu’r gwasanaeth hwn fel rhan o becyn aelodaeth, sydd wedi bod yn amhrisiadwy i filoedd o aelodau dros y blynyddoedd - gan arbed amser a phenbleth gwaith papur.

Dywedodd Ymgynghorwr Polisi Arbennig Rebecca Voyle: “Yn ôl pob tebyg, y broses o gwblhau’r SAF yw’r un ymarferiad cwblhau ffurflen bwysicaf sy’n cael ei wneud gan ffermwyr Cymru ers 2004, ac mae canlyniadau gwallau ariannol ar y ffurflenni yn ddifrifol. Mae ein staff nid yn unig wedi’u hyfforddi’n dda ond mae ganddynt brofiad helaeth o ymdrin â’r broses ymgeisio gymhleth.” 

Ers i Lywodraeth Cymru orchymyn y dylid gwneud pob cais ar-lein, mae UAC yn canolbwyntio ar ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i’w haelodau.

“Rwy’n annog ein haelodau a’r rhai sy’n llenwi ffurflenni am y tro cyntaf i gysylltu â’u swyddfa leol cyn gynted ag y bo modd i drefnu apwyntiad os oes angen help i lenwi’r ffurflen,” ychwanegodd Rebecca Voyle.