Fis Ebrill, croesawodd Undeb Amaethwyr Cymru Aelodau Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyrain De Cymru, Delyth Jewell AS a Peredur Owen Griffiths AS ar ymweliad fferm ym Mlaenau Gwent. Yr oedd yn gyfle i ddwyn sylw at yr heriau sy’n wynebu’r sector amaethyddol yng Nghymru.
Ymwelodd y ddau â fferm Wayne Langford, Cadeirydd Sir yr Undeb yng Ngwent, ger Trefil, Blaenau Gwent. Mae’r ddau wleidydd wedi dod yn ymwelwyr rheolaidd â fferm Wayne a Tracy dros y blynyddoedd diwethaf gan alw heibio’r fferm yn ystod y tymor wyna i weld yr ŵyn newydd, a dysgu mwy am yr heriau sy’n wynebu’r sector amaeth.
Roedd y cyfarfod yn gyfle i drafod ystod eang o bynciau gan gynnwys datblygiadau ynghylch y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS), newidiadau Llywodraeth y DU i Ryddhad Eiddo Amaethyddol (APR) yn ogystal â goblygiadau ehangach tollau Donald Trump a’r cytundeb masnach posib gyda’r UDA allai danseilio ffermwyr Cymru.
Yn gynharach y mis hwn ysgrifennodd Undeb Amaethwyr Cymru at Lywodraeth y DU yn rhybuddio am beryglon cytundeb masnach brys rhwng yr UDA a’r DU.
Rhybuddiodd yr undeb y gallai cytundeb masnach frys weld buddiannau amaethyddol Cymru yn cael eu “haberthu” wrth i Lywodraeth y DU ganlyn consesiynau masnach tymor byr. Gallai hyn weld ffermwyr Cymru’n cystadlu â mewnforion rhatach o safon is gan gynnwys cyw iâr wedi’i glorineiddio a chig eidion wedi’i chwistrellu â hormonau.
Ymunodd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Ian Rickman ac hefyd ein Is-lywydd Rhanbarthol, Brian Bowen a Swyddog Polisi'r Undeb, Gemma Haine gyda Delyth a Peredur ar yr ymweliad.
Yn dilyn yr ymweliad dywedodd Peredur Owen Griffiths, Aelod Senedd Plaid Cymru dros Ddwyrain De Cymru:
“Mae ffermwyr Cymru yn wynebu storm berffaith o heriau megis ansicrwydd parhaus ynghylch dyfodol cyllid ffermio Llywodraeth Cymru, effaith polisïau andwyol Llywodraeth y DU sy’n her gynyddol i’r sector amaeth a’r bygythiad o gytundebau masnach anffafriol a allai erydu safonau bwyd uchel Cymru.
Rydym yn ddiolchgar i Undeb Amaethwyr Cymru am ddarparu'r cyfle hwn i ymweld â fferm Wayne unwaith eto, gyda’r cyfle i drafod y materion dybryd hyn ymhellach. O ystyried cyfraniad holl bwysig ffermydd teuluol i gynhaliaeth ein cymunedau gwledig, mae’n allweddol fod llywodraethau dau ben yr M4 yn blaenoriaethu ac yn gweithredu cymorth mwy cadarn i’r sector amaeth er mwyn sicrhau eu cynaliadwyedd i’r dyfodol.”
Ychwanegodd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Ian Rickman:
“Roeddem yn falch iawn o groesawu Delyth a Peredur i fferm Wayne a Tracy unwaith yn rhagor.
Mae ymweliadau fferm yn rhoi cyfle gwych i wleidyddion weld yr heriau sy’n wynebu ffermwyr drostynt eu hunain a’r cyfle i drafod yr heriau ehangach sy’n wynebu’r sector amaethyddol - boed yn sgyrsiau parhaus dros y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, newidiadau i dreth etifeddiant, neu drafodaethau masnach gyda’r UDA.
Wrth i etholiad Senedd 2026 brysur agosáu, edrychwn ymlaen at barhau i lobïo gwleidyddion er mwyn sicrhau y bydd anghenion y sector amaeth a chefn gwlad Cymru yn ganolog i flaenoriaethau’r llywodraeth nesaf.”