Staff Grŵp UAC i wynebu her Welsh 3000 mewn un ymdrech olaf i godi arian ar gyfer elusen iechyd meddwl

Mae staff Undeb Amaethwyr Cymru a Gwasanaethau Yswiriant FUW wedi gosod un her olaf i’w hunain i godi arian hanfodol ar gyfer Sefydliad DPJ, elusen iechyd meddwl yng Nghymru sy’n cefnogi’r sector amaethyddol, a chroesi’r £50,000.

Bydd y tîm o 8, sy’n cael ei arwain gan wirfoddolwr o Sefydliad DPJ a’r mynyddwr brwd Iwan Meirion, yn cychwyn ar her galed 24 awr o hyd ar ddydd Iau 6 Gorffennaf i daclo’r Welsh 3000. Mae’n cynnwys y 15 mynydd yng Nghymru sydd ag uchder o 3000 troedfedd neu fwy, ac mae’r her dros 50km o hyd ac yn golygu dringo bron i 3,700m.

Mae'n daith anodd ar fynyddoedd uchaf Cymru, wedi'i rhannu'n 3 rhan, ac yn gwthio'r tîm i'w eithaf.

UAC yn talu teyrnged i'w gyn-ddirprwy ysgrifennydd cyffredinol, yr Arglwydd Morris o Aberafan

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi talu teyrnged i'w gyn-ddirprwy ysgrifennydd cyffredinol a'i gynghorydd cyfreithiol, yr Arglwydd Llafur, Barwn Morris o Aberafan sydd wedi marw yn 91 oed.

Roedd yr Arglwydd Morris yn allweddol wrth sefydlu UAC fel llais cydnabyddedig i ffermwyr Cymru a gwasanaethodd fel ei ddirprwy ysgrifennydd cyffredinol ac ymgynghorydd cyfreithiol rhwng 1955 a 1957, fe'i disgrifiodd fel ".. dwy o flynyddoedd mwyaf heriol fy mywyd, addewais i aros yng Nghymru am 3 mis, aeth 3 mis yn flwyddyn, ac aeth blwyddyn yn ddwy". Aeth ymlaen wedyn i gael ei ethol yn AS Llafur Aberafan ym Morgannwg yn Etholiad Cyffredinol 1959.

Ffermwr llaeth o Ynys Môn yn cael ei ethol fel aelod oes o UAC

Mae ffermwr llaeth o Ynys Môn ac Is-lywydd Undeb Amaethwyr Cymru Eifion Huws, wedi cael ei ethol fel aelod oes o UAC.

Etholwyd Mr Huws fel aelod oes yng nhyfarfod o Gyngor yr Undeb a gynhaliwyd yn Aberystwyth ddydd Mercher 29 o Fawrth.

Mae Eifion Huws yn ffermio ym Mhenrhos, Bodedern, fferm laeth bu’n cadw buches o wartheg pedigri Ayrshire. Roedd gan y fuches laeth record cynhyrchu ac arddangos rhagorol, ac mae Eifion yn feirniad gwartheg Ayrshire uchel iawn ei barch.

Mae wedi bod yn aelod gweithgar o Bwyllgor Cyllid a Threfn Ganolog yr Undeb, a bu hefyd yn Gadeirydd Pwyllgor Llaeth yr Undeb rhwng 2004 a 2011. Mae Eifion hefyd wedi cynrychioli UAC ar Fforwm Ffermwyr Llaeth y DU.

Yn ystod ei wasanaeth ffyddlon i'r Undeb, mae Eifion wedi teithio ar hyd a lled y wlad, ac yn aml i Gaerdydd, Llundain ac Ewrop i gynrychioli’r diwydiant llaeth a barn UAC wrth geisio sicrhau gwell cefnogaeth a phrisiau i ffermwyr.

Derbyniodd Eifion wobr fewnol UAC yn 2011/2012 am ei wasanaethau i’r Undeb a’r diwydiant amaethyddol yng Nghymru, a cafodd ei ddewis fel enillydd gwobr UAC/Banc HSBC am ei gyfraniad neilltuol i’r diwydiant llaeth yng Nghymru.

Mae cyfoeth gwybodaeth Eifion o’r diwydiant yn werthfawr. Mae ei egni, frwdfrydedd a’i angerdd dros y diwydiant llaeth yn ysbrydoliaeth, ac mae ei allu i gefnogi ei gyd-ffermwyr yn amhrisiadwy.

Wrth siarad am etholiad Mr Huws yn aelod oes, dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts:

“Mae Eifion wedi bod yn un o hoelion wyth ffyddlon yr Undeb. Roedd Eifion bob amser yn fwy na bodlon dirprwyo ar fy rhan ar fusnes yr Undeb. Mae ei ymrwymiad, ei ddycnwch a’i angerdd cyson dros y diwydiant llaeth a ffermio yng Nghymru yn ysbrydoliaeth ac mae’r anrhydedd hwn yn haeddiannol iawn. Mae’n dilyn yn ôl traed ei dad fel aelod oes.”

Dydd Gŵyl Dewi yn gyfle perffaith i ddathlu bwyd Cymreig

Mae Dydd Gŵyl Dewi (1 Mawrth) yn gyfle perffaith i ddathlu’r cynnyrch Cymreig gorau sydd ar gael, ac mae Undeb Amaethwyr Cymru yn annog defnyddwyr, wrth wneud y siopa wythnosol, i ddewis Cig Eidion Cymru Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) a Chig Oen Cymru Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) a gynhyrchir yn gynaliadwy.

Dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts: “Mae gan Gig Eidion Cymru Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) a Chig Oen Cymru Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) stori wych i’w hadrodd ac rwy’n falch o fod ymhlith ffermwyr, sydd nid yn unig yn cynhyrchu bwyd gwych, ond hefyd yn barod i rannu’n stori ni. Mae stori cig coch Cymru yn wych, yn enwedig o ran bod yn amgylcheddol gynaliadwy.

“Mae defnyddwyr yn fwyfwy ymwybodol o ôl troed carbon eu bwyd a'r ffordd y mae wedi'i gynhyrchu. Wrth ddewis Cig Oen a Chig Eidion Cymru Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) gallant fod yn dawel eu meddwl ei fod wedi'i gynhyrchu gyda natur mewn golwg. Mae mor faethlon a chynaliadwy ag y gall fod, ac rwy’n annog pawb i ddewis ein cynnyrch Cymreig ni yn gyntaf.”

Yn cyflwyno ein Dirprwy Swyddog Gweithredol Sirol newydd ar gyfer Ynys Môn - Alys Roberts

Mae’n bleser gennym eich hysbysu bod Alys Roberts wedi’i phenodi’n Ddirprwy Swyddog Gweithredol Sirol newydd ar gyfer Ynys Môn. Bydd Alys hefyd yn gweithio fel Ymgynghorydd Amaeth-Amgylcheddol UAC. Dymunwn bob lwc iddi yn ei rôl newydd!

Rwy’n ferch ffarm o ardal Henllan, Dinbych sy’n ardal wledig a Chymreig. Rydym yn cadw gwartheg bîff a defaid ar y fferm adref, ac wrth fy modd yn helpu allan ar bob cyfle posib. Mae gennyf ddiadell o ddefaid Bryniau Ceri (Kerry Hill) ers blynyddoedd erbyn hyn, ac rwy’n mwynhau mynd  a nhw i sioeau, gan gynnwys y Sioe Frenhinol.

Yn 2021, graddiais mewn Daearyddiaeth BSc ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac rwy’n gobeithio gallu gwneud defnydd o agweddau amgylcheddol fy ngradd yn y swydd newydd, yn enwedig o ystyried y newidiadau sy’n wynebu’r diwydiant amaeth.

Bwciwch eich apwyntiad SAF 2023

Mae’r amser yna o’r flwyddyn wedi cyrraedd unwaith eto wrth i ni ddechrau meddwl am y Ffurflenni Cais Sengl (SAF). Mae’r cyfnod ymgeisio yn agor ar Fawrth 6ed ac mae UAC yn atgoffa ei haelodau bod staff y sir yma i helpu ac yn barod i ysgwyddo’r baich o lenwi’r ffurflen.

Mae UAC yn darparu’r gwasanaeth hwn yn arbennig ar gyfer aelodau llawn fel rhan o’u pecyn aelodaeth, sydd wedi bod yn amhrisiadwy i filoedd o aelodau dros y blynyddoedd - gan arbed amser a phenbleth gwaith papur.

Dywedodd Ymgynghorwr Polisi Arbennig Rebecca Voyle: