Huw Irranca-Davies AS yn ymgymryd â’r portffolio Materion Gwledig ar adeg allweddol i’r diwydiant, medd UAC

Wrth i Brif Weinidog newydd Cymru, Vaughan Gething AS gyhoeddi ei Gabinet Seneddol newydd, datgelwyd mai Huw Irranca-Davies AS sydd wedi’i benodi’n Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig.

Mewn llythyr a anfonwyd at yr Ysgrifennydd newydd, dywedodd UAC – Yn gyntaf, hoffai UAC longyfarch Huw Irranca-Davies ar gael ei benodi’n Ysgrifennydd newydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig. 

Mae UAC yn dymuno pob llwyddiant iddo yn ei rôl ac mae’n edrych ymlaen at weithio gydag ef a’i swyddogion i greu gwell dyfodol i amaethyddiaeth yng Nghymru.

Does dim dwywaith bod hwn yn gyfnod prysur i’r sector ffermio.  Fodd bynnag, nid yw dwyster y teimlad a’r rhwystredigaeth a amlygwyd ychydig wythnosau’n ôl yn unig yng Nghaerdydd a ledled Cymru wedi diflannu o bell ffordd.  Mae’r Ysgrifennydd newydd dros Faterion Gwledig yn ymgymryd â’r portffolio hwn ar un o’r adegau mwyaf allweddol o ran dyfodol y diwydiant.

Mae hyn yn cynnwys nid yn unig yr angen brys i ailfeddwl cynigion y Cynllun Ffermio Cynaliadwy drwy broses gyd-ddylunio go iawn ag undebau ffermio, mae hefyd yn cynnwys materion ehangach a phroblemau hirsefydlog.  Mae agwedd Llywodraeth Cymru tuag at reoli a dileu TB Gwartheg, a’r rheoliadau ‘NVZ’ Rheoli Llygredd Amaethyddol ledled Cymru gyfan yn bynciau sy’n peri problemau difrifol i’r diwydiant.

Mae effaith ar y cyd y polisïau a’r cynigion presennol yn cael ei adlewyrchu yn y rhwystredigaeth gyffredinol, ac yn y cynnydd sylweddol yn y nifer o atgyfeiriadau a dderbyniodd elusennau iechyd meddwl gwledig megis Sefydliad DPJ dros y misoedd diwethaf.

Mae UAC felly yn edrych ymlaen at weithio gyda Huw Irranca-Davies a’i dîm i sicrhau bod safbwyntiau aelodau’r Undeb yn cael cydnabyddiaeth haeddiannol wrth lunio polisïau amaethyddol yng Nghymru sy’n gweithio i ffermwyr Cymru.