Crynodeb o Newyddion Ebrill 2024

Diogelwch y cyflenwad bwyd yn debygol o fod yn brif flaenoriaeth i’r UE o 2024-2029

Mae copi drafft a ddatgelwyd heb ganiatâd o Agenda Strategol yr UE, sy’n amlinellu blaenoriaethau’r UE ar gyfer 2024-2029 wedi gosod diogelwch y cyflenwad bwyd fel blaenoriaeth o ran polisi amaethyddol.

Y weledigaeth flaenorol oedd ‘hyrwyddo amaethyddiaeth gynaliadwy’ ond mae’r weledigaeth ar gyfer y pum mlynedd nesaf yn canolbwyntio ar sicrhau ‘diogelwch y cyflenwad bwyd drwy sector amaethyddol ffyniannus’, heb unrhyw sôn am nodau cynaliadwyedd.

Bob pum mlynedd, mae arweinwyr yr UE yn cytuno ar eu blaenoriaethau polisi ar gyfer y dyfodol, a disgwylir y bydd y Cyngor Ewropeaidd yn mabwysiadu’r Agenda Strategol yn ei gyfarfod ym Mehefin.



Prisiau ŵyn yn codi’n gyson ers dechrau 2024

Mae prisiau ŵyn pwysau marw wedi codi dros 20 y cant ers dechrau 2024.  Cododd y pris cyfartalog ar gyfer cig oen ledled Prydain i bron £7.90 y cilogram erbyn diwedd Mawrth, cynnydd o £1.74 ers wythnos gyntaf y flwyddyn.

Y pris uchaf yn 2023 oedd £7.43, a hynny yn ystod mis Mai.  Yn 2024 mae’r pris wedi cynyddu bob wythnos am 9 wythnos ers dechrau Ionawr.

Mae’r cynnydd yn y galw ar adeg gwyliau crefyddol a llai o gyflenwad ar gyfer y farchnad wedi chwarae rhan sylweddol yn ôl Hybu Cig Cymru (HCC).  Eleni roedd Gŵyl y Pasg a Gŵyl Islamaidd Ramadam yn digwydd yn ystod mis Mawrth ac yn draddodiadol, mae cig oen yn cael ei fwyta ar yr adegau hynny.




Y DU yn ystyried gwahardd mewnforion cynnyrch dofednod o Wlad Pwyl

Mae’r DU yn ystyried gwahardd rhai mathau o gynnyrch dofednod o Wlad Pwyl yn sgil achosion cynyddol o heintiau Salmonela.  Ysgrifennodd swyddogion at brif arolygiaeth filfeddygol Gwlad Pwyl ym mis Rhagfyr yn mynegi pryderon am y methiant i daclo’r clefyd mewn allforion cig cyw iâr ac wyau.

Cafwyd dros 2,000 o achosion o heintiau a nifer o farwolaethau’n gysylltiedig â chynnyrch o Wlad Pwyl. 

Mae yna bryder hefyd ymhlith diwydiant dofednod y DU am effaith unrhyw achosion pellach  ar hyder y cyhoedd mewn cynnyrch dofednod.