Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru’n lansio ymgyrch Doeth i Danau Gwyllt

Mae Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru wedi lansio ymgyrch o’r enw Doeth i Danau Gwyllt, sy’n anelu at addysgu unigolion ar yr arferion gorau i osgoi ac atal tanau gwyllt yng Nghymru.  Mae’r Bwrdd am weithio gyda chymunedau i adeiladu cefn gwlad iachach a mwy cydnerth, a datblygu cefn gwlad mwy bioamrywiol ar gyfer y dyfodol.

Yn 2023 mynychodd gwasanaethau tân ledled Cymru 1,800 o achosion o danau glaswellt - roedd hyn yn ostyngiad o 45% ar y flwyddyn flaenorol, gyda thanau glaswellt a gyneuwyd yn fwriadol yn gostwng o 1,059 o achosion (45%) i 1,301.

Nod yr ymgyrch yw annog pawb i fod yn Ddoeth i Danau Gwyllt ac ymrwymo i rai rhagofalon syml, a chymryd ychydig o ofal ychwanegol dros fisoedd y Gwanwyn a’r Haf, pan mae’r perygl o danau gwyllt ar ei anterth.

Mae’r Bwrdd hefyd yn atgoffa ffermwyr mai’r dyddiad olaf ar gyfer llosgi yw 31 Mawrth 2024 a bod yna reswm penodol am hynny, sef gwarchod a diogelu’r amgylchedd naturiol.  Mae llosgi tu hwnt i’r dyddiad hwnnw heb drwydded yn torri’r rheolau Trawsgydymffurfio ac mi allai arwain at leihau, ad-dalu, neu atal Cynllun y Taliad Sylfaenol neu gynlluniau Datblygu Gwledig ar y tir.

Am fwy o wybodaeth:

https://www.tancgc.gov.uk/cym/newyddion/o-dan-sylw/doethidanaugwyllt/