Prosiect i gofio standiau llaeth Sir Gâr

Mae prosiect ar droed yn Sir Gâr y Gwanwyn hwn i dynnu lluniau a mapio’r holl standiau llaeth sydd wedi goroesi yn y sir.  Mae Anthony Rees, mewn cydweithrediad â Chlybiau Ffermwyr Ifanc Sir Gâr, yn ymgymryd â’r prosiect ac yn gofyn am help gyda’r canlynol:

  • Unrhyw hen luniau o standiau llaeth, standiau sy’n cael eu defnyddio, gyda chaniau neu lorïau, neu hyd yn oed standiau llaeth yn y cefndir mewn llun
  • Hen ddarnau ffilm o standiau llaeth
  • Storïau gan ffermwyr, gyrwyr lorïau llaeth neu weithwyr llaeth
  • Byddai unrhyw ddogfennau, llythyrau, datganiadau neu labeli sy’n gysylltiedig â standiau llaeth neu’r Bwrdd Marchnata Llaeth yn cael eu derbyn yn ddiolchgar ar gyfer y casgliad.

Yn 1974, roedd tua 1,700 o ffermydd llaeth yn Sir Gâr, a tybir y byddai’r rhan fwyaf o’r rheiny’n defnyddio standiau llaeth.

Mae hwn yn gyfle i fod yn rhan o hanes, a sicrhau bod traddodiad y stand laeth ar gof a chadw am byth.  Gallwch gyfrannu mewn nifer o ffyrdd gwahanol:

  • E-bostio Anthony ar  This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it. gyda’ch straeon a’ch lluniau.
  • Ffonio Anthony ar 07802 435677 os ydych chi am gael mwy o wybodaeth neu am rannu stori.
  • Gadael lluniau a deunyddiau gydag aelodau o’ch Clwb Ffermwyr Ifanc lleol neu Swyddfa Ffermwyr Ifanc Sir Gâr yng Nghaerfyrddin, neu anfon neges at Anthony, a fyddai’n barod iawn i’w casglu.
  • Tagio #milkstandssirgar ar y cyfryngau cymdeithasol.