UAC yn cwrdd â’r Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Faterion Gwledig newydd

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi cwrdd â Phrif Weinidog newydd Cymru, Vaughan Gething ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Faterion Gwledig a Newid Hinsawdd newydd, Huw Irranca-Davies, i drafod dyfodol y diwydiant amaeth.

Mae UAC yn croesawu’r cyfle cynnar hwn i amlinellu’r heriau presennol sy’n ein hwynebu fel diwydiant ac i drafod y camau nesaf posibl gyda’r Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet newydd yn dilyn cais gan UAC am gyfarfod brys.

Gwnaeth UAC hi’n gwbl glir bod y teimlad o rwystredigaeth a phryder o fewn y diwydiant yn parhau, a chyflwynwyd ymateb helaeth UAC i ymgynghoriad y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, ynghyd â rhestr o brif ofynion UAC i Ysgrifennydd y Cabinet.

Mae UAC hefyd yn croesawu’r gydnabyddiaeth a’r gwerthfawrogiad gan y Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet o sefyllfa bresennol y diwydiant. Mae hwn yn gam cyntaf hollbwysig i ddeall difrifoldeb y problemau a wynebir, a dod o hyd i'r ffordd orau o fynd i’r afael â nhw.

Hoffai UAC weld grŵp bach o randdeiliaid yn cael ei sefydlu i ganolbwyntio ar y dasg o drafod a chynnig newidiadau i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy drwy gyd-gynllunio go iawn.

Mae’r ad-drefnu diweddar o fewn y Llywodraeth yn sicr yn newyddion cadarnhaol i’r diwydiant, am ei fod yn gyfle newydd i sicrhau newid ystyrlon i’r cynigion presennol. Mae UAC yn edrych ymlaen at gyfarfodydd rheolaidd gydag Ysgrifennydd y Cabinet, a’r Prif Weinidog, i sicrhau bod fersiwn derfynol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn cwrdd â gofynion ffermwyr Cymru.