Er bod nifer o fusnesau fferm yn mynd yn fwy a mwy gwyliadwrus wrth ddiwygio eu polisïau gwaith i liniaru’r perygl o ymosodiadau seiber, mae nifer fawr ohonynt heb fesurau digonol yn eu lle o hyd i’w diogelu rhag troseddau seiber.
Serch bod nifer yr ymosodiadau penodol a gafodd effaith ariannol wedi lleihau rhyw fymryn dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r costau cyffredinol i’r rhai a effeithiwyd wedi codi’n ddramatig. Ers 2017, pan oedd y gost uniongyrchol i fusnesau yn £1,380 ar gyfartaledd, mae’r ffigur wedi tyfu erbyn hyn i £3,150 yn 2019. Nid yw’r swm hwn yn rhoi ystyriaeth i’r costau adfer a’r costau hirdymor, all fod yn gyfanswm o tua £3,000 ar gyfartaledd.
Er bod nifer y busnesau mawr a chanolig sy’n diogelu eu busnesau gydag yswiriant seiber wedi cynyddu dros y flwyddyn ddiwethaf, dim ond 11% o fusnesau a 6% o elusennau sydd ag yswiriant arbenigol yn ei le. Ar ben hynny, ychydig dros traean yn unig o fusnesau sydd ag aelod bwrdd neu ymddiriedolwr sy’n benodol gyfrifol am seiberddiogelwch.