Crynodeb o newyddion Medi 2022

Allforion bwyd a diod yn tyfu
Mae allforion bwyd a diod wedi cynyddu i’w lefelau uchaf ers 2019. Mae ffigurau a ryddhawyd gan y Ffederasiwn Bwyd a Diod ar gyfer hanner cyntaf 2022 yn dangos bod allforion bwyd a diod yn gyffredinol wedi codi 3.1% o’i gymharu â 2019. Syrthiodd allforion i’r UE 5.1%, ond cododd allforion i wledydd y tu allan i’r UE 15.9%.
Roedd allforion cig oen a chig dafad i fyny 29.6%, cig eidion i fyny 19.1%, porc i fyny 13.1% a chaws i fyny 4.3%. Roedd cyfanswm gwerth allforion yn ystod 6 mis cyntaf 2022 yn £11.4 biliwn. Cafwyd cynnydd sylweddol yn y mewnforion bwyd a diod yn ystod y cyfnod hefyd, a oedd yn gyfanswm o £18.2 biliwn, sef cynnydd o 22.1% o’i gymharu â 2019.

Rhybudd pris llaeth 50cyl Freshways
Ym Mehefin, cyhoeddodd y cwmni prosesu llaeth Freshways y byddai’n talu 50 ceiniog y litr i’w ffermwyr am laeth o fis Medi ymlaen. Mae’r cwmni wedi ysgrifennu at y ffermwyr sy’n ei gyflenwi i ddweud y byddant yn derbyn 50cyl ym mis Medi a’i fod hefyd yn bwriadu talu’r un pris ym mis Hydref, ond os na fydd proseswyr eraill yn gwneud yr un fath, yna gall y pris hwnnw fod yn anghynaliadwy. Rhybuddiodd cwmni ymgynghori amaethyddol Kite Consulting ym mis Ebrill y byddai’r prisiau wrth gât y fferm, sy’n uwch nag erioed, yn parhau i godi yn ystod yr hydref ac uwchlaw’r marc 50cyl yn sgil cyflenwadau llaeth prin a chostau cynyddol mewnbynnau.
Mae’r prisiau manwerthu wedi codi, gyda’r prisiau yng Ngorffennaf bron 30% yn uwch nag yr oeddent flwyddyn yn ôl.

Comisiwn yr UE yn cymeradwyo’r 7 cynllun PAC cyntaf
Mae’r 7 aelod-wladwriaeth UE cyntaf wedi cael sêl bendith Comisiwn yr UE ar Gynlluniau Strategol eu Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC). Denmarc, Y Ffindir, Ffrainc, Iwerddon, Gwlad Pwyl, Portiwgal a Sbaen yw’r gwledydd cyntaf i gael eu cynlluniau wedi’u cymeradwyo, sy’n cyfuno cyllid ar gyfer cymorth incwm, datblygu gwledig a mesurau marchnata.
Trwy’r cynlluniau hyn, mae’r gwledydd wedi gosod sut maen nhw’n bwriadu bodloni’r 9 amcan a osodwyd ar gyfer yr UE gyfan, i ddechrau yn 2023, gan ddefnyddio offerynnau PAC ond gan ymateb ar yr un pryd i anghenion penodol eu ffermwyr a’u cymunedau gwledig.
Mae’r Comisiwn Ewropeaidd wedi dweud ei fod wedi ymrwymo’n llwyr o hyd i gymeradwyo’r 21 o gynlluniau sydd ar ôl yn ddi-oed, gan roi ystyriaeth i ansawdd a phrydlondeb yr ymatebion yn dilyn sylwadau’r Comisiwn.

Prosiect Newydd i Leihau Ymwrthedd Gwrthficrobaidd ar Ffermydd
Mae 12 o ffermydd yng Nghymru wedi’u recriwtio i ddangos sut mae defnyddio technegau a thechnoleg newydd, yn ogystal ag arfer da cyffredinol, yn gweithio i leihau’r angen i ddefnyddio gwrthfiotigau a gwella cynhyrchedd.
Mae’r ffermydd wedi’u gwasgaru ledled Cymru ac maent yn cynnwys cymysgedd o ffermydd llaeth, cig eidion a defaid.
Mae Arwain DGC yn brosiect a grëwyd i dynnu sylw at y broblem o ymwrthedd gwrthficrobaidd. Mae’r 12 fferm ‘Prawf o Gysyniad’ yn anelu at leihau’r defnydd o wrthfiotigau trwy gyfrwng y prosiect, gyda diwrnodau agored yn cael eu cynnal i rannu’r canlyniadau gyda’r diwydiant ehangach.

Ffermwyr yn protestio ym Mhrag
Cynhaliodd ffermwyr o’r UE brotest yn y Weriniaeth Tsiec ar 15fed Medi, sef yr un diwrnod ag yr oedd cyfarfod o weinidogion amaeth yr UE yn cymryd lle ym Mhrag.
Fel rhan o Gynllun Strategol PAC Gweriniaeth Tsiec bwriedir ailddosbarthu cyfran fwy o’r cymorthdaliadau i ffermydd teuluol llai o faint. Mae cynrychiolwyr y ffermydd mawr wedi bod yn protestio yn erbyn y bwriad, ac maent hefyd yn bwriadu protestio i dynnu sylw at y ffordd y bydd mesurau amgylcheddol Bargen Werdd yr UE yn arwain at lai o gynhyrchu yn sgil costau uwch.