Etholiadau pwyllgorau rhanbarthol Gwlân Prydain

Mae Gwlân Prydain wrthi ar hyn o bryd yn chwilio am enwebiadau ar gyfer Cynrychiolwyr Sirol.

Mae strwythur llywodraethu Gwlân Prydain yn cynnwys naw o ranbarthau ar draws y DU, gydag 81 o gynrychiolwyr sirol a etholir gan ffermwyr yn cynrychioli aelodau eu siroedd eu hunain ar y pwyllgor rhanbarthol.  Mae angen ethol ar gyfer pob un o’r 81 o gynrychiolwyr sirol, ac mae Gwlân Prydain yn gwahodd enwebiadau gan y rhai sydd â diddordeb mewn cynrychioli ffermwyr eu siroedd eu hunain.

Ceir manylion llawn am rôl Cynrychiolydd Sirol yma.

 Disgwyliadau’r rôl:

  • Penodiad 3 blynedd, yn dechrau 1af Ionawr 2023
  • 2 gyfarfod rhanbarthol y flwyddyn
  • 1 gynhadledd flynyddol ym mis Tachwedd

Cysylltwch ag aelodau byrddau rhanbarthol Gwlân Prydain gydag unrhyw gwestiynau am y rôl yma.

Y broses enwebu

I fod yn gymwys i sefyll ar gyfer eu hethol, rhaid i aelodau gael eu henwebu gan ddeg o aelodau cofrestredig y sir maent yn dymuno ei chynrychioli.  Dylai pob un o’r enwebwyr gynnwys eu cyfeiriad, llofnod awdurdodedig a rhif aelodaeth.  I gael manylion y rhanbarthau, ewch i’r dudalen berthnasol ar wefan Gwlân Prydain.

Dylid anfon enwebiadau drwy ebost, i gyrraedd cyn 6pm Ddydd Iau 17ain Hydref 2022, at This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it. neu drwy’r post i British Wool, Wool House,

Sidings Close, Canal Road, Bradford, BD2 1AZ.