Nodyn atgoffa am randdirymiad Glastir – tywydd sych a sychder

Gall unrhyw ffermwr sy’n cael anhawster bodloni gofynion ei gontract Glastir ofyn am randdirymiad neu lacio’r rheolau, gan ddefnyddio’i gyfrif RPW Ar-lein.

Mae enghreifftiau o sefyllfaoedd lle gall fod angen gwneud cais am randdirymiad yn cynnwys:

  • Anhawster cydymffurfio â rhai opsiynau o ran uchder y borfa lle mae prinder porthiant ar gyfer da byw
  • Mynd â chnwd porthi hwyr o gaeau sydd ag opsiynau pori Glastir
  • Torri a byrnu gwasarn gaeaf megis brwyn o gaeau sydd dan opsiynau Glastir
  • Anhawster cael digon o ddŵr ar gyfer da byw ac angen mynediad at ddŵr o fewn opsiynau lle mae stoc wedi’u heithrio, megis coridorau ar hyd glannau nentydd.

Gellir cyflwyno cais am randdirymiad ar gyfer unrhyw opsiwn o fewn contract Glastir a bydd y ceisiadau’n cael eu hystyried fesul achos.

Dylid darparu manylion am yr opsiwn a rhif y cae, ynghyd â chymaint o wybodaeth â phosib am yr amgylchiadau sy’n arwain at y cais.  Gall fod angen dogfennau ategol mewn rhai amgylchiadau, yn dibynnu ar natur y cais.

Pan ganiateir rhanddirymiad, mewn rhai amgylchiadau mae’n bosib na fydd yr opsiwn/opsiynau’n cyfrannu at y taliad blynyddol, ond ni fyddai unrhyw gosb am fethu â chyflawni’r opsiwn/opsiynau sy’n gysylltiedig â’r rhanddirymiad.

Cyhoeddwyd briff UAC ar effeithiau tywydd sych a chyfnodau o sychder ar amaethyddiaeth yn rhifyn Medi o Y Tir.

Mae gwybodaeth bellach ac arweiniad ar gael ar wefan UAC yma.