Cadarnhau achosion o Ffliw Adar

Mae dau achos newydd o Ffliw Adar wedi’u cadarnhau yng Nghymru, ar 5ed a 9fed Medi.  Cafodd yr achos ar 5ed Medi ei gadarnhau ar eiddo ger Arthog yng Ngwynedd, a’r llall ar eiddo ger Aberdaugleddau, Sir Benfro ar 9fed Medi.

Mae Parth Gwarchod 3km a Pharth Gwyliadwriaeth 10km wedi’u sefydlu o amgylch y ddau leoliad.

Dyma’r chweched a’r seithfed achos o HPAI H5N1 a gadarnhawyd yng Nghymru ers mis Hydref y llynedd.  Mae’r achosion newydd yn tanlinellu’r ffaith bod yna berygl o du’r clefyd o hyd, a gofynnir i geidwaid dofednod ac adar caeth eraill i roi mesurau bioddiogelwch trylwyr ar waith.

Dylai ceidwaid barhau i fonitro eu heidiau’n ofalus am arwyddion o’r clefyd, a rhaid iddynt roi gwybod i’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion os ydyn nhw’n amau bod Ffliw Adar yn bresennol.