Ffermwyr yng Nghymru’n falch o’u cynnyrch safonol a maethlon - medd UAC wrth Llywodraeth Cymru

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ‘Amgylchedd Bwyd Iach - Archwilio cynigion i wneud yr amgylchedd bwyd yng Nghymru yn iachach’, gan bwysleisio bod ffermwyr yn falch o ansawdd da'r bwyd maent yn ei gynhyrchu.

Wrth ymateb i’r ymgynghoriad, pwysleisiodd yr Undeb ei bod hi’n gefnogol ar y cyfan i’r themâu a nodwyd yn yr ymgynghoriad i annog basgedi siopa iachach, bwyta’n iachach y tu allan i’r cartref, ac amgylcheddau bwyd lleol iachach, gan olygu mai’r ‘dewis iach yw’r dewis hawdd’.

Mae aelodau UAC yn falch o’r cynnyrch fferm Cymreig o ansawdd da maen nhw’n ei gynhyrchu ar gyfer y boblogaeth leol yng Nghymru a thu hwnt. Mae UAC am weld hyrwyddo pellach ar y safonau amgylcheddol a lles anifeiliaid uchel y mae ffermwyr yn gorfod, ac yn dymuno, cadw atynt, ochr yn ochr â gwerth maethlon uchel cynnyrch Cymreig o fewn amgylchedd sy’n cynhyrchu bwyd iach a chytbwys mewn ffordd gynaliadwy.

Roedd UAC hefyd yn gefnogol ar y cyfan i’r bwriad o ganolbwyntio ymdrechion ar gynnyrch llawn siwgr i daclo gordewdra.

Mae nifer o bethau sy’n bryder i aelodau UAC o fewn y cynigion, yn arbennig y modd y mae cynhyrchion sy’n uchel mewn braster, siwgr neu halen yn cael eu pennu a’u categoreiddio, a’r cyfyngiadau ar hyrwyddo eu pris yn sgil hynny.

Er enghraifft, rhestrir iogyrt dan y ‘Categorïau sy’n peri’r pryder mwyaf o ran gordewdra yn ystod plentyndod’ ac mae Pwdinau Llaeth hefyd wedi’u cynnwys yn y rhaglen i leihau calorïau a siwgr.

Fodd bynnag, mae calsiwm yn hanfodol ar gyfer plant sy’n tyfu, felly mi allai categoreiddio iogyrt yn y modd hwn arwain at ganlyniadau anfwriadol.

Mae cynnyrch llaeth yn darparu amrywiaeth eang o faethynnau, gan gynnwys potasiwm a ffosffadau. O ran iechyd y galon a chylchrediad y gwaed, serch eu bod yn cynnwys braster dirlawn, mae cynhyrchion llaeth megis llaeth, caws ac iogyrt yn cael effaith niwtral, neu hyd yn oed effaith bositif. Gallant hefyd helpu i leihau’r risg o ddiabetes math 2 a phwysedd gwaed yn ôl y British Heart Foundation.

Yn ei hymateb, cyfeiriodd yr Undeb at y ffaith bod pasteiod cig a phrydau cig parod hefyd wedi’u rhestr dan y rhaglen lleihau calorïau.

Er bod argymhellion y Canllaw Bwyta’n Iach, a ddefnyddiwyd fel tystiolaeth ar gyfer y cynigion, yn cydnabod y rôl mae cig coch heb lawer o fraster yn ei chwarae o fewn deiet cytbwys, mae hefyd yn argymell bwyta llai o gig coch. Byddai UAC yn dadlau bod y buddiannau iechyd a awgrymir yn dibynnu, does bosib, ar beth a fwyteir yn lle cig coch.

Mae angen bod yn wyliadwrus oherwydd nid yw calorïau’n cael eu creu’n gyfartal, felly mae UAC o’r farn nad yw’r cyfyngiadau’n berthnasol ar gyfer cig coch heb lawer o fraster neu gynnyrch llaeth.

Nid yw symleiddio’r bwydydd hyn drwy gyfrif y calorïau sydd ynddynt yn unig yn rhoi ystyriaeth i’w gwerth maethlon uchel, y lefelau egni hirbarhaol a’r proteinau a ddarperir, sy’n gwneud i bobl deimlo’n ‘llawn’ am gyfnod hirach, o’u cymharu â’r bwydydd llawn siwgr sydd yn yr un categori â nhw.