Gwell hwyr na hwyrach o ran cymorth i fusnesau yn ystod yr argyfwng ynni medd UAC

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi croesawu cyhoeddiad Llywodraeth y DU ar Ddydd Mercher 21 Medi yn amlinellu cynlluniau i helpu i leihau biliau ynni busnesau, ond dywed y gall fod yn rhy ychydig yn rhy hwyr i rai.

Cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Busnes Jacob Rees-Mogg y Cynllun Rhyddhad ar Filiau Ynni, sy’n anelu at ddarparu help i fusnesau a chwsmeriaid annomestig eraill dros y gaeaf sydd i ddod, drwy osod prisiau cyfanwerthu disgwyliedig o £211 fesul MWh o drydan a £75 fesul MWh o nwy.

Hyd yma, bu’r ffocws yn bennaf ar brisiau ynni domestig a’r angen i’r llywodraeth ymyrryd i helpu teuluoedd, a hynny’n hollol iawn, o ystyried y cynnydd mewn prisiau a ddisgwylir ym mis Hydref, ond mae prisiau ynni i fusnesau wedi cael llai o sylw o lawer.

Yn Ionawr 2022, rhybuddiodd UAC fod y sefyllfa i fusnesau eisoes yn un ddifrifol, gyda llythyr a anfonwyd at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes ar y pryd, Kwasi Kwarteng, yn tanlinellu’r ffaith bod ffermwyr llaeth yng Nghymru eisoes yn wynebu cynnydd yn eu costau ynni o hyd at £1,000 y mis, ar ben y pwysau enfawr yn sgil costau cynyddol mewnbynnau megis gwrtaith.

Bryd hynny, galwodd UAC ar Mr Kwarteng i roi polisïau ar waith a fyddai’n negyddu effeithiau difrifol y costau ynni cynyddol i fusnesau Cymru a’r DU.

Mae’r cyhoeddiad hwn o gymorth i fusnesau a defnyddwyr annomestig eraill yn un i’w groesawu felly, a gwell hwyr na hwyrach, ond mae UAC yn bryderus y gall fod yn rhy hwyr i rai busnesau.
Yn ddiweddar, cyhoeddodd CF Fertilisers UK, sef cangen o CF Industries sy’n cynhyrchu 60 y cant o gyflenwadau carbon deuocsid Prydain y byddai’n rhoi’r gorau dros dro i gynhyrchu amonia ar ei safle yn Billingham oherwydd y cynnydd enfawr mewn costau cynhyrchu, a hynny ar ôl cyhoeddi ym Mehefin bod ei safle Ince yn cau, a serch ymyriadau brys y llywodraeth yn 2021.

Yng Ngorffennaf, lansiodd UAC ei Chynllun Pum Pwynt ar gyfer llywodraethau’r DU, gyda’r nod o liniaru’r pwysau ar ffermwyr, cynhyrchwyr bwyd a defnyddwyr dros y tymor agos, ac atgyfnerthu diogelwch ein cyflenwadau bwyd ac ynni ar yr un pryd, mewn ffyrdd sy’n lleihau’r perygl o fod yn agored i effeithiau argyfyngau byd-eang yn y dyfodol.

Roedd y cynllun yn tanlinellu’r ffaith bod gwledydd ar draws yr UE wedi cyhoeddi pecynnau cymorth gwerth cannoedd o filiynau i fusnesau sy’n dioddef yn sgil y cynnydd enfawr mewn costau, a bod y cymorth a ddarparwyd yn y DU, o’i gymharu, wedi bod yn bitw iawn. Mi fydd yn cymryd blynyddoedd i fusnesau adfer yn llawn ar ôl yr argyfwng ynni a’r cyfraddau chwyddiant presennol, a nawr bod y pecyn cymorth hwn wedi’i gyhoeddi, mae UAC yn erfyn ar Lywodraeth y DU i ymestyn y capio prisiau ar gyfer busnesau tu hwnt i Fawrth 2023, pan fydd yn adolygu’r cynllun ymhen tri mis.