Taclo defnydd ac ymwrthedd gwrthficrobaidd mewn anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd: Gwersi a ddysgwyd yn y Deyrnas Unedig

Cyhoeddwyd adroddiad gan Sefydliad Bwyd ac Amaethyddiaeth (FAO) y Cenhedloedd Unedig a’r Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol, yn adrodd sut mae’r DU wedi llwyddo i roi mesurau ar waith i leihau defnydd diangen o wrthfiotigau ar ffermydd, ac wedi llwyddo i haneru gwerthiant gwrthfiotigau ar gyfer anifeiliaid ers 2014.  Hefyd, dros yr un cyfnod, mae’r defnydd o wrthfiotigau hanfodol bwysig uchaf eu blaenoriaeth wedi gostwng  79%.

Mae’r Deyrnas Unedig wedi mabwysiadu agwedd wahanol i nifer o wledydd eraill wrth ddatblygu ei system stiwardio gwrthfiotigau.  Yn hytrach na rheoleiddio, mae’r llywodraeth wedi gweithio  gyda ffermwyr a milfeddygon, gan eu cynorthwyo i gymryd camau i leihau defnydd diangen o wrthfiotigau.

Mae gan bob sector ffermio ddulliau sydd wedi’u datblygu a’u teilwra’n unigol, sy’n gwella hwsmonaeth ac yn mabwysiadu mesurau atal clefydau, i leihau’r ddibyniaeth ar wrthfiotigau.

Mae’r ffaith bod y diwydiant wedi perchnogi’r mater ac wedi hyrwyddo’r gwaith yn allweddol i lwyddiant y dull hwn, er enghraifft, ffurfio’r Tasglu Targedau, a sefydlwyd gan y Gynghrair Defnydd Cyfrifol o Feddyginiaethau Mewn Amaethyddiaeth (RUMA).  Mae’r Tasglu Targedau, sy’n cynnwys ffermwr arbenigol a milfeddyg yn cynrychioli bob sector da byw, wedi bod yn fenter hynod o lwyddiannus, gan ddarparu fforwm dysgu a phrofiadau a rennir ar draws pob sector.

Mae llwyddiant y Deyrnas Unedig i leihau’r defnydd o wrthfiotigau mewn amaethyddiaeth yn golygu ei bod ymhlith y gwledydd sy’n defnyddio’r lleiaf o wrthfiotigau ar draws Ewrop, a’r lleiaf oll o blith y gwledydd hynny sydd â diwydiant ffermio da byw sylweddol.

Mae’r adroddiad llawn ar gael yma https://www.fao.org/documents/card/en/c/cc0927en