Ffenestr ariannu sgiliau Cyswllt Ffermio

Bydd ffenestr ymgeisio ar gyfer hyfforddiant cymorthdaledig yn agor ar Hydref 17eg am UN WYTHNOS YN UNIG.

Mae’r ffenestr ymgeisio am ariannu sgiliau yn agor am 9am ar Ddydd Llun 17 Hydref 2022 ac yn cau am 5pm ar Ddydd Gwener 21ain Hydref 2022.

Mae 20 o gyrsiau byr ar gael dan y categorïau ‘Busnes’, ‘Tir’ a ‘Da Byw’.  Bydd yr holl gyrsiau hyfforddiant â chymhorthdal o hyd at 80% ar gyfer unigolion cofrestredig.

Dyma’r cyrsiau sydd ar gael:

 

Busnes

Cadw Llyfrau a TAW

Cynllunio a datblygu busnes

Cymorth Cyntaf Mewn Argyfwng – cwrs undydd

Ymwybyddiaeth, Archwilio a Rheolaeth Amgylcheddol i’ch Busnes

Marchnata eich busnes

Cynllunio ar gyfer Arallgyfeirio neu Fenter Newydd ar Fferm

Deall a Defnyddio eich Cyfrifon

 

Tir

Archwilio Coed Sylfaenol

Cynnal a Chadw Llif Gadwyn a Thrawslifio

Dyfarniad Lefel 2 mewn Defnyddio Plaladdwyr yn Ddiogel (PA1) a Gwasgaru Plaladdwyr yn Ddiogel gan Ddefnyddio Offer Chwistrelli Bŵm wedi’i osod ar Gerbyd (PA2)

Dyfarniad Lefel 2 mewn Defnyddio Plaladdwyr yn Ddiogel (PA1) a Gwasgaru Plaladdwyr yn Ddiogel gan Ddefnyddio Offer Llaw ( PA6 )

Dyfarniad Lefel 2 mewn Rheoli Llygod

Tryc Codi Telesgopig ar gyfer Tir Garw

Cerbyd Pob Tirwedd (ATV) – Eistedd Arno

Tynnu Trelar ar y Ffordd

Rheoli Coetir ar gyfer Cadwraeth

 

Da Byw

Iechyd, lloches a rheoli lloi

Trimio traed gwartheg 

DIY Ffrwythloni Artiffisial (AI)

Sganio gwartheg

Sganio defaid

Defnyddio dip defaid yn ddiogel

Defnyddio meddyginiaethau milfeddygol mewn modd diogel

 

Am fwy o wybodaeth a chymorth ar sut i wneud cais, ewch i wefan Cyswllt Ffermio ar:


https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy