Gweminar am ddim ar gadw’n ddiogel wrth weithio gyda choed

Mae Cymdeithas Genedlaethol y Contractwyr Amaethyddol yn cynnal gweminar am ddim ar gadw’n ddiogel wrth weithio gyda choed.

Mae’r weminar am ddim yn agored i bawb sy’n gweithio gyda choed.

Mae hon yn weminar gan y Bartneriaeth Diogelwch Fferm.

Mae’r agenda’n cynnwys:

  • Deddfwriaeth a phroblemau
  • Cyfrifoldeb y perchennog tir os yn defnyddio gweithwyr hunangyflogedig neu gontractwyr
  • Llif gadwyn ynteu llif dorri/bachu?
  • Cyfle i glywed gan gontractwr sy’n gweithio gyda choed
  • Canllawiau a hyfforddiant ar gael

Mae’r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb.  Does dim angen cofrestru ymlaen llaw.

Cynhelir y weminar ar 9fed Tachwedd am 9am.  Am fwy o wybodaeth ewch i: https://www.naac.co.uk/training-and-events/