Y gwir am gost gynyddol tor diogelwch data

Er bod nifer o fusnesau fferm yn mynd yn fwy a mwy gwyliadwrus wrth ddiwygio eu polisïau gwaith i liniaru’r perygl o ymosodiadau seiber, mae nifer fawr ohonynt heb fesurau  digonol yn eu lle o hyd i’w diogelu rhag troseddau seiber.

Serch bod nifer yr ymosodiadau penodol a gafodd effaith ariannol wedi lleihau rhyw fymryn dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r costau cyffredinol i’r rhai a effeithiwyd wedi codi’n ddramatig.  Ers 2017, pan oedd y gost uniongyrchol i fusnesau yn £1,380 ar gyfartaledd, mae’r ffigur wedi tyfu erbyn hyn i £3,150 yn 2019.  Nid yw’r swm hwn yn rhoi ystyriaeth i’r costau adfer a’r costau hirdymor, all fod yn gyfanswm o tua £3,000 ar gyfartaledd.

Er bod nifer y busnesau mawr a chanolig sy’n diogelu eu busnesau gydag yswiriant seiber wedi cynyddu dros y flwyddyn ddiwethaf, dim ond 11% o fusnesau a 6% o elusennau sydd ag yswiriant arbenigol yn ei le.  Ar ben hynny, ychydig dros traean yn unig o fusnesau sydd ag aelod bwrdd neu ymddiriedolwr sy’n benodol gyfrifol am seiberddiogelwch.

Mae’n bwysig eich bod yn llwyr ymwybodol, waeth beth yw maint neu natur eich busnes fferm neu elusen, o’r effaith uniongyrchol a hirdymor y gall trosedd seiber ei chael ar ei busnes. 

Mae Gwasanaethau Yswiriant FUW wedi gweithio gyda nifer fawr o fusnesau, o fasnachwyr hunangyflogedig i gorfforaethau byd-eang, ar eu hatebion i ymosodiadau seiber.  I helpu i sicrhau eich bod wedi’ch diogelu, gall y tîm arbenigol gynnal adolygiad o’ch yswiriant presennol, i werthuso a fyddai yswiriant seiber o fudd i’ch busnes chi.  Cysylltwch â’ch Swyddog Cyfrif UAC lleol heddiw ar https://www.fuwinsurance.co.uk/cy/cysylltwch-a-ni/