Ymweliad am Ddim Diogelwch Tân ar Ffermydd Canolbarth a Gorllewin Cymru

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru am weithio gyda theuluoedd ffermio i gadw anwyliaid, cartrefi, tir ac anifeiliaid yn ddiogel rhag tân.

Mae’r Gwasanaeth yn gwahodd ffermwyr i wneud cais am Ymweliad Diogelwch Tân ar Ffermydd rhad ac am ddim i helpu i baratoi cynllun i leihau’r perygl o dân. Byddant yn helpu gyda’r canlynol:

  • Gwneud yn siŵr bod gan y fferm Asesiad Risg Tân cyfredol.
  • Datblygu BLWCH TÂN ger y fynedfa i’r eiddo sy’n cynnwys manylion megis lleoliad cyflenwadau dŵr, map o’r tir, rhestr o’r da byw, a lleoliad a mathau o ddeunyddiau peryglus.  Bydd yr wybodaeth hon yn helpu i gadw criwiau’n ddiogel.
  • Nodi ardaloedd i adleoli da byw iddynt fel rhan o’r cynllun argyfwng.
  • Darparu canllawiau ar gadw’r fynedfa a’r llwybrau gadael yn glir, a sicrhau bod digon o le i gerbydau tân gael mynediad.

Byddant hefyd yn cwblhau Gwiriad Diogelwch Tân yn y Cartref ar gyfer pob eiddo domestig ac yn darparu a gosod larymau mwg, gwres a Charbon Deuocsid am ddim os oes angen.

Os bydd yna dân: 

Peidiwch â thaclo’r tân oni bai ei bod hi’n ddiogel gwneud hynny a bod yna ddigon o ddeunydd diffodd ar gael (dŵr, ewyn, CO2, powdwr sych ac ati).  Os na fydd y tân wedi’i ddiffodd o fewn 20 neu 30 eiliad, symudwch i ffwrdd i fan diogel a galwch y gwasanaeth tân.  Rhowch yr wybodaeth ganlynol iddyn nhw: 

  • Cyfarwyddiadau clir a chywir.  Maent yn argymell defnyddio’r ap What3words to nodi union leoliad y fferm o fewn tair metr sgwâr.
  • Dywedwch wrth y derbynnydd beth sydd ar dân a beth all fod mewn perygl o gael ei effeithio gan y tân.
  • Rhowch wybod i’r derbynnydd am unrhyw faterion all effeithio ar griwiau sy’n mynychu.  Gofynnwch am gerbyd 4x4 os oes angen.
  • Anfonwch rywun i gwrdd â’r cerbydau ger mynedfa’r fferm (ewch â thortsh os ydy hi wedi nosi) ac arddangoswch enw’ch fferm ar ben y lôn.
  • Siaradwch â’r criw tân pan fyddan nhw’n cyrraedd ac arhoswch gerllaw i ateb unrhyw gwestiynau.
  • Byddwch yn barod i gynorthwyo criwiau tân gyda pheiriannau fferm sydd ar y safle, megis llwythwr pen blaen neu lwythwr telesgopig (telehandler).

Peidiwch byth â thaclo tân os ydy hynny’n golygu peryglu bywyd pobl.

I ofyn am ymweliad am ddim, cysylltwch â Gwasanaeth Tân ac Achub Gorllewin a Chanolbarth Cymru ar:

Ebost: This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.   

Ffôn: 0800 1691234

Gwefan ar gyfer gwybodaeth bellach -  www.mawwfire.gov.uk/eng/your-safety/farm-fire-safety