UAC yn cefnogi bwriadau ac amcanion y Bil Bwyd drafft

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi ymateb i Fil Bwyd (Cymru) drafft Peter Fox, gan gefnogi bwriadau ac amcanion y Bil mewn egwyddor.

Roedd yr Aelod o’r Senedd dros Fynwy, Peter Fox AS, yn llwyddiannus mewn pleidlais yn rhoi’r hawl i Aelod Anllywodraethol o’r Senedd i gyflwyno cynnig ar gyfer cyfraith newydd, ac mae ganddo tan 17 Rhagfyr 2022 i gwblhau a chyflwyno ei Fil Bwyd arfaethedig.

Yn ei hymateb, cyfeiriodd UAC at y ffordd mae pandemig Covid-19 a rhyfel presennol Rwsia yn erbyn Wcráin wedi dangos pa mor sensitif y gall cadwyni cyflenwi bwyd a nwyddau amaethyddol fod i ddigwyddiadau byd-eang, gan ein hatgoffa’n bendant iawn am beryglon dibynnu ar fewnforio bwyd a deunydd crai.

Tra bod y ffaith bod cyfraddau chwyddiant prisiau bwyd a diodydd di-alcohol yn y DU wedi cyrraedd 12.7% yng Ngorffennaf 2022 yn tystio i effeithiau cyfunol digwyddiadau diweddar, adroddodd The Andersons Centre yng Ngorffennaf fod chwyddiant amaethyddol (sef chwyddiant sy’n gysylltiedig â chynnydd o ran costau a phrisiau amaethyddol) yn 23.5% y flwyddyn.
Pwysleisiodd yr Undeb hefyd, yn sgil y cyfraddau chwyddiant presennol a’r cynnydd enfawr yng nghostau ynni, fod y pwysau ar incwm gwario a’r pwrs cyhoeddus yn dwysau, a fydd yn arwain yn anorfod at fwy o benderfyniadau prynu seiliedig ar bris.

Fel y cyfryw, mae gan Lywodraeth Cymru rôl i’w chwarae yn bendant o ran adeiladu perthnasoedd gwell â’r prif fanwerthwyr, sef gwerthwyr pennaf cynnyrch Cymreig o hyd, a hynny er mwyn cynnal – hyd y bo modd – y tueddiadau positif a welwyd o fewn diwydiant cig coch Cymru trwy gydol y pandemig.

Yn ganolog i hyn, tanlinellodd UAC yn ei hymateb, y mae’r angen am labeli clir ar gynnyrch Cymreig, sy’n cydnabod y safonau iechyd a lles anifeiliaid, y safonau amgylcheddol, a’r safonau bwyd y mae ein ffermwyr eisoes yn eu harddel, sydd ymhlith y gorau yn y byd.

Mae hyn yn hanfodol o ystyried bod cyfran fawr o gynnyrch Cymru – gan gynnwys cynnyrch sy’n bodloni safonau cynlluniau sicrwydd fferm megis Tractor Coch a FAWL – yn cael ei werthu gan brif fanwerthwyr mewn rhannau eraill o’r DU dan faner Prydain, yn sgil diffyg gallu i brosesu yng Nghymru, gan wneud hi’n anodd dros ben didoli cynnyrch yn ôl ei wlad tarddiad.
Ochr yn ochr â hyn, yn arbennig nawr bod defnyddwyr yn mynd yn ôl i fwyta y tu allan i’w cartrefi, y mae angen labeli clir ar gynnyrch Cymreig ar draws y sector gwasanaeth bwyd.
O ran caffael cyhoeddus, yn ôl y ddogfen ymgynghori ‘canfuwyd bod cyrff cyhoeddus ag agweddau gwahanol iawn ac anghyson tuag at bolisi bwyd o fewn eu cylch gwaith eu hunain.’
Mae UAC wedi cyfrannu at y gwaith o sicrhau bod Chartwells, sef y cwmni arlwyo sy’n cyflenwi bwyd i ysgolion Sir Fôn, yn ymrwymo i sicrhau bod 30% o’r holl gynnyrch yn dod o ddalgylch o 60 milltir, fel rhan o’i gontract gyda Chyngor Sir Ynys Môn.

Er bod y gyfran o fwyd sy’n cael ei gaffael yn lleol gan rai cyrff cyhoeddus wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf, mae yna nifer sylweddol o weinyddiaethau o hyd nad ydynt yn cefnogi amaethyddiaeth yng Nghymru, ond yn hytrach yn dewis derbyn cynnyrch o wledydd sy’n aml yn methu â chwrdd â’r safonau cynhyrchu uchel sy’n ofyniad statudol yng Nghymru.
Fodd bynnag, roedd y ddogfen ymgynghori hefyd yn tynnu sylw at ‘ddiffyg archwilio polisïau’n gyffredinol mewn perthynas â’r system fwyd ehangach yng Nghymru … gydag adrannau Llywodraeth Cymru’n mabwysiadu agweddau gwahanol tuag at bolisi bwyd; gan arwain at nodau polisi sy’n aml yn gwrthddweud ei gilydd’ ac roedd yn cydnabod pwysigrwydd ‘dull cydgysylltiedig, fel bod y ddau Fil, sef Bil Bwyd (Cymru) a Bil Amaethyddiaeth (Cymru) yn cefnogi’i gilydd.’

Roedd y ddogfen ymgynghori hefyd yn cydnabod y gall fod yna rywfaint o drawsgroesi o ran amcanion polisi’r Bil Bwyd, megis yr ymrwymiad ‘i ddatblygu Strategaeth Bwyd Cymunedol Cymru i annog pobl i gynhyrchu a chyflenwi bwyd lleol yng Nghymru’ o fewn Rhaglen Llywodraethu Llywodraeth Cymru a’r Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru.
Fel y cyfryw, mae UAC o’r farn bod gan Lywodraeth Cymru rôl bendant o ran sicrhau bod y Biliau hyn, y polisïau presennol a chynlluniau’r dyfodol yn ategu’i gilydd ac yn cyflawni’r amcanion dan sylw er budd cynhyrchwyr bwyd a defnyddwyr yng Nghymru.

Yn ogystal, mae’r Undeb yn cefnogi swyddogaethau arfaethedig Comisiwn Bwyd ar gyfer Cymru, a allai ddod â grwpiau presennol sy’n canolbwyntio ar bolisi bwyd ynghyd i weithio ochr yn ochr â’i gilydd ac archwilio polisïau presennol a Biliau deddfwriaethol eraill.

Mi allai grŵp o’r fath sicrhau bod polisïau bwyd y dyfodol yn adlewyrchu ffactorau economaidd-gymdeithasol y system fwyd gyfan a 7 nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, ac ymgymryd â’r rolau a danlinellwyd yn yr ymateb i’r ymgynghoriad, megis mynd i’r afael â rhwystrau rhag caffael yn lleol, a sicrhau bod Biliau sy’n dylanwadu ar bolisi bwyd yn ategu’i gilydd.