Mae trydydd digwyddiad Arloesi ac Arallgyfeirio Cymru Cyswllt Ffermio’n cael ei gynnal ar 21ain Medi ar Faes Sioe Frenhinol Cymru.
Bydd y digwyddiad yn cynnig cymorth a chyngor drwy gymorthfeydd un i un, gweithdai a seminarau ar nifer o bynciau sy’n gysylltiedig ag amaethyddiaeth, gan gynnwys arloesi, arallgyfeirio, da byw, cynaliadwyedd, a newid eich ffordd o feddwl a gweithio.
I gael gwybodaeth bellach ac i gofrestru ar gyfer y digwyddiad cliciwch yma.