UAC yn methu deall yr oedi parhaus i’r gwiriadau ar fewnforion bwyd ar ôl Brexit

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi disgrifio’r oedi parhaus gyda’r gwiriadau ar fwyd sy’n croesi’r ffin ar ôl Brexit fel un sy’n peri dryswch. Mae penderfyniad ymddangosiadol Llywodraeth y DU i ddal ati i ganiatáu i fewnforion o’r UE i osgoi gwiriadau yn ergyd i nifer o gynhyrchwyr y DU, ac yn mynd yn groes i’r graen yn nhermau gallu’r DU i negodi gwelliannau a fyddai’n helpu allforwyr y DU.

Er bod gwiriadau trylwyr wedi bod yn eu lle ar gyfer allforion bwyd o’r DU i’r UE ers 1af Ionawr 2021, y bwriad oedd cyflwyno gwiriadau tebyg ar fewnforion bwyd o’r UE o 1af Ebrill 2021, yn dilyn cyfnod pontio i ganiatáu i fewnforwyr addasu i ymadawiad y DU o Farchnad Sengl yr UE.

Adroddwyd bod yna bryder y bydd y gwiriadau ychwanegol ar nwyddau a fewnforir yn gwthio prisiau a chwyddiant tanwydd i fyny.

Er ei bod hi’n ddealladwy y gallai gwiriadau o’r fath wthio prisiau i fyny, ni fydd hynny’n fawr o gysur i gynhyrchwyr sy’n gorfod cydymffurfio â llu o reoliadau a gwiriadau er mwyn allforio eu nwyddau. 

Mae ffiniau’r DU yn parhau i weithredu fel falfiau sy’n gwneud hi’n hynod o anodd a chostus i allforio i’r UE, oherwydd yr holl waith papur a gwiriadau ar ffiniau’r UE, ond mae’n hynod o hawdd i rai yn yr UE i fewnforio i’r DU, am fod Llywodraeth y DU wedi hepgor yr angen am wiriadau tebyg ar hyd ffiniau’r DU.

Mae hyn wedi creu sefyllfa anghyfartal sy’n ffafrio busnesau’r UE yn fawr, a ‘nawr mae Llywodraeth y DU wedi ymestyn y fantais hon ymhellach.

Mae ffermwyr a nifer o broseswyr yn hynod o ddig bod Llywodraeth y DU wedi methu â pharatoi’n iawn ar gyfer ei pholisi Brexit caled ei hun, a’i bod bellach yn ymestyn dyddiadau cau i wneud iawn am ei methiannau mewn ffordd sy’n rhoi nifer o fusnesau Cymru dan anfantais, ac yn ffafrio nifer o fusnesau’r UE.

Ni ddylai’r DU fod mewn sefyllfa lle mae’n hercio o un estyniad i’r llall yn sgil diffyg cynllunio a rhagwelediad ar ran Llywodraeth y DU, gyda busnesau’r DU yn dioddef cystadleuaeth annheg o ganlyniad.