Masnachu Carbon – Beth mae’n ei olygu?

I gyrraedd allyriadau Sero Net erbyn 2050, mi fydd angen cyfuniad o leihau allyriadau a thynnu carbon. 

I nifer o ffermwyr mae hyn yn golygu canolbwyntio ar leihau allyriadau eu busnesau eu hunain, cynnal archwiliadau carbon, gweithio gyda’u cadwyn gyflenwi, gwella effeithlonrwydd y cynhyrchu, ac atafaelu mwy o garbon ar y fferm.

Fodd bynnag, mae ffermwyr a thirfeddianwyr yn ‘rheoli’’r rhan fwyaf o gyfleoedd i ddal a storio carbon yn y tir drwy greu coetiroedd a gwrychoedd, cadw carbon yn y pridd ac adfer mawndir, a thrwy hynny, gynyddu’r cyflenwad o gredydau carbon ar gyfer y farchnad gwrthbwyso carbon wirfoddol hynod ffyniannus erbyn hyn.

Lluniodd UAC esboniad o fasnachu carbon ar gyfer Y Tir yn Ebrill 2022, sydd i’w weld yma. Mae’n darparu ffermwyr a thirfeddianwyr â darlun manwl, er mwyn iddyn nhw ddeall y buddiannau a’r peryglon posib sy’n gysylltiedig â masnachu carbon, a’r prif argymhellion y mae UAC yn parhau i’w harddel yn ystod cyfarfodydd â gwleidyddion a rhanddeiliaid y diwydiant.