Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi croesawu’r cynnydd a wnaed wrth ddylunio’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) – ond yn dweud bod y cynllun mewn cyfnod tyngedfennol a fydd yn penderfynu a yw’n addas i’r diben, neu’n creu rhwystrau mawr i’r diwydiant ac yn eithrio nifer fawr o ffermwyr.
Mewn datganiad a wnaed gerbron y Senedd ar 11eg Gorffennaf, cyhoeddodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, fod tri adroddiad wedi’u cyhoeddi – dau yn ymdrin â chanfyddiadau’r broses ‘gyd-ddylunio’, ac un yn rhoi ymateb Llywodraeth Cymru – gan ddweud wrth y Senedd y byddai dull graddol o gyflwyno’r cynllun newydd o 2025 yn cael ei ystyried, i osgoi newidiadau ar raddfa fawr ar unwaith.
Y peth pwysicaf yw sicrhau bod y cynllun hwn yn hygyrch ac yn gweithio i bob fferm. Mae hynny’n cynnwys y cyfnod pontio i’r cynllun newydd, felly mae unrhyw gamau a gymeririr i wneud y broses honno’n fwy hwylus i ffermwyr i’w croesawu.
Cafwyd ymateb positif gan Lywodraeth Cymru i nifer o’r galwadau a wnaed gan UAC yn ei hymateb i gynigion Gorffennaf 2022, gan gynnwys yr angen am gyflwyniad graddol, hyblygrwydd o ran targedau, a’r defnydd o dechnoleg fel nad yw’r ‘adolygiad o gynefinoedd’ sy’n ofynnol wrth ymuno â’r cynllun yn amhosibl ei gyflawni ac yn rhy ddrud.
Fodd bynnag, mae hi’n adeg dyngedfennol ar y cynllun o ran p’un ai fydd y cynnydd pellach dros y misoedd nesaf yn arwain at gynllun sy’n ymarferol ac sy’n sicrhau cynaliadwyedd economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol, neu’n creu rhwystrau mawr sy’n gwneud y cynllun yn anymarferol i nifer fawr o ffermydd, gan danseilio’r gallu i gynhyrchu bwyd yng Nghymru.
Yn ei hymateb, mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod bod angen hyblygrwydd mewn perthynas â’r gofyniad am 10% o orchudd coed y bu llawer o sôn amdano, gan ddweud bod ardaloedd sy’n anaddas ar gyfer plannu coed, ac a ystyrir fel rhai sydd i’w heithrio o’r arwynebedd a ddefnyddir i gyfrifo’r 10% yn cynnwys cynefinoedd lled-naturiol amhriodol presennol, gan gynnwys safleoedd dynodedig, mawn dwfn; nodweddion na ellir eu plannu fel sgri a chreigiau, a thir dan denantiaeth lle nad oes gan denantiaid yr awdurdod i blannu coed.
Mae hyn yn gynnydd i’w groesawu, sy’n adlewyrchu’r pryderon y mae UAC wedi tynnu sylw atynt o’r dechrau, ond mae angen consesiynau pellach os ydym am osgoi plannu coed ar dir amaethyddol sy’n bwysig ar gyfer cynhyrchu bwyd a chynaliadwyedd busnesau fferm unigol.
Mae UAC wedi gwneud hi’n glir o’r dechrau bod yn rhaid ystyried cynhyrchu bwyd a hyfywedd economaidd yn gyfartal ag agweddau amgylcheddol y cynllun hwn.
Mae cynigion eraill a gyhoeddwyd yn cynnwys defnyddio RPW Ar-lein i gwblhau’r adolygiad llinell sylfaen o gynefinoedd – dull y mae UAC wedi’i hyrwyddo ers tro byd, gan bwysleisio y dylid gwneud mwy o ddefnydd o lawer o ddata a gasglwyd o ffermydd eisoes
Clywodd y Senedd hefyd y byddai’r ymgynghoriad terfynol, a ddisgwylir yn ddiweddarach eleni, yn cynnwys methodoleg talu. Mi fydd hyn yn gysur i lawer o ffermwyr wrth i’r cyfnod pontio nesáu.
Er bod hyn i’w groesawu, mae’n hanfodol bod unrhyw fethodoleg talu a chyfraddau a gyhoeddir yn gynigion gwirioneddol, yn hytrach na rhai terfynol, fel y gellir eu mireinio.
Rhaid i Lywodraeth Cymru anrhydeddu ei hymrwymiad i gynnal modelu manwl er mwyn archwilio effeithiau economaidd methodolegau talu a chyfraddau posib ar fusnesau fferm, sectorau a rhanbarthau, a defnyddio’r wybodaeth honno i fynd ati i fireinio, ar y cyd â chynrychiolwyr ffermio – fel sydd wedi digwydd gyda diwygiadau blaenorol.
Mae’n hanfodol hefyd bod y gyfran o’r gyllideb a ddyrennir i’r taliad sylfaenol yn adlewyrchu’r hyn sy’n mynd i’r BPS ar hyn o bryd. O dan y cynigion ar gyfer gweithredoedd sylfaenol, gofynnir i ffermwyr gyfyngu ar eu busnesau a gwneud llawer mwy na’r hyn sy’n ofynnol gan ein cystadleuwyr ledled Ewrop ar hyn o bryd, ac mae’n briodol felly bod y diwydiant yn cael ei wobrwyo’n iawn am wneud hyn.
Mae UAC hefyd yn bryderus ynghylch sylwadau a wnaed yn adroddiad Llywodraeth Cymru a chan y gweinidog mewn perthynas â sut all y cynllun weithio ar dir comin.
Mae’r adroddiad yn awgrymu bod y Gweithgor Tir Comin am weld cyllid ar gyfer tir comin yn cael ei eithrio o’r taliadau sylfaenol a’i gefnogi’n gyfan gwbl drwy haen gydweithredol yr SFS.
Nid yw hyn yn wir – mae aelodau’r Gweithgor Tir Comin, sy’n cynrychioli’r mwyafrif o gominwyr Cymru wedi pwysleisio dro ar ôl tro ei bod hi’n hanfodol bod tir comin yn cael mynediad awtomatig at y taliadau sylfaenol.
Mae tua 2,000 o deuluoedd ffermio yng Nghymru’n dibynnu ar dir comin am 25% neu fwy o’u taliad BPS presennol, a byddai eithrio cominwyr rhag cael taliadau sylfaenol yn gwahaniaethu yn eu herbyn ac yn achosi problemau economaidd sylweddol, yn enwedig mewn cymunedau sydd â llawer o dir comin neu nifer sylweddol o gominwyr, lle mae cael mynediad at gytundebau cydweithredol cymhleth yn her neu’n amhosibl.
Croesewir y ffaith bod cymaint o adborth UAC wedi’i adlewyrchu yn ymateb Llywodraeth Cymru, a’r gobaith yw y gellir gwneud cynnydd pellach drwy barhau i weithio gyda’r undebau ffermio ac eraill, gan gynnwys o ran methodolegau talu, capio, ac agweddau eraill ar y cynllun.