Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, Lesley Griffiths, wedi cyhoeddi y bydd y terfyn fferm gyfan o 170kg o nitrogen yr hectar yn cael ei ymestyn ymhellach o 30 Ebrill i 31 Hydref 2023.
Cafodd Rheoliad 4 o Reoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021, sy’n gosod terfyn nitrogen blynyddol ar gyfer y fferm gyfan o 170kg yr hectar o dail organig, ei ohirio’n wreiddiol o 1 Ionawr i roi amser i Lywodraeth Cymru ymgynghori ar gynigion ar gyfer cynllun trwyddedu i gynyddu’r terfyn hwnnw.
Mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu oedi cyn rhoi’r terfyn nitrogen ar waith, i ganiatáu mwy o amser i ystyried yr ymatebion i ymgynghoriad y Llywodraeth ar reoli dulliau o ddodi tail da byw yn gynaliadwy, ac i roi mwy o amser i ffermwyr unwaith bod y canlyniad wedi’i gyhoeddi.