UAC yn croesawu adborth positif gan y Prif Weinidog

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi croesawu adborth positif gan Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, ar nifer o faterion a godwyd gydag ef yn ystod cyfarfod yn Sioe Frenhinol Cymru.

Codwyd nifer o faterion gwahanol oedd yn peri pryder i’r diwydiant gyda’r Prif Weinidog.

Cafwyd trafodaeth helaeth ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) a’r targed plannu coed o 10%.

Er bod UAC yn croesawu’r cynnydd a wnaed yn nhermau datblygu’r SFS, os bydd y rheolau terfynol yn gweithredu fel rhwystr, yna bydd y cynllun wedi methu.

Ar hyn o bryd, y rheol arfaethedig sy’n gofyn bod 10% o fferm dan orchudd coed er mwyn iddi allu ymuno â’r cynllun newydd yw un o’r rhwystrau mwyaf sylweddol, ac mae UAC wedi pwysleisio hyn ers i’r cynigion gael eu lansio deuddeg mis yn ôl.

Roedd UAC felly yn croesawu’r sicrwydd a gafwyd gan y Prif Weinidog bod y rheolau’n dal i gael eu datblygu er mwyn cael gwared â rhwystrau, i wneud yn siŵr bod cymaint o ffermydd â phosib yn gallu ymuno â’r cynllun.

Pwysleisiodd swyddogion UAC hefyd y farn a fynegwyd gan UAC ers tro byd, sef nad coed, er bod ganddynt rôl i’w chwarae yn helpu i liniaru’r newid yn yr hinsawdd, yw’r unig ateb, ac y dylai ynni adnewyddadwy ar ffermydd chwarae rhan yn y cynllun SFS newydd. Fodd bynnag, pwysleisiwyd na ddylai prosiectau ynni adnewyddadwy danseilio tir amaethyddol na’r gallu i gynhyrchu bwyd.

Roedd Mr Drakeford yn amlwg yn cydnabod pwysigrwydd cynhyrchu ynni adnewyddadwy ar ffermydd, yn nhermau cynyddu cynaliadwyedd ffermydd a diogelu cyflenwad ynni Cymru, gan hefyd leihau allyriadau carbon ar yr un pryd, ac mae UAC yn taer obeithio y gellir ei gynnwys fel rhan o’r cynllun.