Seminarau UAC yn y Sioe Frenhinol

Mae UAC yn cynnal nifer o seminarau yn ystod 4 diwrnod Sioe Frenhinol Cymru a gwahoddir pawb i’w mynychu. Dewch i ymuno â ni ym Mhafiliwn UAC ar faes y Sioe Fawr. Mae’r seminarau fel a ganlyn:-

Bore Llun (11am-12pm)Holi ac AtebRheoliadau Adnoddau Dŵr NVZ

Dewch i glywed gennym a ble rydyn ni arni o ran y rheoliadau, gan gynnwys cynrychiolwyr o ADAS a Kebek.

Pnawn Llun (3pm-4pm)Sut all prosiectau ynni adnewyddadwy ar ffermydd helpu i gyrraedd targedau’r dyfodol heb danseilio’r gallu i gynhyrchu bwyd?

Ymunwch â ni ar gyfer trafodaeth gyda Dewi Owen, Julie James AS (Y Gweinidog Newid Hinsawdd), Gareth Parry ac Ed Bailey (Cyfarwyddwr Baileys & Partners).

Pnawn Mawrth (2pm-3pm)Ymgyrch Nid yn Fy Enw I

Lansiad ymgyrch Nid yn Fy Enw I 2023, lle bydd cyfle i ddysgu am effaith cam-drin ac aflonyddu ar oroeswyr a chymunedau.

Pnawn Mawrth (4pm-5pm)Iechyd Meddwl a Chymunedau Gwledig gydag UAC a DPJ

Ymunwch â ni wrth inni drafod y cynnydd a wnaed o ran mynd i’r afael â phroblemau iechyd meddwl o fewn cymunedau gwledig a’r diwydiant amaethyddol. Bydd y panel yn cynnwys Yr Athro Laura McAllister, Noel Mooney (Prif Weithredwr UAC) a Katie Miles.

Bore Mercher (11am-12pm)Ymosodiadau gan Gŵn ar Dda Byw: Ble ydyn ni arni?

Ymunwch â ni wrth inni drafod y ffordd orau o atal ymosodiadau gan gŵn ar dda byw, yn dilyn y tro pedol annisgwyl gyda Bil Anifeiliaid a Gedwir y DU. Yn arbennig, byddwn yn edrych ar rôl tystiolaeth DNA i nodi cŵn pan nad oes tystion i’r drosedd.

Pnawn Mercher (2pm-3pm)Taliadau Amgylcheddol i ffermwyr – mantais neu rwystr?

Sut allwn ni sicrhau cyllid preifat a chyhoeddus ar gyfer gwaith ‘cyfalaf naturiol’ ar ein ffermydd teuluol a’r broses o gynhyrchu bwyd yng Nghymru, a beth yw’r opsiynau?   Bydd ein siaradwyr yn helpu i amlinellu’r cyfleoedd a’r risgiau i ffermwyr yn y farchnad newydd hon.

Bore Iau (10:30am-12:30pm) – Recordiad BYW o’r podlediad Hiraeth

Mae Brexit wedi bod yn un o’r materion mwyaf dadleuol yn hanes ein gwleidyddiaeth, ond beth mae’n ei olygu ar gyfer ffermio? A ydy’r addewidion am lai o reoliadau, bwyd rhatach a chymorthdaliadau tecach wedi’u gwireddu? Beth yw arwyddocâd cytundebau masnach newydd Llywodraeth y DU i Gymunedau Gwledig? Ymunwch â ni a’r podlediad Hiraeth wrth inni drafod hyn a mwy.