Help gan Cyswllt Ffermio i fentrau ar y cyd

Mae Cyswllt Ffermio yn gallu paru ffermwyr a thirfeddianwyr sydd am gamu’n ôl o’r diwydiant gyda newydd-ddyfodiaid sy’n chwilio am gyfle i gychwyn ffermio yn annibynnol.

Mae’n tywys pobl ar y ddwy ochr drwy’r camau allweddol sydd angen eu cymryd i ganfod partner busnes posib. Mae'r pecyn cymorth yn cynnig gwasanaeth paru, mentora, cynllun busnes a chyngor cyfreithiol i ddarparu arweiniad ar bob cam o sefydlu menter ar y cyd.

Gall y rhai sydd eisoes â phartner busnes dderbyn cyngor busnes a chyngor cyfreithiol o hyd. Mae’r cyngor hwn wedi’i ariannu’n llawn i’r rhai sydd am sefydlu menter ar y cyd.

Am fwy o wybodaeth ewch i: https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy/busnes/dechrau-ffermio