Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi croesawu’r cyhoeddiad gan Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, Lesley Griffiths, y bydd gweithredu’r terfyn fferm gyfan o 170kg o nitrogen yr hectar yn cael ei ymestyn ymhellach o 30 Ebrill i 31 Hydref 2023.
Cafodd Rheoliad 4 o Reoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021, sy’n gosod terfyn nitrogen blynyddol ar gyfer y fferm gyfan o 170kg yr hectar o dail organig, ei ohirio’n wreiddiol o 1 Ionawr i roi amser i Lywodraeth Cymru ymgynghori ar gynigion ar gyfer cynllun trwyddedu i gynyddu’r terfyn hwnnw.
Yn ymateb UAC, anogwyd Llywodraeth Cymru i ddefnyddio’r cyfle hwn i gyflwyno cynllun trwyddedu effeithiol fel rhan barhaol o’r rheoliadau, un sydd wedi’i gynllunio’n gywir i sicrhau bod nifer sylweddol o ffermydd yn gymwys, ac sy’n ddigon hyblyg i ymateb i heriau yn y tymor hir.
Croesewir y ffaith felly bod y terfyn nitrogen fferm gyfan yn cael ei ohirio am chwe mis pellach, i ganiatáu mwy o amser i Lywodraeth Cymru ystyried yr ymatebion o ddifrif ac i roi mwy o amser i ffermwyr baratoi unwaith bod y canlyniad wedi’i gyhoeddi.
Er y byddai cyflwyno cynllun trwyddedu’n darparu rhwyd diogelwch sylweddol i rai, mae UAC yn parhau i dynnu sylw at y canlyniadau anfwriadol y bydd y terfyn hwn ynddo’i hun yn ei gael ar allu ffermwyr Cymru i gynnal lefelau cynhyrchu bwyd, ac effaith y rheoliadau’n gyffredinol.
Mae UAC yn taer obeithio y bydd yr estyniad chwe mis hwn yn rhoi cyfle i Lywodraeth Cymru ddeall yn llwyr ôl-effeithiau gosod y terfyn hwn ar fusnesau ffermio a’r diwydiant amaeth yng Nghymru, ac yn caniatáu iddyn nhw fanteisio ar y cyfle hwn i gyflwyno cynllun sy’n helpu i fynd i’r afael â’r pryderon hyn ac eraill.
Mae’r angen am yr ail estyniad hwn yn dangos, yn syml, gymhlethdod a goblygiadau’r rheoliadau - rhai y rhybuddiodd UAC amdanynt yn y blynyddoedd cyn eu cyflwyno - ac fel y cyfryw, mae UAC yn annog Llywodraeth Cymru yn daer i ohirio’r rheoliadau sydd i’w cyflwyno'r flwyddyn nesaf nes bod atebion technolegol eraill wedi’u hystyried, a’r rheoliadau wedi’u hadolygu yn nhermau problemau eraill sylweddol sy’n gysylltiedig â nhw.
Mae’r rhain yn cynnwys problemau mawr o ran pa mor fforddiadwy yw'r seilwaith sy’n gysylltiedig â’r rheoliadau, yn ogystal â materion cysylltiedig â’r awdurdod cynllunio, a’r cynnydd enfawr o ran biwrocratiaeth a chostau gwaith papur.
Mae dicter y diwydiant ffermio mewn perthynas â’r rheoliadau wedi dwysau yn sgil y datgeliad bod Dŵr Cymru, yn 2022, wedi gollwng carthffosiaeth i ddyfrffyrdd am gyfnod yn cyfateb i 68 mlynedd, gydag 83,000 o achosion o ollwng carthffosiaeth, a dros 77,000 o’r rheiny wedi’u categoreiddio fel rhai “sylweddol”.
Mae map rhyngweithiol a gynhyrchwyd gan Cymru Ar-lein yn dangos lleoliad a nifer y gollyngiadau carthffosiaeth yn 2022 i’w weld yma.