Mae ffermwyr yn cael eu rhybuddio am y perygl posib o geffylau’n cael eu gwenwyno gan hadau ac eginblanhigion y goeden fasarn (Acer pseudolatanus) yn dilyn cnwd helaeth o hadau masarn yr hydref diwethaf.
Mae hadau’r goeden fasarn yn cynnwys tocsin a elwir yn Hypoglycin A, ac mae crynodiadau uchel ohono’n aros yn yr eginblanhigion a’r glasbrennau. Os bydd ceffylau’n eu bwyta mi all fod yn farwol, gan arwain at niweidio’r cyhyrau, cyflwr a elwir yn myopathi annodweddiadol. Er bod ceffylau’n hynod o sensitif i’r tocsin, mae tystiolaeth yn awgrymu bod gan anifeiliaid cnoi cil ymwrthedd iddo.
Mae Cymdeithas Milfeddygon Ceffylau Prydain (BEVA), sy’n cynrychioli milfeddygon ceffylau ledled y DU, yn rhybuddio ffermwyr felly am y peryglon ychwanegol eleni o dorri gwair o gaeau sydd wedi’u halogi ag eginblanhigion a glasbrennau masarn.
Er bod chwynladdwyr ar gael ar y farchnad i’w defnyddio’n benodol ar y glasbrennau hyn, mae ymchwil yn dangos bod y planhigyn yn cadw’r tocsin ar ôl gwywo. Argymhellir symud yr hadau a’r eginblanhigion yn gorfforol o dir pori, neu os yw’n ymarferol, ffensio’r ardaloedd sydd â dwysedd uchel o eginblanhigion, ac mae ffermwyr yn cael eu hannog i roi ystyriaeth i risgiau o’r fath, yn arbennig y perygl i geffylau sy’n gysylltiedig â bwydo gwair dros y gaeaf sy’n cynnwys tyfiant masarn, yn enwedig ar hyn o bryd, wrth i ffermwyr gau caeau gwair y bwriedir ei ddefnyddio i fwydo ceffylau.