Defra’n Rhoi’r Gorau i’w Gynlluniau Labeli Lles yn Dilyn Beirniadaeth Lem o Du’r Diwydiant

Y mis diwethaf, cyhoeddodd Defra dro pedol ar gynlluniau dadleuol a fyddai wedi arwain at gyflwyno gorfodaeth i osod labeli lles anifeiliaid ar gynnyrch bwyd. Daw’r cam hwn yn dilyn beirniadaeth lem o du’r diwydiant, gan gynnwys sefydliadau megis UAC.

Yn y bôn, byddai’r cynigion wedi cysylltu canlyniadau lles â’r dull o gynhyrchu, ac yn ôl Defra, wedi rhoi ‘mwy o eglurder’ i ddefnyddwyr am safonau lles y cynnyrch.

Anfonodd UAC ymateb hir a chondemniol i gais Defra yn 2021 am dystiolaeth ar y mater hwn. Yn ei hymateb hynod o feirniadol, dywedodd yr undeb y byddai’r system arfaethedig un ai’n rhy fras i gynhyrchu unrhyw wybodaeth ystyrlon ar gyfer defnyddwyr, neu’n rhy gymhleth i sicrhau prynu gwybodus gan unrhyw un ac eithrio’r sawl oedd yn chwilio’n daer am wybodaeth o’r fath.

Rhaid i UAC groesawu’r cam hwn fel mater o synnwyr cyffredin, sy’n cydnabod y safonau gofal uchel presennol a roir i dda byw yng Nghymru.

Serch yr honiadau yn yr ymgynghoriad y byddai labeli lles yn dod â gwell enillion i gynhyrchwyr, mae UAC eto i weld unrhyw dystiolaeth o’r dybiaeth honno, ac mi fyddai’n dadlau nad oes fawr o deyrngarwch i’w weld o ran cefnogi cynnyrch gyda sicrwydd, os oes modd dod o hyd i gynnyrch rhatach. Mae’r ddamcaniaeth y byddai’r newidiadau arfaethedig rywsut yn cynyddu maint y cynnyrch lles uchel a brynir yn un sylfaenol wallus, heb unrhyw sail gymdeithasegol.

Roedd disgwyl y byddai ymgynghoriad ffurfiol yn y Gwanwyn ond mae Defra’n dweud bellach ‘nad dyma’r adeg iawn’ i lansio’r ymgynghoriad.

Roedd yr undeb wedi arswydo’n arbennig o weld cysylltiad rhwng statws clefydau â lles yn cael ei gynnig fel rhan o’r ymgynghoriad hwn. Ymatebodd yr undeb drwy ddweud ei bod hi’n hynod o beryglus, di-hid ac annoeth i awgrymu system labeli lles yn seiliedig ar nifer yr achosion o glefydau. Yn wir, mi allai cynigion i gysylltu labeli lles â statws clefydau olygu bod ceidwaid da byw’n llai tebygol o ofyn am brofion ar gyfer heintiau isglinigol neu asymptomatig, rhag ofn i hynny gael effaith andwyol ar eu statws labeli lles.

Mae’r ffaith bod miliynau o wyau’r DU wedi colli eu statws wyau maes yn ystod Ffliw Adar H5N8 2017 yn tystio i natur groes y cynigion. Ar y pryd, roedd deddfwriaeth yr UE yn caniatáu llacio’r rheolau am 12 wythnos yn unig ar gyfer adar maes os oedd gofyn eu cadw dan do dan Barth Atal. Pan gafodd y cyfnod cadw dan do ei ymestyn tu hwnt i hynny, yna roedd yr wyau a’r dofednod yn colli eu statws maes. Yn hytrach na chael eu labelu’n wyau maes, roedd yr wyau’n cael eu printio â’r rhif 2 ac yn cael eu labelu’n wyau sgubor. Mewn rhai achosion, roedd cynhyrchwyr oedd yn bodloni meini prawf llym yn cael gadael eu hieir y tu allan, a chreodd hyn sefyllfa anghyfartal - sef yn y bôn ‘loteri cod post’ - oedd yn rhoi’r cynhyrchwyr eraill oedd yn gorfod cadw’u hieir dan do dan anfantais. Roedd y costau staffio a’r tir yr aros yr un fath ond, dan gynigion a fwriadwyd i leihau nifer yr achosion o’r clefyd, cafodd y cynnyrch ei ddibrisio a gostyngodd enillion y farchnad. Yn wir, llwyddodd y labeli a’r rheoliadau i ragori ar, a pherfformio’n well nag unrhyw synnwyr cyffredin a bwriad i atal y clefyd yn yr achos hwn.

Defnyddiodd UAC y cyfle hefyd i ail-bwysleisio bod y cytundebau masnach presennol wedi gadael cynhyrchwyr domestig mewn sefyllfa fregus, drwy ganiatáu i ddefnyddwyr y DU gael mynediad ar gynnyrch rhatach o safon is, ar adeg pan mae safonau iechyd a lles cynnyrch domestig yn dal i gael eu codi ar lefel reoleiddiol.

Mae UAC yn cefnogi camau i orfodi cynhyrchwyr i nodi pan nad yw cynnyrch bwyd a fewnforir yn bodloni llinell sylfaen isaf rheoliadau lles y DU. Mae cytundebau masnach diweddar yn golygu bod aelodau’r undeb bellach yn credu bod y llywodraeth yn fodlon trosglwyddo cyfrifoldebau lles i wledydd eraill. Mae UAC yn gwrthwynebu polisïau sy’n golygu bod cynhyrchwyr domestig yn cael eu gorfodi i weithredu dan y rhagrith o safonau iechyd, lles ac amgylcheddol fwy a mwy llym, tra bod y farchnad gartref yn agored i fewnforion a gynhyrchwyd yn unol â safonau llawer is.

Yn hytrach na bod y diwydiant yn gorfod dioddef mwy fyth o gostau a rheoliadau, hoffai UAC weld mwy o ymdrech o fewn y gadwyn gyflenwi i addysgu defnyddwyr am y safonau lles uchel sydd eisoes yn rhan annatod o’r broses o gynhyrchu bwyd ym Mhrydain. Mae angen gwneud mwy o waith i gynyddu hyder ymhlith defnyddwyr, i gywiro anwireddau maleisus neu anwybodus, ac i hyrwyddo gwaith caled ac ymroddiad ffermydd teuluol yng Nghymru.

Ochr yn ochr â gwaith o’r fath, mi fyddai’n well gan UAC weld mwy o ymdrech yn cael ei wneud i addysgu defnyddwyr am ystyr y labeli lles uchel domestig presennol, er mwyn cynyddu eu parodrwydd i dalu am gynnyrch cartref yn hytrach na chynnyrch amgen rhatach sydd wedi’i fewnforio. Mi fyddai hon yn ffordd llawer symlach, rhatach a mwy effeithiol o sicrhau’r canlyniadau a ddymunir yn yr ymgynghoriad.