UAC Ceredigion yn dathlu Diwrnod Llaeth Ysgol y Byd gyda disgyblion Ysgol Henry Richard

[caption id="attachment_7025" align="alignleft" width="300"]Disgyblion Amaethyddiaeth Blynyddoedd 10 a 11 Ysgol Henry Richard yn ymuno gyda Swyddog Gweithredol UAC Ceredigion Mared Rand Jones a Swyddog y Wasg UAC Anne Birkett ar Ddiwrnod Llaeth Ysgol y Byd. Disgyblion Amaethyddiaeth Blynyddoedd 10 a 11 Ysgol Henry Richard yn ymuno gyda Swyddog Gweithredol UAC Ceredigion Mared Rand Jones a Swyddog y Wasg UAC Anne Birkett ar Ddiwrnod Llaeth Ysgol y Byd.[/caption]

Bu cangen Ceredigion o Undeb Amaethwyr Cymru yn cynnig diod o laeth am ddim i ddisgyblion Ysgol Henry Richard, Tregaron, Ceredigion yn ddiweddar er mwyn dathlu'r 17eg Diwrnod Llaeth Ysgol y Byd.

Ymunodd yr Undeb a’r disgyblion gyda gwledydd ar draws y byd er mwyn pwysleisio’r manteision o raglenni llaeth ysgol a bu dros 170 o ddisgyblion yn mwynhau diod o laeth yn ystod amser egwyl.

Dywedodd Swyddog Gweithredol UAC Ceredigion Mared Rand Jones: “Mae’n hollbwysig ein bod ni fel diwydiant yn mynd i’r ysgolion i hyrwyddo amaethyddiaeth ac i addysgu’r genhedlaeth nesaf am sut mae bwyd yn cael ei gynhyrchu.

“Mae llaeth a chynnych llaeth yn chwarae rhan bwysig yn ein diet bob dydd gan eu bod nhw’n darparu ffynhonnell bwysig o brotein a chalsiwm ac yn cynnwys fitaminau a mwynau hanfodol, ac mae’r cyfan oll yn bwysig i ddiet cytbwys.

Mae eithrio cynnyrch llaeth o’r ‘dreth siwgr’ yn dangos pa mor bwysig ydynt i ddiet iach.”

[caption id="attachment_7026" align="alignright" width="225"]Disgyblion Blwyddyn 8 Ysgol Henry Richard Tirion Lloyd a Bonnie Woodcock yn rhan o Ddiwrnod Llaeth Ysgol y Byd Disgyblion Blwyddyn 8 Ysgol Henry Richard Tirion Lloyd a Bonnie Woodcock yn rhan o Ddiwrnod Llaeth Ysgol y Byd[/caption]

Gydag ymchwil cynyddol i laeth yn dangos ei fod yn gymorth ar gyfer ail-hydradu, ac mae tystiolaeth yn dangos hefyd y gall llaeth fod yr un mor effeithiol â diodydd chwaraeon neu ddiodydd egni.

“Yn bendant gall llaeth helpu plant i aros yn hydradol a chynnal ei lefelau egni yn y dosbarth, ac mae’n ddewis iach o gymharu â rhai o’r diodydd siwgraidd sydd ar gael.  Rwyf am ddiolch i Brif Athro Ysgol Henry Richard Dorian Pugh a’r staff am eu cefnogaeth ac edrychaf ymlaen at gydweithio gyda’r ysgol i addysgu’r plant am faterion amaethyddol ac o le daw eu bwyd,” ychwanegodd Mared Rand Jones.

Dywedodd Prif Athro Ysgol Henry Richard Dorian Pugh: “Fel ysgol, rydym yn falch iawn o weithio gyda UAC er mwyn hyrwyddo Diwrnod Llaeth Ysgol y Byd.  Yn Ysgol Henry Richard rydym yn deall y pwysigrwydd o gael diet iach ac yfed llaeth, ac roedd y disgyblion yn falch iawn o gael cwrdd â Mared ac Anne o UAC a chael gwydraid o laeth.  Edrychwn ymlaen at weithio gyda UAC yn y dyfodol.”

[caption id="attachment_7027" align="aligncenter" width="300"]Prif Athro Ysgol Henry Richard Dorian Pugh a Swyddog Gweithredol UAC Ceredigion Mared Rand Jones yn pwysleisio bod #AmaethAmByth ar Ddiwrnod Llaeth Ysgol y Byd. Prif Athro Ysgol Henry Richard Dorian Pugh a Swyddog Gweithredol UAC Ceredigion Mared Rand Jones yn pwysleisio bod #AmaethAmByth ar Ddiwrnod Llaeth Ysgol y Byd.[/caption]

 

UAC yn pwysleisio pam bod #AmaethAmByth i aelodau Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig

[caption id="attachment_7021" align="alignleft" width="300"]Cadeirydd UAC Ceredigion Anwen Hughes yn croesawu Pwyllgor  Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig Cynulliad Cenedlaethol Cymru i’w fferm  Bryngido. Cadeirydd UAC Ceredigion Anwen Hughes yn croesawu Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig Cynulliad Cenedlaethol Cymru i’w fferm Bryngido.[/caption]

Mewn ymgais i bwysleisio pa mor bwysig yw amaethyddiaeth i’r economi wledig ehangach, mae Undeb Amaethwyr Cymru ynghyd a busnesau lleol wedi cyfarfod gyda Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar fferm yng Ngheredigion, ar gyrion Cei Newydd.

Wrth groesawu pawb i’w fferm Bryngido, roedd Anwen Hughes, Cadeirydd cangen UAC Ceredigion am roi’r sylw i gyd ar y gymuned wledig ehangach a dangos rhai o’r brwydrau sy’n wynebu ffermwyr.

Mae Anwen Hughes yn ffermio oddeutu 138 acer, mae’n berchen ar 99 acer o hynny, 22.5 acer yn denantiaeth fferm hir oes ac yn rhentu 17 acer ychwanegol.

Mae’n cadw 100 o ddefaid Lleyn pur, 30 o ddefaid yr Ucheldir pur a 300 o ddefaid Lleyn croes Ucheldir ac wedi bod yn ffermio ers 1995.

Llynedd, cyfrannodd y busnes dros £30,000 i’r economi leol drwy gynnal cyflenwyr bwyd anifeiliaid, milfeddygon a chontractwyr sydd gweithio o fewn Ceredigion.

Agorwyd yr ymweliad gan Lywydd UAC Glyn Roberts, ac mi ddywedodd “Wrth edrych ar gefn gwlad Cymru ac o siarad â’r myrdd o bobl ar hyd a lled y wlad, mae pawb yn dweud pa mor brydferth yw’r wlad, ac mae hynny am fod pawb yn gweld gwahanol brydferthwch.  Mae pob un ohonom yn dweud hyn, nid yn unig yn nhermau’r dirwedd, golygfeydd, synau a’r llonyddwch, ond am ddiwylliant y bobl, ac mae’r gwreiddiau’n ddwfn mewn amaethyddiaeth a’r holl ddiwydiannau sy’n ynghlwm wrtho.

"O gofio hynny wrth gwrs, mae’r hyn yr ydym yn sôn am yn ymestyn ymhell y tu hwnt i’r syniadau rhamantus hyn; mae amaethyddiaeth o fewn cymunedau nid yn unig yn asgwrn cefn i'r iaith Gymraeg ond mae hefyd yn rhoi gwaith i nifer helaeth o bobl, yn uniongyrchol, a thrwy wasanaethau a ddarperir gan lu o fusnesau.

"Ac wrth gwrs mae ffermwyr yn darparu'r un peth arall, heblaw am dd?r, sy'n rhaid i bobl ei gael er mwyn bodoli sef bwyd. Yng Nghymru a'r DU, rydym yn ffodus o gael  cynhyrchion sydd wedi deillio o bolisïau hynod o lwyddiannus sydd a’r nod o gynhyrchu cyflenwadau cyson o fwyd rhad."

Ychwanegodd Mr Roberts ein bod wedi cael eu difetha gan y cyflenwadau hynny, ac ein bod bellach yn cymryd bwyd yn ganiataol, rhywbeth nad yw rhan fwyaf o boblogaeth y byd yn medru ei wneud, gyda rhai hyd yn oed yn awgrymu y dylem ddibynnu mwy ar wledydd eraill ar gyfer y nwyddau mwyaf hanfodol.

Dywedodd y Llywydd yr Undeb bod ein hecosystemau yn bodoli oherwydd ffermio, ac er bod llawer o gamgymeriadau wedi cael eu gwneud dros y blynyddoedd, ac mae rhai yn parhau i gael eu gwneud, mae unrhyw beth sy'n bygwth hyfywedd amaethyddiaeth hefyd yn bygwth ein hecosystemau, ein heconomi, a’r harddwch sy'n denu cymaint o ymwelwyr i Gymru bob blwyddyn.

Yna clywodd aelodau’r Pwyllgor am rai o'r anawsterau mae Anwen Hughes yn eu hwynebu yn yr hinsawdd bresennol, ac mi ddywedodd: "Buaswn wrth fy modd petai fy ng?r a’r mab yn medru gweithio gyda mi ar y fferm, ond does dim digon o arian yn dod i mewn o fusnes y fferm i dalu’r holl gyflogau. Roedd llynedd yn flwyddyn heriol. Buaswn hefyd wrth fy modd yn cadw buches ychwanegol o wartheg fel ail ffynhonnell o incwm i'r fferm, ond mae cymaint o fiwrocratiaeth yn bodoli, heb sôn am y bygythiad o TB mewn gwartheg, ni fyddai o unrhyw fudd ariannol i'n busnes. Mae hefyd yn ddrud iawn i ddechrau menter o'r fath, a dyw’r busnes ddim yn cynhyrchu arian dros ben i'w fuddsoddi, sydd yn rhwystredig iawn."

Ar ôl clywed hanes y fferm a chael cyfle i fynd o’i chwmpas, cafodd aelodau’r Pwyllgor gyfle i siarad gyda dros 20 o fusnesau a oedd yn bresennol gan gynnwys Sarah Lloyd Cyfrifydd; Banc Barclays; Mole Valley; Dunbia; Sainsburys; Awesome Pork Butchers & farm Shop, Nigel Howells Ymgynghorydd Tir Glas; Brodyr Evans Llanrhystud; Agri Advisor; Arwethwyr Morgan & Davies; cyflenwyr bwydydd anifeiliaid Dafydd WD Lewis; Gwili Jones Llambed; Gwasanaethau Yswiriant FUW; Kiwi Kit, Geraint Jones 4×4 Caerfyrddin; Banc Lloyds; Agrii a Dyfed Telecom.

Dywedodd Mark Thomas, a oedd yn cynrychioli Agrii, busnes cenedlaethol yn darparu cyngor agronomeg, gwasanaethau amaethyddol manwl, ac yn darparu diogelwch cnydau, hadau a gwrtaith i ffermwyr ar draws y DU, pam bod amaeth yn bwysig iddyn nhw: “Rydym yn cyflogi oddeutu 800 o bobl ar draws y DU ac mae 50 o’r rhai hynny ynghlwm gyda ffermio ar yng Nghymru.  Mae amaeth o bwys i mi oherwydd bod gyda ni 800 o deuluoedd a morgeisi o fewn ein sefydliad sy’n dibynnu ar lwyddiant amaethyddiaeth ym Mhrydain, a hefyd oherwydd bod amaethyddiaeth yn ffurfio rhan bwysig o’r economi leol sy’n cadw cymunedau gyda’i gilydd.”

Yn cynrychioli adran amaeth Banc Lloyds oedd Wyn Hinds, ac mi ddywedodd: “Mae amaeth yn bwysig i ni oherwydd rydym am i Brydain lwyddo ac mae amaethyddiaeth yn rhan hanfodol o’n busnesau.  Rydym yma am yr hir dymor ac rydym am weld amaethyddiaeth yn goroesi a ffynnu ac yn ddiwydiant cynaliadwy yn y wlad hon am flynyddoedd lawer i ddod."

Ychwanegodd Rhian Rees, o’r Sied Gêc, masnachwyr bwyd anifeiliaid, nwyddau anifeiliaid anwes a cheffylau: “Cychwynnodd y busnes 2 flynedd yn ôl er mwyn cyflenwi bwydydd anifeiliaid i ffermwyr lleol o’r Sied Gêc yn Llwyncelyn, Aberaeron.

“Er fy mod ond yn cyflogi staff achlysurol, mae’r busnes yn cynnal llawr o staff yn anuniongyrchol, megis staff sy’n cynhyrchu’r bwyd anifeiliaid, staff swyddfa sy’n gwneud gwaith gweinyddol a gyrwyr y lorïau sy’n dosbarthu’r bwydydd.

“Mae’r busnes mewn ardal wledig iawn, ac yn hollol ddibynnol ar y sector amaethyddol.  Felly mae’n hanfodol bod y diwydiant yn gadarn, nid yn unig ar gyfer dyfodol y fferm deuluol ond ar gyfer yr holl fusnesau o fewn ardal wledig.  Mae’r caledi sy’n wynebu’r economi amaethyddol yn effeithio ar bawb!”

Ymgynghorydd Materion Gwledig yr Eglwys yng Nghymru yn Esgobaeth T? Ddewi yw’r Parchedig Ganon Eileen Davies sydd hefyd yn ffermio: “Rwy’n llwyr gydnabod beth mae amaethyddiaeth yn ei olygu ar gyfer yr economi wledig yn ei chyfanrwydd. Rwy’n cymharu amaethyddiaeth i goeden dderwen fawr, gan fod cymaint o ganghennau sydd yn dibynnu ar amaethyddiaeth.  Mae hefyd yn hollbwysig i les ein hardaloedd gwledig wrth sicrhau ein bod yn cadw ein teuluoedd ifanc yma yng nghalon Ceredigion wledig a’n bod ni ddim yn eu colli nhw i’r trefi mawr.  Rydym angen yr effaith ariannol a’r gefnogaeth yna yn ein hardaloedd gwledig.  Mae bodolaeth ardal wledig gynaliadwy yn hollbwysig ar gyfer Cymru gyfan.

Dywedodd Wyn Williams, Prif Brynwr da byw Dunbia: “Mae Dunbia’n cyflogi 4,000 o bobl ar draws y DU ac Iwerddon ac mae oddeutu 800 o’r rhai hynny yn cael eu cyflogi ar ddau safle yng Nghymru, sef yn Llanybydder a Felinfach.

“Ni ddylid diystyru pwysigrwydd y diwydiant amaeth i economi'r DU. Mae gan Gymru ddiwydiant amaeth i fod yn falch ohoni, ac sydd yn cystadlu ar lwyfan rhyngwladol. Mae'n bwysig bod yr holl fudd-ddeiliaid yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau ein bod yn tyfu ac yn datblygu diwydiant cynaliadwy a phroffidiol i bawb." 

[caption id="attachment_7022" align="alignleft" width="300"]Clywodd aelodau Pwyllgor  Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig Cynulliad Cenedlaethol Cymru pam bod #AmaethAmByth i Geredigion a Chymru. Clywodd aelodau Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig Cynulliad Cenedlaethol Cymru pam bod #AmaethAmByth i Geredigion a Chymru.[/caption]

Dywedodd Swyddog Gweithredol UAC Ceredigion Mared Rand Jones: “Ffermydd teuluol yw calon ein heconomi wledig, a dyma beth welwn ni yma ym Mryngido.  Mae ffermydd fel hyn yn gwarchod ein tirwedd, a’n diwylliant wrth gwrs ac yn cyfrannu at les Cymru a’r DU.  Mae UAC wedi bod yn dweud ers tro bod cynhyrchiant bwyd Cymreig yn cynnal degau ar filoedd o fusnesau arall, o fasnachwyr bwyd anifeiliaid, contractwyr a pheirianwyr i gwmnïau lorïau, proseswyr ac adwerthwyr.  Mae’n amlwg am bob punt sy’n cael ei gynhyrchu ar y fferm, mae oddeutu 6 phunt yn cael ei wario yn yr economi ehangach.

Ychwanegodd drwy ddweud : “Edrychwch ar ystadegau eang Cymru – mae 14,317 o ffermydd defaid gyda ni, 1,758 o ffermydd llaeth, 8,613 o ffermydd sy’n cadw gwartheg (dim gwartheg godro) a 1,478 o ffermydd moch.

“Mae pob un o’r ffermydd hynny, yn fawr neu fach yn gyfrifol am wario ar gyfartaledd £1.2 biliwn ar gynnyrch a gyflenwyd gan fusnesau eilradd a thrydyddol (ffigyrau 2014).  Ni ddylwn anghofio bod amaethyddiaeth Gymreig yn cyflogi 60,000 o bobl, a hynny mewn cyflogaeth llawn amser, rhan amser ac achlysurol.”

 

UAC yn hyrwyddo’r manteision o laeth i fyfyrwyr newydd Aberystwyth

[caption id="attachment_7012" align="alignleft" width="300"]Swyddog Gweithredol UAC Ceredigion Mared Rand Jones yn hyrwyddo’r manteision o laeth a chynnyrch llaeth yn Ffair y Glas Prifysgol Aberystwyth. Swyddog Gweithredol UAC Ceredigion Mared Rand Jones yn hyrwyddo’r manteision o laeth a chynnyrch llaeth yn Ffair y Glas Prifysgol Aberystwyth.[/caption]

Yn ddiweddar mae myfyrwyr newydd Aberystwyth wedi dysgu am y manteision o yfed llaeth ac o’i gynnwys fel rhan o’i diet bob dydd wrth i Undeb Amaethwyr Cymru roi samplau llaeth â blas am ddim allan i fyfyrwyr ar y campws.

Ymunodd Swyddog Gweithredol UAC Ceredigion Mared Rand Jones yn Ffair y Glas Prifysgol Aberystwyth ac mi ddywedodd: “Nid yw yfed llaeth a’i gynnwys yn eich diet dyddiol yn cael ei llwyr werthfawrogi ac rwy’n hynod o falch ein bod ni wedi trosglwyddo’r neges yma i’r myfyrwyr flwyddyn gyntaf heddiw.  Mae llaeth a chynnych llaeth yn chwarae rhan bwysig yn ein diet bob dydd gan eu bod nhw’n darparu ffynhonnell bwysig o brotein a chalsiwm ac yn cynnwys fitaminau a mwynau hanfodol, ac mae’r cyfan oll yn bwysig i ddiet cytbwys.

“Mae nifer o fanteision arall sy'n gysylltiedig â yfed llaeth, rhai ohonynt nid oedd y myfyrwyr yn ymwybodol ohonynt. Er enghraifft, gall y fitaminau a mwynau sydd mewn llaeth liniaru straen. Ar ôl diwrnod hir a chaled o ddarlithoedd ac astudio, eisteddwch i lawr ac yfed gwydraid o laeth cynnes. Mae wir yn medru helpu i leddfu tensiwn yn y cyhyrau a lleddfu’r nerfau.

[caption id="attachment_7014" align="alignleft" width="300"]Mared Rand Jones o UAC yn hyrwyddo’r manteision o yfed llaeth i fyfyrwyr newydd Prifysgol Aberystwyth. Mared Rand Jones o UAC yn hyrwyddo’r manteision o yfed llaeth i fyfyrwyr newydd Prifysgol Aberystwyth.[/caption]

"Mae llaeth yn wych ar gyfer llawer o bethau ac yn medru rhoi hwb i’ch lefelau egni. Os ydych yn straffaglu drwy’r diwrnod, beth am wydraid o laeth oer i adfer y lefelau egni mewn dim o amser ac yn llawer iachach na llawer o ddiodydd egni llawn siwgr.”

Mae UAC hefyd am annog y myfyrwyr newydd i sicrhau eu bod yn prynu llaeth a chynnyrch llaeth Cymreig wrth wneud y siopa bwyd.

"Rydym hefyd am ddefnyddio'r cyfle hwn i annog myfyrwyr i wneud yn si?r eu bod yn prynu llaeth a chynnyrch llaeth Cymreig megis menyn, caws ac iogwrt. Wrth wneud hyn, maent yn cefnogi ein diwydiannau llaeth ac wrth gwrs yr ail a thrydydd busnes sector sy'n gysylltiedig ag amaethyddiaeth. Mae ein ffermwyr llaeth wedi dioddef amser caled dros y blynyddoedd diwethaf ac mae angen cymaint o gefnogaeth a phosib – mae prynu cynnyrch Cymreig pryd bynnag y gallwn yn rhywbeth mae pob un ohonom yn gallu ei wneud i gefnogi'r achos a rhoi hwb i'r economi wledig wrth wneud hynny," ychwanegodd.

[caption id="attachment_7013" align="aligncenter" width="300"]Swyddog Gweithredol UAC Ceredigion Mared Rand Jones a Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth Dr Rhodri Llwyd Morgan. Swyddog Gweithredol UAC Ceredigion Mared Rand Jones a Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth Dr Rhodri Llwyd Morgan.[/caption]

 

UAC Caernarfon yn trafod #AmaethAmByth gyda’r AC lleol

[caption id="attachment_7003" align="alignright" width="300"]Sian Gwenllian, AC Arfon; Cadeirydd cangen UAC Sir Gaernarfon Tudur Parry a Swyddog Gweithredol UAC Sir Gaernarfon Gwynedd Watkin. Sian Gwenllian, AC Arfon; Cadeirydd cangen UAC Sir Gaernarfon Tudur Parry a Swyddog Gweithredol UAC Sir Gaernarfon Gwynedd Watkin.[/caption]

Mae cangen Caernarfon o Undeb Amaethwyr Cymru wedi cyfarfod gyda’r Aelod Cynulliad lleol ar gyfer Arfon, Siân Gwenllian er mwyn trafod #AmaethAmByth.

Ymhlith y nifer o bynciau ar yr agenda, trafododd swyddogion yr Undeb ddyfodol cytundebau masnach, incymau ar ôl Brexit, a bygythiad TB mewn gwartheg ar drafodaethau masnach.

“Hoffwn ddiolch i Siân Gwenllian am gwrdd â ni, ac am y trafodaethau eang a gawsom.  O ran y trafodaethau masnach sydd ar fin digwydd gyda'r UE a rhanbarthau eraill, rydym yn pwysleisio bod dibyniaeth bresennol y DU ar fwyd wedi'i fewnforio yn golygu y bydd yna bwysau gwleidyddol sylweddol i sicrhau cyflenwadau bwyd rhatach o du allan i'r DU er mwyn osgoi chwyddiant ym mhrisiau bwyd.

"Felly i osgoi’r fath gynnydd ym mhrisiau bwyd, mae'n hollbwysig bod polisïau masnach newydd yn rhoi’r budd gorau posib i gynhyrchwyr Cymreig, o ran allforio a marchnadoedd domestig. Mae'n rhaid i ni sicrhau bod popeth posib yn cael ei wneud i sicrhau bod archfarchnadoedd a chyrff eraill yn y sector preifat yn cefnogi ein cynhyrchwyr yma ac nid yw cynhyrchu bwyd yn y DU a hyfywedd ein sectorau amaethyddol yn cael ei danseilio," meddai Cadeirydd cangen Sir Gaernarfon o UAC Tudur Parry.

Wrth siarad am incwm ôl-Brexit, atgoffwyd yr Aelod Cynulliad gan swyddogion yr Undeb o’r ffaith yn ystod y Clwy Traed a’r Genau Traed yn 2001, collodd ffermwyr Cymru £65m (£98m yn nhermau heddiw) yn bennaf drwy'r gwaharddiad ar allforio a bod tua 75% o incwm ffermydd yng Nghymru yn dod o’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC).

I gadw incwm, sydd eisoes yn isel, yn union fel y mae yn absenoldeb y PAC, byddai'n rhaid i broffidioldeb cynhyrchu gynyddu pedair gwaith ychwanegodd Tudur Parry. Tynnodd Mr Parry sylw at adroddiad Brian Gardner ‘Brian Gardner, sy’n rhagweld y byddai nifer y ffermydd teuluol bach a chanolig eu maint yn dirywio ar ôl Brexit, gyda rhesymoli’r sector i unedau llawer mwy. Byddai hunangynhaliaeth bwyd y DU yn disgyn a byddai cyfan lawer mwy o'r nwyddau amaethyddol a ddefnyddir yn y DU yn cael ei fewnforio o lefydd megis Gogledd a  De America, Awstralia a Seland Newydd.

"Mae hyn yn amlygu’r cynhyrchwyr ymhellach i brisiau farchnad fyd-eang a chyflenwad anwadalrwydd gan fod ffactorau megis tywydd gwael, clefydau a chynaeafau gwael yn cyfrannu at gyflenwad cyfnewidiol. Byddai'r effaith andwyol yn ymestyn i fyny ac i lawr y cadwyni cyflenwi a thrwy’r economi wledig yn gyffredinol ac yn cael effaith arbennig o eithafol ar drefi bach a chanolig eu maint lle mae'r sector amaeth yn cyfrannu'n fawr at gyfoeth ardaloedd o'r fath,” meddai Tudur Parry.

"Hefyd, atgoffwyd Sian Gwenllian fod UAC wedi galw am ddadl Aelod Unigol ar y pwnc o TB mewn gwartheg ac yn croesawu'r gefnogaeth mae’r Undeb wedi ei dderbyn hyd yn hyn i’r cynnig. Rydym wedi ei hannog i gefnogi’r ddadl hefyd, sy'n cael ei gynnal Dydd Mercher Medi 28.

“Mae’n rhaid i bob Aelod o'r Cynulliad gydnabod y bydd y broblem o TB yng Nghymru yn cael canlyniadau trychinebus ar drafodaethau masnach y dyfodol os na gaiff y clefyd ymhlith ein bywyd gwyllt sylw ar frys.

“Rydym wedi pwysleisio bod y ddadl hon yn gyfle am gydweithrediad ymhlith y trawsbleidiau ar fater sy’n achosi goblygiadau emosiynol ac ariannol ar gyfer nifer o ffermwyr yng Nghymru ac rydym angen cefnogaeth y Cynulliad i gyd er mwyn sicrhau newid yn y polisi,” ychwanegodd Tudur Parry.

Mae UAC wedi pwysleisio ymhellach y pwysigrwydd o anrhydeddu cytundebau Glastir presennol ac unrhyw gynlluniau newydd y cytunwyd arno cyn Brexit.

 

Teimladau cymysg am adroddiad Sefyllfa Byd Natur Cymru, meddai UAC

Mae Adroddiad Sefyllfa Byd Natur 2016 yn cydnabod y rhan bwysig mae ffermwyr yn cyfrannu tuag at gadwraeth, ond mae yna bwyslais camarweiniol ar rai ffactorau amgylcheddol, dywedodd Undeb Amaethwyr Cymru.

Wrth ymateb i’r adroddiad, dywedodd Cadeirydd Pwyllgor Defnydd Tir UAC Gavin Williams: “Er y byddem yn sicr ddim yn cytuno â rhai o'r honiadau a wnaed yn yr adroddiad Sefyllfa Byd Natur Cymru, rwy’n croesawu’r ffaith ei bod yn llawer mwy cytbwys nag adroddiad y DU o ran cydnabod y rôl gadarnhaol sydd gan ffermwyr yng nghadwraeth, a dilysrwydd y pryderon yr ydym wedi bod yn crybwyll ers degawdau."

Ymhlith y pryderon hynny yw’r ffaith bod tan-bori - weithiau o ganlyniad i reolau cynllun amaeth-amgylcheddol - yn cael effaith niweidiol ar lawer o rywogaethau a chynefinoedd, dywedodd Mr Williams.

"Mae'n galonogol bod 67 y cant o'r rhywogaethau sy’n cael blaenoriaeth ac yr aseswyd yn yr adroddiad yn cael eu dosbarthu fel sefydlog neu'n cynyddu mewn niferoedd. Fodd bynnag, ar gyfer y rhywogaethau hynny nad ydynt yn perfformio cystal, mae’n rhaid i ni ystyried beth yw’r cam nesaf.”

Dywedodd Mr Williams y dylid gwneud asesiad cywir o'r ffactorau sy'n dylanwadu ar ddirywiadau o'r fath.

"Mae’r adroddiadau Sefyllfa Byd Natur amrywiol ar draws y DU yn cydnabod bod ffactorau megis cynnydd mewn ysglyfaethwyr ymhlith adar a mamaliaid, a rhoi'r gorau i bori, llosgi a thorri, oll yn cael effaith negyddol ar rywogaethau a chynefinoedd.

"Mae yna gydnabyddiaeth gynyddol o'r difrod amgylcheddol mae dan-reolaeth a cholli arferion ffermio yn eu cael,  ac yn ei gael os ydym am weld ffermio’n mynd yn llai hyfyw yn ariannol, ac mae’r pryderon hyn yn dechrau cael eu hadlewyrchu mewn adroddiadau o’r math yma”.

Fodd bynnag, dywedodd Mr Williams bod yna rai yn parhau i fod yn barod i roi’r bai ar amaethyddiaeth pryd bynnag maent yn wynebu problemau, ac yn parhau i wadu’r gwirioneddau anghyfforddus megis y ffaith bod niferoedd cynyddol o ysglyfaethwyr yn gwledda ar rai o'n rhywogaethau sydd fwyaf mewn perygl.

"Mae angen i wleidyddion ac amgylcheddwyr i fod yn onest gyda nhw eu hunain a'r cyhoedd yn gyffredinol am ffactorau megis ysglyfaethu, neu fel arall maent mewn peryg o achosi difrod pellach i'r amgylchedd."

Mae ein hymgyrch Amaeth Am Byth yn pwysleisio’r ffaith bod ffermio yn bwysig i bopeth sydd gyda ni yma yng Nghymru, ac mae hynny’n cynnwys ein hamgylchedd a’r rhywogaethau sy’n gwneud Cymru’n le unigryw,” ychwanegodd.

 

UAC yn atgoffa pawb i beidio anghofio’r Gynhadledd Amaeth Cymru 2016

Gydag ond pythefnos i fynd nes bydd Undeb Amaethwyr Cymru yn cynnal y Gynhadledd Amaeth Cymru, mae UAC yn atgoffa pawb sydd yn cymryd diddordeb mewn materion amaethyddol a’r cyfleoedd am dyfiant yng Nghymru wledig yn dilyn Brexit i sicrhau lle yn y Gynhadledd.

conference-cymraegCynhelir y gynhadledd ar Hydref 6, yng Nghanolfan yr Aelodau ar Faes y Sioe Frenhinol, Llanelwedd i ddechrau am 9.30yb.

Catrin Haf Jones, newyddiadurwraig ITV Cymru fydd yn cadeirio’r gynhadledd.

Yn ystod bore’r gynhadledd bydd yr Economydd, Gwleidydd ac aelod o Gr?p economyddion ‘Vote Leave’  Yr Athro Warwick Lightfoot yn siarad am “Gyfleoedd economaidd a’r peryglon o symud ymlaen?, Swyddog Gweithredol Datblygu’r Farchnad Allforio Hybu Cig Cymru Deanna Leven yn siarad am fasnach a marchnadoedd a bydd Steve Keyworth, Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Environmental Systems, ymgynghoriaeth amgylcheddol ac amaethyddol yn siarad am GIS a thechnoleg synhwyro o bell ar gyfer rhaglenni amgylcheddol ac amaethyddol.

Yn ystod prynhawn y gynhadledd, bydd Dirprwy Brif Weithredwr RWAS ac Ysgolhaig Nuffield Aled Jones  yn son am “Gynaliadwyedd amaethyddiaeth drwy’r gymuned a digwyddiadau cymunedol”, Prif Swyddog AHDB (Y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth) Tom Hind yn cyflwyno’r pwnc “Beth yw’r cydbwysedd cywir ar gyfer trafodaethau masnach?” a bydd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, Llywodraeth Cymru Sophie Howe hefyd yn rhoi cyflwyniad.

Bydd trafodaeth banel yn dilyn pob sesiwn ac yn rhoi cyfle i’r gynulleidfa ofyn cwestiynau.

Dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts: “Rydym bellach yn y paratoadau diwethaf ar gyfer ein Cynhadledd Amaeth Cymru ac rydym yn edrych ymlaen at ymchwilio’r nifer o agweddau a chyfleoedd am dyfiant yn dilyn Brexit.

Mae’r siaradwyr sydd gyda ni yn arbenigwyr yn eu meysydd ac yn sicr o gynnig persbectif gwahanol a mewnwelediad i'r hyn sydd i ddod yn y dyfodol unwaith y byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd o ran ein heconomi, masnach, technoleg a’n cymunedau cymdeithasol.

“Os nad ydych wedi archebu eich lle yn y gynhadledd ac mae diddordeb gyda chi mewn #AmaethAmByth, rwy’n eich annog i wneud hynny cyn gynted ac sydd bosib ar ein gwefan www.fuw.org.uk/conference neu drwy ffonio ein prif swyddfa ar 01970 820280, gan fod llefydd ar sail y cyntaf i’r felin”.