Teimladau cymysg am adroddiad Sefyllfa Byd Natur Cymru, meddai UAC

Mae Adroddiad Sefyllfa Byd Natur 2016 yn cydnabod y rhan bwysig mae ffermwyr yn cyfrannu tuag at gadwraeth, ond mae yna bwyslais camarweiniol ar rai ffactorau amgylcheddol, dywedodd Undeb Amaethwyr Cymru.

Wrth ymateb i’r adroddiad, dywedodd Cadeirydd Pwyllgor Defnydd Tir UAC Gavin Williams: “Er y byddem yn sicr ddim yn cytuno â rhai o'r honiadau a wnaed yn yr adroddiad Sefyllfa Byd Natur Cymru, rwy’n croesawu’r ffaith ei bod yn llawer mwy cytbwys nag adroddiad y DU o ran cydnabod y rôl gadarnhaol sydd gan ffermwyr yng nghadwraeth, a dilysrwydd y pryderon yr ydym wedi bod yn crybwyll ers degawdau."

Ymhlith y pryderon hynny yw’r ffaith bod tan-bori - weithiau o ganlyniad i reolau cynllun amaeth-amgylcheddol - yn cael effaith niweidiol ar lawer o rywogaethau a chynefinoedd, dywedodd Mr Williams.

"Mae'n galonogol bod 67 y cant o'r rhywogaethau sy’n cael blaenoriaeth ac yr aseswyd yn yr adroddiad yn cael eu dosbarthu fel sefydlog neu'n cynyddu mewn niferoedd. Fodd bynnag, ar gyfer y rhywogaethau hynny nad ydynt yn perfformio cystal, mae’n rhaid i ni ystyried beth yw’r cam nesaf.”

Dywedodd Mr Williams y dylid gwneud asesiad cywir o'r ffactorau sy'n dylanwadu ar ddirywiadau o'r fath.

"Mae’r adroddiadau Sefyllfa Byd Natur amrywiol ar draws y DU yn cydnabod bod ffactorau megis cynnydd mewn ysglyfaethwyr ymhlith adar a mamaliaid, a rhoi'r gorau i bori, llosgi a thorri, oll yn cael effaith negyddol ar rywogaethau a chynefinoedd.

"Mae yna gydnabyddiaeth gynyddol o'r difrod amgylcheddol mae dan-reolaeth a cholli arferion ffermio yn eu cael,  ac yn ei gael os ydym am weld ffermio’n mynd yn llai hyfyw yn ariannol, ac mae’r pryderon hyn yn dechrau cael eu hadlewyrchu mewn adroddiadau o’r math yma”.

Fodd bynnag, dywedodd Mr Williams bod yna rai yn parhau i fod yn barod i roi’r bai ar amaethyddiaeth pryd bynnag maent yn wynebu problemau, ac yn parhau i wadu’r gwirioneddau anghyfforddus megis y ffaith bod niferoedd cynyddol o ysglyfaethwyr yn gwledda ar rai o'n rhywogaethau sydd fwyaf mewn perygl.

"Mae angen i wleidyddion ac amgylcheddwyr i fod yn onest gyda nhw eu hunain a'r cyhoedd yn gyffredinol am ffactorau megis ysglyfaethu, neu fel arall maent mewn peryg o achosi difrod pellach i'r amgylchedd."

Mae ein hymgyrch Amaeth Am Byth yn pwysleisio’r ffaith bod ffermio yn bwysig i bopeth sydd gyda ni yma yng Nghymru, ac mae hynny’n cynnwys ein hamgylchedd a’r rhywogaethau sy’n gwneud Cymru’n le unigryw,” ychwanegodd.