Cyfle i chi ddweud wrthym beth sy’n bwysig i chi ar ôl Brexit meddai UAC

Heddiw, mae Undeb Amaethwyr Cymru yn atgoffa’r rhai hynny sydd â diddordeb yn ffermio a materion gwledig i leisio’i barn drwy arolwg ar-lein yr Undeb.

Mae’r ffigyrau presennol yn awgrymu bod 43 y cant o’r rhai sydd eisoes wedi cymryd rhan yn teimlo’n gyffrous am ganlyniad y refferendwm, tra bod 51 y cant yn teimlo’n bryderus am yr hyn sy’n mynd i ddigwydd unwaith bydd y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Drwy’r arolwg o ffermydd Cymru, mae UAC yn anelu at geisio darganfod beth mae ffermwyr yng Nghymru am ei weld yn digwydd yn y dyfodol yn dilyn Refferendwm yr UE, a’i fwriad yw rhoi cyfle i bawb sy’n llenwi’r arolwg i gael cyfle i gynnig sylwadau ar rai o’r prif faterion sy’n berthnasol i’r mathau o bolisïau amaethyddol a fydd o fudd i Gymru wedi i’r DU adael yr Undeb Ewropeaidd.

Hefyd mae lle ar yr arolwg ar gyfer sylwadau unigol ar sut allai neu ddylai ffermio yng Nghymru a’n cymunedau gwledig newid mewn modd sy’n gwella ein cynaliadwyedd ariannol, amgylcheddol a diwylliannol.

Dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts: “Mae UAC am glywed wrth bob un ohonoch sy’n cydnabod bod #AmaethAmByth ac sydd am fod yn rhan o lunio ein dyfodol yma yng Nghymru.

Nawr yw’r amser i ddrafftio’r polisïau yr ydym am weld yn cael eu gweithredu unwaith y byddwn wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac mae eich barn chi ar y materion yma yn bwysig iawn i ni.  Felly, os nad ydych wedi cwblhau’r arolwg ar-lein eto, ewch ati a dywedwch wrth eich teulu, ffrindiau a chymdogion am wneud hefyd”.