Disgyblion ysgolion cynradd yn cael eu gwahodd i gymryd rhan yng nghystadleuaeth cynllunio cerdyn Nadolig #AmaethAmByth er budd BHF Cymru

Gwahoddir disgyblion ysgolion cynradd Cymru i gymryd rhan mewn cystadleuaeth i gynllunio cerdyn Nadolig ar y thema #AmaethAmByth ar gyfer cystadleuaeth flynyddol Undeb Amaethwyr Cymru.

Mae UAC yn gofyn i blant rhwng 4 a 11 mlwydd oed i ddylunio golygfa Nadoligaidd yn dangos i ni pam bod #AmaethAmByth ar gyfer cardiau Nadolig a fydd yn cael eu gwerthu i godi arian ar gyfer elusen yr undeb Sefydliad y Galon Brydeinig Cymru.

Dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts: “Caiff y gystadleuaeth ei rannu’n ddau gategori - yr ymgeiswyr Cymraeg a’r ymgeiswyr Saesneg. Gall y plant ddefnyddio unrhyw gyfrwng i greu eu cardiau, er enghraifft creonau, pensiliau lliw, peniau blaen ffelt neu baent i dynnu’r llun, ac mae’n rhaid defnyddio dalen A4 o bapur.

“Yr unig amod yw bod yn rhaid iddo fod yn garden Nadolig sy’n dangos pam bod #AmaethAmByth.  Bu’r gystadleuaeth yn llwyddiant mawr y llynedd a gobeithio, y gallwn sicrhau cefnogaeth ein hysgolion cynradd ar draws Cymru unwaith eto eleni.”

Bydd enillydd pob categori yn derbyn tocyn anrheg gwerth £30 i’w hunain, pecyn o’r cardiau yn dangos eu dyluniad, mynediad un diwrnod am ddim i Ffair Aeaf 2016 er mwyn derbyn eu gwobrau a siec gwerth £50 ar gyfer eu hysgol.

Bydd y dyluniadau buddugol ynghyd a detholiad o’r cynigion arall yn cael eu harddangos ar stondin UAC yn ystod y Ffair Aeaf ar Dachwedd 28-29. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener Tachwedd 11.

Mae angen cynnwys enw, oedran, rhif dosbarth, enw’r ysgol a chyfeiriad cartref y disgybl a’i anfon naill ai i This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it., ei bostio neu ddosbarthu i UAC, Llys Amaeth, Plas Gogerddan, Aberystwyth, SY23 3BT, wedi eu nodi fel “Cystadleuaeth Ysgolion”.