Llwyddiant mawr i Daith Tractorau UAC Ceredigion

fuw-tractor-runCynhaliodd cangen Ceredigion o Undeb Amaethwyr Cymru daith tractorau llwyddiannus iawn, 24 milltir o hyd, ar ddydd Sul Medi 18 gan godi £540 ar gyfer Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru (BHF).

Cychwynodd y 27 tractor allan o Gwili Jones, Maesyfelin, Llanbed cyn mynd trwy Cwmann, a dros y mynyddoedd i Landdewi Brefi.  Yna aeth y daith dros ddyffryn Teifi tuag at Olmarch, gyda’r cymal diwethaf yn mynd trwy Llanycrwys a Silian.

Dywedodd Swyddog Gweithredol UAC Ceredigion Mared Rand Jones: “Rwy’n hynod o hapus gyda’r swm a lwyddwyd i godi gyda’n taith tractorau gyntaf un - mi wnaeth pawb fwynhau'r daith, ac felly o hyn, allwn ddatblygu digwyddiad blwyddyn nesaf i fod hyd yn oed yn fwy!

“Roedd hi’n hyfryd gweld cynifer o bobl yn ymuno gyda ni yn y frwydr yn erbyn clefyd y galon.  Mae’n achos werth chweil a gobeithio ein bod wedi llwyddo i godi ymwybyddiaeth o faint o broblem yw clefyd y galon ar draws Cymru a’r DU yn gyfan gwbl.

“Hoffwn ddiolch hefyd i’r holl fusnesau sydd wedi cyfrannu gwobrau ar gyfer y raffl ar y diwrnod, pawb a gymerodd rhan yn y daith tractorau ac sydd wedi cynorthwyo at lwyddiant y digwyddiad.