UAC yn atgoffa ACau y bydd TB mewn gwartheg yn peryglu ein cytundebau masnach gydag Ewrop

Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn atgoffa pob Aelod o’r Cynulliad y bydd lefelau presennol o TB yng Nghymru yn peryglu ein cytundebau masnach gydag Ewrop os na fydd yna newid yn y polisi.

Mae’r undeb yn croesawu’r galw’r yn y Cynulliad Cenedlaethol am ddadl i ddileu TB mewn gwartheg yng Nghymru ac ymhlith bywyd gwyllt, ond yn pwysleisio bod hi’n hollbwysig bod bob Aelod o’r Cynulliad yn cefnogi’r cynnig mewn ymgais i gyflawni newid effeithiol yn y lefelau o achosion o TB.

Dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts: “Rydym yn croesawu’r gefnogaeth i’r cynnig ond yn annog yr holl ACau arall i gefnogi’r ddadl hefyd.

“Mae’n rhaid i bob Aelod o'r Cynulliad gydnabod y bydd y broblem o TB yng Nghymru yn cael canlyniadau trychinebus ar drafodaethau masnach y dyfodol os na gaiff y clefyd ymhlith ein bywyd gwyllt sylw ar frys.

“Mae’r ddadl yn gyfle am gydweithrediad ymhlith y trawsbleidiau ar fater sy’n achosi goblygiadau emosiynol ac ariannol ar gyfer nifer o ffermwyr yng Nghymru ac rydym angen cefnogaeth y Cynulliad i gyd er mwyn sicrhau newid yn y polisi.”

Mae UAC yn parhau i bwysleisio bod y lefelau TB presennol yng Nghymru  yn fwy na beth sy’n dderbyniol gan wledydd arall yn yr UE pan fydd y DU tu allan i’r farchnad sengl ac mae’r undeb yn hynod o bryderus bod statws presennol y clefyd o bosib yn dipyn o sialens o ystyried y bwlch sy’n deillio ar ôl methiant y brechiadau.

Cafodd y cynnig ei wneud gan Aelod y Cynulliad Canolbarth a Gorllewin Cymru Plaid Cymru a Gweinidog cysgodol dros Ynni, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig   Simon Thomas ac yn cael ei gefnogi gan AC dros Ogledd Cymru Ll?r Gruffydd, AC Canolbarth a Gorllewin Cymru Neil Hamilton a AC Preseli Penfro Paul Davies.