UAC yn mwynhau Treialon C?n Defaid Rhyngwladol prysur

Cafodd Undeb Amaethwyr Cymru dri diwrnod prysur a llwyddiannus yn y Treialon C?n Defaid Rhyngwladol a gynhaliwyd ar fferm Sandilands, Tywyn yn ddiweddar.

Cangen Meirionnydd oedd yn cynrychioli’r Undeb, ac ar y stondin roedd croeso cynnes yn aros i aelodau a’r rhai hynny oedd yn cystadlu yn y Treialon C?n Defaid.

[caption id="attachment_6951" align="alignleft" width="150"]Swyddog Gweithredol UAC Sir Feirionnydd Huw Jones yn croesawu Liz Saville Roberts AS i stondin UAC yn y Treialon C?n Defaid Rhyngwladol Swyddog Gweithredol UAC Sir Feirionnydd Huw Jones yn croesawu Liz Saville Roberts AS i stondin UAC yn y Treialon C?n Defaid Rhyngwladol[/caption]

UAC oedd prif noddwr y digwyddiad a hefyd yn darparu tîm Cymru gyda’i siacedi swyddogol.

Cynhaliwyd y Treialon C?n Defaid Rhyngwladol gan y Llywydd Geraint Owen ac mi ddywedodd: “Roedd yn fraint ac yn anrhydedd i gael fy holi i fod yn Lywydd Rhyngwladol y Treialon C?n Defaid Rhyngwladol eleni.

“Roeddwn yn hynod o falch cael cyd-weithio gyda phwyllgor bach ymroddedig ac roedd yn dipyn o syndod faint o waith a threfnu sydd ei angen i gynnal digwyddiad mor fawr.  Roedd safon y gystadleuaeth dros y tri diwrnod yn eithriadol o uchel, a llongyfarchiadau mawr i dîm Cymru ar ei llwyddiant.”

Geraint Owen, Sandilands, Tywyn yw Cadeirydd cangen leol UAC yn Nhywyn hefyd ac mae ganddo gysylltiadau agos gyda’r undeb dros y blynyddoedd.

Mae Sandilands yn fferm sy’n cadw gwartheg biff a defaid gydag oddeutu 2,000 o ddefaid magu a 200 o wartheg magu Limousines a gwartheg sugno croes Limousine.  Mae’r teulu Owen wedi bod yn ffermio Sandilands ers 1938 pan gymerodd taid a nain Geraint awenau’r fferm.  Geraint yw’r drydedd genhedlaeth i ffermio’r tir a hynny mewn partneriaeth gyda’i dad Bryn a’i frawd Hugh.  Hefyd, mae ganddynt faes carafanau llwyddiannus iawn, a’i chwiorydd Siân a Bethan sy’n brysur gyda’r fenter hynny.

Priododd Geraint a’i wraig Annest ym 1992, ac mae ganddynt ddwy ferch, Lowri a Catrin sy’n cymryd rhan bwysig a weithgar yn yr ochr amaethyddol a thwristiaeth y busnes.  Mae Annest, Catrin a Lowri hefyd yn rhedeg bar a bwyty ar safle Woodlands/Bronffynnon sydd oddeutu 3 milltir o Sandilands.

[caption id="attachment_6952" align="alignright" width="150"]Is Lywydd UAC Richard Vaughan (chwith) gyda Rheolwr Cyfathrebu’r Bwrdd Marchnata Gwlân Prydeinig Gareth Jones. Is Lywydd UAC Richard Vaughan (chwith) gyda Rheolwr Cyfathrebu’r Bwrdd Marchnata Gwlân Prydeinig Gareth Jones.[/caption]

[caption id="attachment_6950" align="alignleft" width="150"]Llywydd y Treialon Rhyngwladol Geraint Owen (chwith) gydag aelod o Bwyllgor Cyllid a Threfn UAC Dewi Owen. Llywydd y Treialon Rhyngwladol Geraint Owen (chwith) gydag aelod o Bwyllgor Cyllid a Threfn UAC Dewi Owen.[/caption]

Dywedodd Swyddog Gweithredol UAC Sir Feirionnydd Huw Jones: “Roedd y caeau lle cynhaliwyd y treialon mewn lleoliad tu hwnt o arbennig, gyda golygfeydd godidog dros ddyffryn Dysynni, ac yn berffaith ar gyfer digwyddiad o’r math yma.

“Hoffwn ddiolch i bob un o staff a swyddogion UAC am eu presenoldeb ar y stondin dros y tri diwrnod ac am eu cymorth wrth drefnu’r digwyddiad.

“Llongyfarchiadau mawr i dîm Cymru ar ei camp arbennig, roedd y gystadleuaeth yn ddwys ac yn dangos pa mor wych mae c?n a’i meistri’n gweithio gyda’i gilydd.”