Teclyn lobïo ar-lein UAC ar gael er mwyn amlygu pwysigrwydd amaethyddiaeth

Mae Undeb Amaethwyr Cymru’n annog pawb sydd â diddordeb mewn materion amaethyddol ac sy’n credu mai’n diwydiant amaethyddol yw asgwrn cefn yr economi wledig i leisio’i barn wrth anfon neges at eu cynrychiolwyr etholedig drwy ddefnyddio teclyn lobïo ar-lein ar wefan yr Undeb.

Dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts: “Wrth i’n swyddogion barhau i lobio’r rhai sy’n gwneud y penderfyniadau allweddol a’r gwleidyddion yn San Steffan ac yng Nghaerdydd, gall ein haelodau ni lobio eu gwleidyddion etholedig hefyd.

“Yn sgil ein hymgyrch #AmaethAmByth, gall aelodau ac unrhyw un arall sy’n cydnabod pwysigrwydd cymuned wledig ffyniannus ddod o hyd i’w cynrychiolwyr etholedig drwy roi cod post mewn yn y system ac yna dewis pwy maent am yrru e-bost at.

“Mae yna lythyr yna’n barod i’w ddefnyddio, ond gellir newid hwn yn ôl y gofyn.  Y mwyaf yr ydym yn atgoffa gwleidyddion am bwysigrwydd ffermio a’i rôl yn yr economi wledig, bydd yna fwy o gyfle i’n heconomi wledig oroesi a ffynnu.”

Mae’r llythyr ymgyrch parod yn datgan bod yr unigolyn am dynnu sylw at bwysigrwydd sicrhau bod amaethyddiaeth a’n heconomi wledig yn cael blaenoriaeth yn y trafodaethau a’r penderfyniadau sydd ar y gweill yn sgil y refferendwm ar aelodaeth yr UE a gynhaliwyd ar Fehefin 23.

Mae’r llythyr hefyd yn dweud bod busnesau fferm, a ffermydd teuluol yn arbennig, yn rhan hanfodol o wead economaidd, cymdeithasol, a diwylliannol Cymru; mae dau o bob pum busnes gwledig yn cael eu hystyried fel rhai sy'n cyfrannu at y diwydiant amaethyddol (Llywodraeth Cynulliad Cymru, 2001), tra amcangyfrifir bod amaethyddiaeth yn cyflogi dros 10% o weithwyr llawn amser Cymru (Central Science Laboratories, 2003).

Hefyd, mae’r llythyr yn tynnu sylw at y ffaith bod tua 60,000 o bobl yn cael eu cyflogi ar ddaliadau fferm yng Nghymru, yn ogystal â'r miloedd sy'n gweithio mewn busnesau sy'n dibynnu ar amaethyddiaeth megis contractwyr, masnachwyr bwyd anifeiliaid, masnachwyr peiriannau, peirianwyr ac ati.

Mae’r cyfraniadau ehangach i’n heconomi hefyd yn hollbwysig, er enghraifft o ran twristiaeth.  Cydnabyddir amaethyddiaeth fel y cyfrannwr unigol mwyaf arwyddocaol sy’n werth tua £1.9 biliwn i weithgarwch bywyd gwyllt yng Nghymru, a hynny’n flynyddol (Mabis, 2007).

Felly, o ystyried hyn, rydym am annog y rhai fydd yn anfon llythyr at eu cynrychiolydd etholedig drwy wefan UAC i bwysleisio pa mor bwysig yw amaethyddiaeth i’w hetholaeth, Cymru, a’r DU, gan gynnwys yn nhermau diogelu'r cyflenwad bwyd ar adeg o ansefydlogrwydd byd-eang, ac i ofyn iddynt wneud popeth o fewn eu gallu i osgoi’r effaith dinistriol y byddai toriadau pellach yn ei gael ar incymau fferm, nid yn unig i amaethyddiaeth, ond i’r economi wledig gyfan.