UAC Trefaldwyn yn cynnal cyfarfod llwyddiannus gyda Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed Powys

[caption id="attachment_6919" align="alignleft" width="150"]Aelodau UAC Sir Drefaldwyn yn trafod troseddau gwledig gyda Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed Powys Dafydd Llywelyn. Aelodau UAC Sir Drefaldwyn yn trafod troseddau gwledig gyda Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed Powys Dafydd Llywelyn.[/caption]

Mae cangen sir Drefaldwyn o Undeb Amaethwyr Cymru wedi cyfarfod â Chomisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed Powys Dafydd Llywelyn i drafod materion yn ymwneud a throseddau gwledig.

Cynhaliwyd y cyfarfod diweddar gan Cadeirydd cangen Sir Drefaldwyn o UAC Mark Williams a’i wraig Helen ym Mhen y Derw, Forden ac roedd yn gyfle i aelodau dynnu sylw at rai o’r troseddau gwledig sydd wedi bod yn broblem iddynt, yn ogystal ag atgyfnerthu’r berthynas rhwng yr heddlu a’r gymuned wledig.

Dyma’r cyfarfod cyntaf i’r sir drefnu gyda’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu newydd wedi iddo gael ei benodi i’r swydd ym mis Mai 2016.

Mae gan Dafydd Llywelyn gysylltiad cryf gyda’r sir, gan iddo dreulio’i blentyndod yn byw ym Meifod pan oedd ei dad (Mr Elgan Davies) yn Brifathro Ysgol Uwchradd Llanfair Caereinion.

Dywedodd Swyddog Gweithredol UAC Sir Drefaldwyn Emyr Wyn Davies:   Rhoddodd Mr Llewelyn gyflwyniad byr i ni am ei rôl fel Comisiynydd Heddlu a Throseddu a gan mae ardal Dyfed Powys yw un o’r ardaloedd mwyaf gwledig yng Nghymru, roeddem yn awyddus i drafod rhai o’n pryderon gydag ef. Roedd y  cyfarfod yn hynod o gadarnhaol ac rydym yn edrych ymlaen at greu perthynas gryfach gyda'r heddlu yma yn y sir."