UAC Ceredigion yn trefnu Taith Tractorau er budd BHF Cymru

Mae cangen Ceredigion o Undeb Amaethwyr Cymru yn trefnu Taith Tractorau ar ddydd Sul Medi 18 i godi arian ar gyfer Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru.

Bydd y gr?p yn gadael Gwili Jones, Maesyfelin, Llanbed am 11yb ac yn teithio trwy Gwmann, tuag at Farmers a dros y mynyddoedd tuag at Landdewi Brefi.  Yna bydd y daith yn parhau dros ddyffryn Teifi tuag at Olmarch, a bydd y cymal diwethaf yn mynd trwy Llanycrwys a Silian.

Bydd y daith 24 milltir o hyd yn gorffen nôl yng Ngwili Jones tua 2.30yp.  Cost y daith fydd £10 y tractor a bydd yr holl arian a godwyd yn mynd tuag at BHF Cymru.

Dywedodd Swyddog Gweithredol UAC Ceredigion Mared Rand Jones: “Rwy’n edrych ymlaen at weld y daith yma’n cychwyn ac i ymuno yn y frwydr yn erbyn clefyd y galon.  Mae’n achos werth chweil ac rwy’n gobeithio yn ogystal â chodi arian at BHF Cymru y byddwn hefyd yn codi ymwybyddiaeth o faint o broblem yw clefyd y galon ar draws Cymru a’r DU yn gyfan gwbl.

“Rydym dal yn cymryd enwau ar gyfer y daith, felly os ydych awydd mynd a’ch tractor allan am dro a chodi arian i BHF Cymru ar yr un pryd, rhowch alwad i’n swyddfa.”

Bydd te, coffi a chacen ar gael cyn gadael ac mae modd i’r rhai sy’n cymryd rhan archebu cinio dydd Sul, a fydd ar gael yng Nghlwb Rygbi Llanbed ar ôl y daith am £10 ychwanegol y person.

Dywedodd Paul Davies, Pennaeth Codi Arian Cymru a Gogledd Iwerddon Sefydliad y Galon Brydeinig: “Diolch i gefnogaeth a haelioni sefydliadau fel UAC, mae Sefydliad y Galon Brydeinig yn medru brwydro dros bob calon yng Nghymru.  Yn ddyddiol, mae 375,000 o bobl yng Nghymru yn ymladd yn erbyn clefyd y galon a phroblemau tebyg arall.  Mae cefnogaeth UAC yn galluogi Sefydliad y Galon Brydeinig i fuddsoddi mewn ymchwil meddygol i achub bywyd yng Nghymru, ac o wneud hyn, mae modd newid bywyd miliynau o bobl ar draws y DU ac yn fyd-eang.  Ni fyddai hyn yn bosib heb gymorth UAC ac eraill.  Mae popeth rydym yn ei wneud yn lleihau’r difrod mae clefyd y galon yn ei achosi yn ein cymunedau.”