Tywydd gwael ddim yn trechu’r hwyl yn Sioe Llanfair Caereinion

[caption id="attachment_6906" align="alignleft" width="169"]Dal eich gafael yn dynn!  Cadeirydd cangen UAC Sir Drefaldwyn Mark Williams yn dal ei afael ar babell UAC Dal eich gafael yn dynn! Cadeirydd cangen UAC Sir Drefaldwyn Mark Williams yn dal ei afael ar babell UAC[/caption]

Er gwaethaf y tywydd gwael ar ddydd Sadwrn 3 Medi, cafodd staff ac aelodau cangen Sir Drefaldwyn o Undeb Amaethwyr Cymru ddiwrnod llwyddiannus yn Sioe Llanfair Caereinion.

Cafodd y sioe ei chynnal yn Llysun, Llanerfyl, Y Trallwng drwy garedigrwydd teulu Tudor, ac roedd bob aelod o staff y sir, gan gynnwys cynorthwywyr gweinyddol Lynne Baker ac Alison Jones yn barod i groesawu aelodau a ffrindiau’r Undeb gyda phaned o de neu goffi.

Roedd Cynorthwy-ydd Gweinyddol Gwasanaethau Yswiriant FUW Cyf Sophie Rees,  Gweithredwyr Yswiriant Nia Wyn Evans a Kay Williams hefyd ar gael i gynorthwyo aelodau gyda materion yswiriant.

Dywedodd Swyddog Gweithredol UAC Sir Drefaldwyn Emyr Wyn Davies: “Bu’n bwrw’n drwm am y rhan fwyaf o’r diwrnod.  Cafwyd ychydig o seibiant wrth y glaw yn ystod y prynhawn, ond yna cododd y gwynt.  Roedd y babell yn llawn o aelodau yn mwynhau paned o de ac yn siarad am bwysigrwydd amaeth, ac yna bu’r babell bron iawn a chwythu i ffwrdd!  Er gwaetha’r tywydd gwael, cawsom ddiwrnod llwyddiannus a hoffwn ddiolch i bawb a ddaeth i’n gweld yn ystod y sioe a hefyd i’r rhai fu’n adfer pabell Sir Drefaldwyn!”.