UAC yn cynnal cyfarfodydd ymgynghorol ar Brexit gydag aelodau

Mae canghennau sirol Undeb Amaethwyr Cymru yn cyfarfod â aelodau’r undeb ar draws Cymru er mwyn ymgynghori ar bolisiau amaethyddol y dyfodol yn dilyn Brexit.

Cyhoeddodd yr Undeb ddogfen ymgynghori fewnol, yn ogystal â holiadur ar-lein i’w haelodaeth mewn ymgais i glywed eu barn ar ddyfodol amaethyddiaeth yn dilyn Brexit.

Mae cyfarfodydd llwyddiannus eisoes wedi cael eu cynnal yn Sir Drefaldwyn, Sir Benfro, Brycheiniog a Maesyfed, Sir Gaerfyrddin, Dinbych a Fflint ac ym Morgannwg.  Cynhelir rhagor o gyfarfodydd ar gyfer aelodau yng Ngwent ar nos Lun 12 Medi i ddechrau am 7.30yh yn Neuadd Bentref Little Mill, Pont-y-p?l; yn Sir Gaernarfon ar nos Lun 12 Medi i ddechrau am 7.30yh yn y brif ystafell ddarlithio yng Ngholeg Glynllifon ac yn Ynys Môn ar nos Fawrth Medi 13 i ddechrau am 7.30yh yn Nhafarn y Rhos, Rhostrehwfa, Llangefni.

“Mae angen trafod dyfodol nifer o bynciau pwysig megis cymorth ariannol, cytundebau masnach a newid deddfwriaethol ac felly rydym yn annog ein haelodau i nodi blaenoriaethau’r polisïau hynny, a fydd yn help i ddatblygu sector amaethyddol Cymreig proffidiol a chynaliadwy, sy'n gallu gwrthsefyll yr ansefydlogrwydd cynyddol ym mhrisiau," meddai Llywydd UAC Glyn Roberts.

Mae UAC yn gweithio'n agos gyda'i aelodaeth drwy ymgynghori, er mwyn sicrhau bod safbwyntiau polisïau’r dyfodol yn cael cefnogaeth y sector amaethyddol yng Nghymru a bod y polisïau yma’n cyflawni anghenion y diwydiant.

Mae'r ymgynghoriad a'r holiadur ar-lein wedi cael eu cynllunio i roi cyfle i bob aelod o’r Undeb roi sylwadau ar rai o'r prif faterion sy'n ymwneud â’r mathau o bolisïau amaethyddol a allai fod o’r budd gorau i Gymru ar ôl i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd.

Hefyd, mae lle ar yr arolwg ar gyfer sylwadau unigol ar sut neu a ddylai amaethyddiaeth Cymru a’n cymunedau gwledig newid mewn ffordd sy’n gwella ein cynaliadwyedd ariannol, amgylcheddol a diwylliannol.

"Mae UAC yn parhau i fod mewn cysylltiad rheolaidd â Gweinidogion Cymru a'r DU a gweision sifil ac mae bellach yn bwysig ein bod yn nodi'r cyfleoedd posib ar gyfer amaethyddiaeth yng Nghymru yn dilyn Brexit. Byddwn yn trafod canlyniad yr ymgynghoriad mewnol a’r arolwg ar-lein yn ein cyfarfod nesaf o’r Prif Gyngor ar ddiwedd y mis ac yna byddwn yn trosglwyddo ein hargymhellion i’r Llywodraeth,” ychwanegodd Glyn Roberts.