UAC Trefaldwyn yn cynnal cyfarfod llwyddiannus gyda Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed Powys

[caption id="attachment_6919" align="alignleft" width="150"]Aelodau UAC Sir Drefaldwyn yn trafod troseddau gwledig gyda Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed Powys Dafydd Llywelyn. Aelodau UAC Sir Drefaldwyn yn trafod troseddau gwledig gyda Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed Powys Dafydd Llywelyn.[/caption]

Mae cangen sir Drefaldwyn o Undeb Amaethwyr Cymru wedi cyfarfod â Chomisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed Powys Dafydd Llywelyn i drafod materion yn ymwneud a throseddau gwledig.

Cynhaliwyd y cyfarfod diweddar gan Cadeirydd cangen Sir Drefaldwyn o UAC Mark Williams a’i wraig Helen ym Mhen y Derw, Forden ac roedd yn gyfle i aelodau dynnu sylw at rai o’r troseddau gwledig sydd wedi bod yn broblem iddynt, yn ogystal ag atgyfnerthu’r berthynas rhwng yr heddlu a’r gymuned wledig.

Dyma’r cyfarfod cyntaf i’r sir drefnu gyda’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu newydd wedi iddo gael ei benodi i’r swydd ym mis Mai 2016.

Mae gan Dafydd Llywelyn gysylltiad cryf gyda’r sir, gan iddo dreulio’i blentyndod yn byw ym Meifod pan oedd ei dad (Mr Elgan Davies) yn Brifathro Ysgol Uwchradd Llanfair Caereinion.

Dywedodd Swyddog Gweithredol UAC Sir Drefaldwyn Emyr Wyn Davies:   Rhoddodd Mr Llewelyn gyflwyniad byr i ni am ei rôl fel Comisiynydd Heddlu a Throseddu a gan mae ardal Dyfed Powys yw un o’r ardaloedd mwyaf gwledig yng Nghymru, roeddem yn awyddus i drafod rhai o’n pryderon gydag ef. Roedd y  cyfarfod yn hynod o gadarnhaol ac rydym yn edrych ymlaen at greu perthynas gryfach gyda'r heddlu yma yn y sir."

UAC Ceredigion yn trefnu Taith Tractorau er budd BHF Cymru

Mae cangen Ceredigion o Undeb Amaethwyr Cymru yn trefnu Taith Tractorau ar ddydd Sul Medi 18 i godi arian ar gyfer Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru.

Bydd y gr?p yn gadael Gwili Jones, Maesyfelin, Llanbed am 11yb ac yn teithio trwy Gwmann, tuag at Farmers a dros y mynyddoedd tuag at Landdewi Brefi.  Yna bydd y daith yn parhau dros ddyffryn Teifi tuag at Olmarch, a bydd y cymal diwethaf yn mynd trwy Llanycrwys a Silian.

Bydd y daith 24 milltir o hyd yn gorffen nôl yng Ngwili Jones tua 2.30yp.  Cost y daith fydd £10 y tractor a bydd yr holl arian a godwyd yn mynd tuag at BHF Cymru.

Dywedodd Swyddog Gweithredol UAC Ceredigion Mared Rand Jones: “Rwy’n edrych ymlaen at weld y daith yma’n cychwyn ac i ymuno yn y frwydr yn erbyn clefyd y galon.  Mae’n achos werth chweil ac rwy’n gobeithio yn ogystal â chodi arian at BHF Cymru y byddwn hefyd yn codi ymwybyddiaeth o faint o broblem yw clefyd y galon ar draws Cymru a’r DU yn gyfan gwbl.

“Rydym dal yn cymryd enwau ar gyfer y daith, felly os ydych awydd mynd a’ch tractor allan am dro a chodi arian i BHF Cymru ar yr un pryd, rhowch alwad i’n swyddfa.”

Bydd te, coffi a chacen ar gael cyn gadael ac mae modd i’r rhai sy’n cymryd rhan archebu cinio dydd Sul, a fydd ar gael yng Nghlwb Rygbi Llanbed ar ôl y daith am £10 ychwanegol y person.

Dywedodd Paul Davies, Pennaeth Codi Arian Cymru a Gogledd Iwerddon Sefydliad y Galon Brydeinig: “Diolch i gefnogaeth a haelioni sefydliadau fel UAC, mae Sefydliad y Galon Brydeinig yn medru brwydro dros bob calon yng Nghymru.  Yn ddyddiol, mae 375,000 o bobl yng Nghymru yn ymladd yn erbyn clefyd y galon a phroblemau tebyg arall.  Mae cefnogaeth UAC yn galluogi Sefydliad y Galon Brydeinig i fuddsoddi mewn ymchwil meddygol i achub bywyd yng Nghymru, ac o wneud hyn, mae modd newid bywyd miliynau o bobl ar draws y DU ac yn fyd-eang.  Ni fyddai hyn yn bosib heb gymorth UAC ac eraill.  Mae popeth rydym yn ei wneud yn lleihau’r difrod mae clefyd y galon yn ei achosi yn ein cymunedau.”

Tywydd gwael ddim yn trechu’r hwyl yn Sioe Llanfair Caereinion

[caption id="attachment_6906" align="alignleft" width="169"]Dal eich gafael yn dynn!  Cadeirydd cangen UAC Sir Drefaldwyn Mark Williams yn dal ei afael ar babell UAC Dal eich gafael yn dynn! Cadeirydd cangen UAC Sir Drefaldwyn Mark Williams yn dal ei afael ar babell UAC[/caption]

Er gwaethaf y tywydd gwael ar ddydd Sadwrn 3 Medi, cafodd staff ac aelodau cangen Sir Drefaldwyn o Undeb Amaethwyr Cymru ddiwrnod llwyddiannus yn Sioe Llanfair Caereinion.

Cafodd y sioe ei chynnal yn Llysun, Llanerfyl, Y Trallwng drwy garedigrwydd teulu Tudor, ac roedd bob aelod o staff y sir, gan gynnwys cynorthwywyr gweinyddol Lynne Baker ac Alison Jones yn barod i groesawu aelodau a ffrindiau’r Undeb gyda phaned o de neu goffi.

Roedd Cynorthwy-ydd Gweinyddol Gwasanaethau Yswiriant FUW Cyf Sophie Rees,  Gweithredwyr Yswiriant Nia Wyn Evans a Kay Williams hefyd ar gael i gynorthwyo aelodau gyda materion yswiriant.

Dywedodd Swyddog Gweithredol UAC Sir Drefaldwyn Emyr Wyn Davies: “Bu’n bwrw’n drwm am y rhan fwyaf o’r diwrnod.  Cafwyd ychydig o seibiant wrth y glaw yn ystod y prynhawn, ond yna cododd y gwynt.  Roedd y babell yn llawn o aelodau yn mwynhau paned o de ac yn siarad am bwysigrwydd amaeth, ac yna bu’r babell bron iawn a chwythu i ffwrdd!  Er gwaetha’r tywydd gwael, cawsom ddiwrnod llwyddiannus a hoffwn ddiolch i bawb a ddaeth i’n gweld yn ystod y sioe a hefyd i’r rhai fu’n adfer pabell Sir Drefaldwyn!”.

UAC yn cynnal cyfarfodydd ymgynghorol ar Brexit gydag aelodau

Mae canghennau sirol Undeb Amaethwyr Cymru yn cyfarfod â aelodau’r undeb ar draws Cymru er mwyn ymgynghori ar bolisiau amaethyddol y dyfodol yn dilyn Brexit.

Cyhoeddodd yr Undeb ddogfen ymgynghori fewnol, yn ogystal â holiadur ar-lein i’w haelodaeth mewn ymgais i glywed eu barn ar ddyfodol amaethyddiaeth yn dilyn Brexit.

Mae cyfarfodydd llwyddiannus eisoes wedi cael eu cynnal yn Sir Drefaldwyn, Sir Benfro, Brycheiniog a Maesyfed, Sir Gaerfyrddin, Dinbych a Fflint ac ym Morgannwg.  Cynhelir rhagor o gyfarfodydd ar gyfer aelodau yng Ngwent ar nos Lun 12 Medi i ddechrau am 7.30yh yn Neuadd Bentref Little Mill, Pont-y-p?l; yn Sir Gaernarfon ar nos Lun 12 Medi i ddechrau am 7.30yh yn y brif ystafell ddarlithio yng Ngholeg Glynllifon ac yn Ynys Môn ar nos Fawrth Medi 13 i ddechrau am 7.30yh yn Nhafarn y Rhos, Rhostrehwfa, Llangefni.

“Mae angen trafod dyfodol nifer o bynciau pwysig megis cymorth ariannol, cytundebau masnach a newid deddfwriaethol ac felly rydym yn annog ein haelodau i nodi blaenoriaethau’r polisïau hynny, a fydd yn help i ddatblygu sector amaethyddol Cymreig proffidiol a chynaliadwy, sy'n gallu gwrthsefyll yr ansefydlogrwydd cynyddol ym mhrisiau," meddai Llywydd UAC Glyn Roberts.

Mae UAC yn gweithio'n agos gyda'i aelodaeth drwy ymgynghori, er mwyn sicrhau bod safbwyntiau polisïau’r dyfodol yn cael cefnogaeth y sector amaethyddol yng Nghymru a bod y polisïau yma’n cyflawni anghenion y diwydiant.

Mae'r ymgynghoriad a'r holiadur ar-lein wedi cael eu cynllunio i roi cyfle i bob aelod o’r Undeb roi sylwadau ar rai o'r prif faterion sy'n ymwneud â’r mathau o bolisïau amaethyddol a allai fod o’r budd gorau i Gymru ar ôl i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd.

Hefyd, mae lle ar yr arolwg ar gyfer sylwadau unigol ar sut neu a ddylai amaethyddiaeth Cymru a’n cymunedau gwledig newid mewn ffordd sy’n gwella ein cynaliadwyedd ariannol, amgylcheddol a diwylliannol.

"Mae UAC yn parhau i fod mewn cysylltiad rheolaidd â Gweinidogion Cymru a'r DU a gweision sifil ac mae bellach yn bwysig ein bod yn nodi'r cyfleoedd posib ar gyfer amaethyddiaeth yng Nghymru yn dilyn Brexit. Byddwn yn trafod canlyniad yr ymgynghoriad mewnol a’r arolwg ar-lein yn ein cyfarfod nesaf o’r Prif Gyngor ar ddiwedd y mis ac yna byddwn yn trosglwyddo ein hargymhellion i’r Llywodraeth,” ychwanegodd Glyn Roberts.

UAC yn cyhoeddi siaradwyr ‘Cynhadledd Amaeth Cymru’

Mae’r rhestr gychwynnol o siaradwyr wedi cael ei datgelu ar gyfer cynhadledd Amaeth Cymru, sy’n cael ei drefnu gan Undeb Amaethwyr Cymru ar y thema o ‘Gyfleoedd am dyfiant yn dilyn Brexit’.

Cynhelir y gynhadledd ar Hydref 6, yng Nghanolfan yr Aelodau ar Faes y Sioe Frenhinol, Llanelwedd i ddechrau am 9.30yb.

Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr Alan Davies: “Nid cynhadledd am ffermio’n unig yw hon, rydym am gydnabod pwysigrwydd amaethyddiaeth yn ehangach, boed hynny gyda’r gadwyn gyflenwi, sut mae arian yn cylchredeg o fewn yr economi leol, lle mae pobl yn goroesi, lle mae elw’n cael ei wneud neu drwy gadw ein cymunedau a sicrhau bod ein diwylliant yn parhau i fynnu.  Am y tro cyntaf mewn 40 mlynedd, mae yna gyfle yma i ni greu cynllun hirdymor sydd o fudd i Gymru.  Os byddwn yn canolbwyntio ar hynny - mi fydd yn digwydd.

“Mae’n rhaid i ni benderfynu beth yr ydym am i Gymru fod a'r hyn yr ydym am ei gyflawni.  Ein cyfrifoldeb ni yw llunio dyfodol cynaliadwy a proffidiol ar gyfer ein plant a’n hwyrion ac mae'n rhaid i ni gydnabod y cyfle gwych i lunio byd ôl-Brexit sy'n addas ar gyfer amaethyddiaeth Cymru a Phrydain.  Mae'r gynhadledd hon, heb amheuaeth, yn gyfle i glywed beth sydd gan ystod eang o siaradwyr i’w ddweud, ac mi fydd yn llawn gwybodaeth i bawb sy'n credu bod amaeth o bwys wrth lunio ein heconomi wledig a sefydlu Cymru fel pwerdy gwledig.”

Catrin Haf Jones, newyddiadurwraig ITV Cymru fydd yn cadeirio’r gynhadledd.

Bydd siaradwyr y dydd yn cynnwys Prif Swyddog Strategaeth AHDB Tom Hind; Pennaeth Economeg a Pholisi Chymdeithasol a Cyfarwyddwr Ymchwil y ‘Policy Exchange’ a cyn aelod y Gr?p economyddion ‘Vote Leave’ Yr Athro Warwick Lightfoot; Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, Llywodraeth Cymru Sophie Howe; Dirprwy Brif Weithredwr RWAS ac Ysgolhaig Nuffield Aled Jones; Swyddog Gweithredol Datblygu’r Farchnad Allforio Hybu Cig Cymru Deanna Leven          a sylfaenydd a chyfarwyddwr Environmental Systems, ymgynghoriaeth amgylcheddol ac amaethyddol Steve Keyworth.

Cyhoeddir enwau rhagor o siaradwyr maes o law.

Dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts: “Mae’r paratoadau ar gyfer ein Cynhadledd Amaeth Cymru yn ei hanterth, ac rydym yn edrych ymlaen at ymchwilio’r nifer o agweddau a chyfleoedd am dyfiant yn dilyn Brexit.

"Mae rhestr wych o siaradwyr gyda ni, sy'n arbenigwyr yn eu maes ac yn sicr o gynnig persbectif gwahanol a mewnwelediad i'r hyn sydd i ddod yn y dyfodol unwaith y byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd o ran ein heconomi, masnach, technoleg a’n cymunedau cymdeithasol.

"Rwyf am annog pawb sydd â diddordeb mewn #AmaethAmByth i archebu lle ar gyfer y gynhadledd cyn gynted â phosibl ar ein gwefan www.fuw.org.uk neu drwy ffonio ein prif swyddfa ar 01970 820280, gan fod llefydd ar sail y cyntaf i’r felin.”

UAC yn dweud wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig pa mor bwysig yw amaethyddiaeth i’r economi wledig

[caption id="attachment_6792" align="alignleft" width="300"]Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig Lesley Griffiths; Eirlys Thomas a Dirprwy Lywydd UAC Brian Thomas Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig Lesley Griffiths; Eirlys Thomas a Dirprwy Lywydd UAC Brian Thomas[/caption]

Bu criw o swyddogion Undeb Amaethwyr Cymru yn cyfarfod ag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig Lesley Griffiths (dydd Llun, 15 o Awst) i drafod pwysigrwydd economaidd a chymdeithasol ehangach amaethyddiaeth i’r economi wledig a threfol yn ogystal  ag annog y genhedlaeth nesaf i’r diwydiant.

Cynhaliwyd y cyfarfod ar fferm Llwyncelyn Lan, Llanfyrnach - cartref Dirprwy Lywydd UAC Brian Thomas, sydd wedi bod yn ffermio yma ers 1988. Yna, bu’r criw’n ymweld â Mansel Davies & Son Ltd i drafod hanes a natur y busnes a'i berthynas â'r diwydiant amaethyddol a'r economi wledig.

Mae Brian Thomas yn ffermio 280 erw, gyda 30 erw o’r tir hwnnw’n goetir yng Ngogledd Sir Benfro, ac yn cadw buches o 100 o wartheg Byrgorn, diadell o 300 o ddefaid, ac yn tyfu grawnfwydydd hefyd.

Yn siarad ar ôl y cyfarfod yngl?n â pham fod ffermio mor bwysig i'n heconomi wledig, dywedodd Dirprwy Lywydd UAC Brian Thomas: "Hoffwn yn gyntaf oll ddiolch i Lesley Griffiths am gwrdd â ni yma ar y fferm deuluol. Cawsom drafodaethau eang ar faterion ffermio a manteisiwyd ar y cyfle i dynnu sylw at y rhan bwysig mae ffermio’n chwarae yn ein heconomi wledig.

"Os ydym am annog y genhedlaeth nesaf i ddechrau ffermio mae'n rhaid iddo fod yn ymarferol iddynt wneud hynny. Wrth edrych o gwmpas yr ardal hon, dim ond 1 o bob 8 fferm sydd â phlant sydd am gymryd awenau’r busnes teuluol.  Ar gyfartaledd, oedran y ffermwyr yn fy ardal leol i yw 60 mlwydd oed neu’n fwy, felly mae’n rhaid sicrhau bod gan y ffermydd hyn ddyfodol er mwyn lles ein heconomi wledig.

[caption id="attachment_6791" align="alignright" width="300"]Cynrychiolydd cangen Sir Benfro o UAC John Savins; Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig Lesley Griffiths a Dirprwy Lywydd UAC Brian Thomas. Cynrychiolydd cangen Sir Benfro o UAC John Savins; Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig Lesley Griffiths a Dirprwy Lywydd UAC Brian Thomas.[/caption]

"Rwy'n gweld bod dyfodol ffermio gyda’r ieuenctid. Ond, gydag incwm aelwyd fferm ar gyfartaledd tua £13,000 y flwyddyn ac yn gweithio fwy na 60 awr yr wythnos - pam fydden nhw am ffermio? Oherwydd natur y busnes, dim ond 1 cam sydd rhyngom ni ac argyfwng.

"Mae ein busnesau ffermio yn rhoi sefydlogrwydd i’r economi wledig, incwm ar gyfer ein plant a'n teuluoedd ac yn cadw cymunedau ynghyd. Mae cyfle gyda ni nawr i wneud rhywbeth mawr - creu ein dyfodol ni yn nhermau marchnadoedd a deddfwriaethau, pwynt yr ydym wedi ei drosglwyddo’n glir i'r Ysgrifennydd Cabinet yma heddiw."

Mae Stephen a Kaye Mansel Davies o Mansel Davies & Son Ltd yn pwysleisio pa mor bwysig yw’r ail a'r trydydd sector busnes i’n heconomi wledig.

Sefydlwyd y cwmni ym 1875 gan y diweddar John Davies. Ymunodd ei fab, Mansel Davies, a’r busnes ym 1900 ac mae'r cwmni yn parhau i ddefnyddio’r enw yma heddiw. Bellach, mae'r cwmni’n cael ei redeg gan Kaye Mansel Davies (Cadeirydd),  y 4ydd cenhedlaeth, a'i fab Stephen Mansel Davies (Rheolwr Gyfarwyddwr) – mae’r genhedlaeth nesaf eisoes yn rhan o’r cwmni.

[caption id="attachment_6793" align="alignleft" width="300"](chwith i’r dde) Stephen Mansel Davies; Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig Lesley Griffiths; Kaye Mansel Davies; Dirprwy Lywydd UAC Brian Thomas a Llywydd UAC Glyn Roberts. (chwith i’r dde) Stephen Mansel Davies; Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig Lesley Griffiths; Kaye Mansel Davies; Dirprwy Lywydd UAC Brian Thomas a Llywydd UAC Glyn Roberts.[/caption]

Ar hyn o bryd maent yn cyflogi dros 300 o bobl ac yn gweithredu 180 o dryciau gyda phob un o’r gweithwyr yn byw o fewn 40 milltir o Lanfyrnach. Ar wahân i'r awdurdod lleol a'r burfa olew nhw yw’r cyflogwyr mwyaf yn Sir Benfro, gyda throsiant blynyddol o ychydig dan £30 miliwn.

Dywedodd Stephen Mansel Davies fod 90% o waith y cwmni yn gysylltiedig ag amaethyddiaeth, gan ddweud: "Ni yw’r cludwr llaeth mwyaf yng Nghymru, yn casglu 1.4 miliwn litr y dydd ar ran 7 prynwyr gwahanol ac yn dosbarthu i’r DU ar ran dau brynwr arall.   Mae cyfanswm ein symudiadau llaeth neu gynnyrch llaeth yn dod i tua 4 miliwn litr y dydd."

Mae'r cwmni'n dosbarthu llaeth a chynhyrchion llaeth i broseswyr yng Nghastell Newydd Emlyn, Llangefni, De Caernarfon, Felinfach, Acton, Llundain, Southampton, Droitwich, Bridgewater, Westbury, Gogledd Tawton, Aylesbury, Caer, Severnside a nifer o ffatrïoedd eraill o amgylch y DU.

Rhan bwysig arall o’r busnes yn dosbarthu bwydydd anifeiliaid yn yr ardal. Mansel Davies yw un o’r cyflenwyr mwyaf o gerrig calch sydd hefyd yn cael ei wasgaru ar y tir ar gyfer niwtraleiddio pridd.

Yn dilyn y cyfarfod gydag Ysgrifennydd y Cabinet, dywedodd Stephen Mansel Davies: "Mae angen i bawb sy’n rhan o’r Llywodraeth ddeall pa mor bwysig yw amaethyddiaeth i Gymru - dyma'r unig ddiwydiant hirdymor cynaliadwy sydd gyda ni. Wrth edrych ar y niferoedd sy’n cael eu cyflogi yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol gan y sector, mae'n llawer mwy pwysig na beth mae pobl a’r Llywodraeth yn feddwl.

[caption id="attachment_6790" align="alignleft" width="300"](chwith i’r dde) Llywydd UAC Glyn Roberts; Stephen Mansel Davies; Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig Lesley Griffiths a Kaye Mansel Davies. (chwith i’r dde) Llywydd UAC Glyn Roberts; Stephen Mansel Davies; Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig Lesley Griffiths a Kaye Mansel Davies.[/caption]

"Mae amaethyddiaeth a’r diwydiant llaeth yn arbennig newydd fod trwy gyfnod anodd iawn gyda phrisiau’r fferm yn gostwng wrth oddeutu 30% sydd ddim yn gynaliadwy. O ganlyniad uniongyrchol i’r prisiau llaeth isel rydym wedi gweld faint sy’n cael ei gynhyrchu yn gostwng 11% o fis Gorffennaf 15 i Orffennaf 16. Os caiff Brexit ei reoli’n gywir, rwy’n gweld y gallai ddod a manteision cadarnhaol hirdymor i amaethyddiaeth - rhan bwysig o hyn fydd rheolaeth y llywodraeth o’r cyfnod pontio yn y tymor byr."

Bydd yr Undeb yn parhau i dynnu sylw at bwysigrwydd ffermio, drwy gyfarfodydd rheolaidd gyda’r rhai sy’n gwneud y penderfyniadau pwysig, rhanddeiliaid y diwydiant, yn ogystal â’r Llywodraethau yn San Steffan a Chaerdydd.